Daeth y flwyddyn i ben i dim pêl-droed Tal-y-bont gyda pherfformiad cymysglyd a oedd yn nodweddiadol o'r flwyddyn gyfan. Ar bnawn Sadwrn braf and oer 27 Rhagfy chwaraewyd gêm siomedig a rhwystredig yn erbyn Eilyddion Dolgellau. Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn y gêm ac er i Dal-y-bont frwydro `nol yn yr ail hanner, methwyd a manteisio ar sawl cyfle da. Serch hynny llwyddodd Dylan Roberts i rwydo un gôl i unioni'r sgor ac 1-1 oedd hi ar y diwedd. Wedi disgyn o'r adran gyntaf ar ddiwedd y tymor diwethaf, roedd gobaith y gallai bechgyn Tal-y-bont esgyn yn ôl y tymor hwn and mae 'na gryn frwydr o'u blaenau. Serch hynny mae digon o gemau i'w chwarae eto a gobeithio y bydd 2009 yn fwy llwyddiannus na 2008.
 |