Trefnwyd teithiau cerdded ar hyd llwybrau'r sir, gan fwynhau y golygfeydd godidog. Bu nifer o bobl yn cerdded ar wahanol ddiwrnodau. Cydlynydd y daith oedd Dewi Hughes, Aberystwyth. Fe welwyd Pafiliwn Pontrhydfendigaid a Chanolfan Hamdden Llangrannog o dan ei sang pan fu tua 2500 o blant cynradd yn llenwi'r lle yn ei jamboris o dan ofal Gwenda Owen a'r band. Ar y prynhawn dydd Gwener, gwelwyd rai o gymeriadau Pentrebach yn ymddangos hefyd sef Bili Bom Bom a Coblyn. Lawnswiyd y Rhestr Testunau hefyd ar y prynhawn dydd Gwener. Tynnwyd y raffl hefyd a dyma'r enillwyr: 1. Amanda Jones 14 Talar Deg, Llanilar, Aberystwyth, 2 Ray Darby, Borth, 3. Geraint Morgan, Hen Ysgol Bwlchllan. I gloi'r wythnos cynhaliwyd gig gyda Gwibdaith Hen Frân a bandiau eraill ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid. Trefnwyd y gig ar y cyd rhwng Pwyllgor Ieuenctid yr Eisteddfod a Chlybiau Ffermwyr Ifanc y Sir gyda chefnogaeth gan Bafiliwn Bont, Cyngor Sir a Chymunedau yn Gyntaf, gyda'r elw yn cael ei rannu rhwng yr Eisteddfod ac apêl y Sioe Frenhinol. Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Dymuniadau gorau i bawb sydd yn cystadlu yng Nghaerdydd ar ddiwedd mis Mai. Gobeithio y cawn weld eich lluniau yn rhifyn mis Mehefin. Os oes rhywun a fyddai'n medru stiwardio ar stondin 2010 yng Nghaerdydd neu yn Bala i gysylltu â Nia ar 01570 480015.
 |