Rhan 3 - (1929-1948) Yr Atgyfodiad
Ond yn 1929 cafwyd atgyfodiad. Enillodd gadair Eisteddfod Lerpwl ar destun priodol iawn - Dafydd ap Gwilym.
Flwyddyn yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, Dewi Emrys gipiodd y gadair am ei awdl Y Galilead. Er ei fod yn hanner can mlwydd oedd roedd yn parhau i fod yn wrthryfelgar a chafwyd cythrwfl arall yn Eisteddfod Llanelli. Bu swyddogion yr Eisteddfod yn poeni ers amser fod y gyfrinach ynglŷn ag enillydd y goron a'r gadair yn cael ei datgelu yn gynnar bob blwyddyn.
Felly, yn 1930, penderfynodd y swyddogion beidio â rhoi gwybod i'r bardd buddugol gan obeithio y byddai'n bresennol yn y seremoni ac yn gwrando ar y feirniadaeth. Yn ffodus i bawb roedd Dewi yn Eisteddfod Llanelli ar Ddydd Iau'r cadeirio ond, wrth gwrs, nid oedd wedi cael unrhyw rybudd ymlaen llaw ei fod wedi ennill. Credai mai ymgais i'w sarhau oedd y drefn newydd o beidio â hysbysu'r bardd buddugol ymlaen llaw.
Aeth 13 mlynedd heibio cyn iddo lwyddo i gipio ei gadair nesaf, sef ym Mangor yn 1943, ac enillodd ei bedwaredd gadair yn Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr yn 1948.
Yn fuan ar ôl ennill ei bedwaredd gadair cyflwynwyd rheol sy'n gwahardd unrhyw un rhag ennill y Goron na'r gadair fwy na dwywaith. Felly, Dewi Emrys fu'n gyfrifol am y newid oherwydd roedd yn bwgwth parhau i ennill cadeiriau cenedlaethol.
Bu Dewi'n gystadleuydd cyson mewn eisteddfodau am dros ddeugain mlynedd ac enillodd rhai cadeiriau i'w gyfeillion hefyd!
Pan enillodd gadair yn Eisteddfod Corwen am awdl i'r Nos nid oedd Dewi yno a chyhoeddwyd enw'r buddugol fel D Jones, Eagle Inn, Llanfihangel-ar-arth, Sir Gaerfyrddin.
Ond nid oedd hwnnw yno. Awgrymir bod Dewi wedi defnyddio enw'r tafarnwr hwn rhag ofn y byddai'r cyhoeddusrwydd a ddeuai yn sgil cyhoeddi ei enw ef yn fuddugol yn rhoi syniad i'w wraig ble yr oedd, ac nid yn unig ei wraig, ond efallai rhai eraill yr oedd mewn dyled iddynt. Ta beth, bu un o gadeiriau eisteddfodol Dewi i'w gweld yn yr Eagle Inn am flynyddoedd wedyn.
Er iddo eisteddfota cymaint ni ddysgodd Dewi erioed sut i golli'n anrhydeddus. Byddai wastad yn barod i godi twrw os enillai bardd arall y blaen arno. Doedd dim ots ganddo ddod yn bumed ond ni allai ddygymod â dod yn ail. Daeth yn ail i Cynan ym Mhrifwyl Bangor yn 1931.
Tybiai fod dau o'r beirniaid, Dyfnallt a'i hen elyn, WJ Gruffydd, wedi rhoi eu pennau at ei gilydd ac wedi penderfynu na châi Dewi'r goron. Yr oedd hefyd si gref ar led, ar ôl i'r beirniaid atal y Gadair yn Eisteddfod Caergybi yn 1927, mai Dewi Emrys oedd y gorau a'i fod yn deilwng o'r gadair nes i'r beirniaid ddarganfod pwy oedd wedi ennill.
Daniel Davies