Rhan 2 - (1908-1929) Mas a Lawr
Ond aeth Dewi i ddyled eto yn ei ofalaeth newydd. Roedd dwy chwaer Cissie yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn y Mans ac roedd yn rhaid cyflogi morwyn i weini arnynt oll.
Yna daeth tro ar fyd. Yn 1917 cefnodd Dewi ar ei eglwys, ei wraig, a'i blant ac ymunodd â'r fyddin.
Pan ddaeth y Rhyfel i ben flwyddyn yn ddiweddarach ni ddychwelodd Dewi at ei hen fywyd. Penderfynodd dorri cwys newydd.
Ceisiodd wneud bywoliaeth fel colofnydd ar rai o bapurau a chyfnodolion Stryd y Fflyd, gan gynnwys rhifolyn a gynhyrchwyd gan yr awdur arloesol G K Chesterton.
Ond er bod ganddo'r ddawn i lwyddo fel colofnydd nid oedd ganddo'r dyfalbarhad na'r parodrwydd, na'r dymuniad efallai i weithio'n galed yn Stryd y Fflyd.
Aeth y bardd yn isel iawn ei ysbryd yn ystod y blynyddoedd canlynol ac aeth storïau gwael ar led am ei ymddygiad.
Bu o flaen Llys mwy nag unwaith am wrthod talu tuag at gynnal ei wraig a'i blant ac yn ôl ei dystiolaeth ei hun bu mor dlawd ac anghenus fel y bu'n rhaid iddo gysgu sawl noson ar yr Embankment ymhlith trueiniaid y Brifddinas.
Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd Dewi erthygl yn y cylchgrawn 'Titbits' am ei brofiadau yn cysgu o dan y sêr ar lannau'r Tafwys.
Yn y cyfnod hwn hefyd, ar ôl cael ei wrthod gan ei enwad a Chymry Llundain, gwnaeth nifer o bethau a ddigiodd y bobl well na'i gilydd a arferai ei barchu. Mae sôn amdano'n canu â'i het yn ei law y tu allan i gapel Kings Cross. Mae hefyd stori amdano'n canu tu allan i lawer o gapeli yng Nghymru a Lloegr.
Yr oedd Dewi wedi cael ei siomi gan y diffyg cardod Gristnogol ymhlith y Cymry Cymraeg y bu'n eu gwasanaethu. Canai o flaen capeli er mwyn creu anesmwythyd yng nghalonnau'r bobl barchus y tybiai iddynt ei fychanu a'i fradychu.
Ond ym Mis Awst 1926 daeth llwyddiant i godi ei galon. Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am ei gasgliad o gerddi - Rhigymau'r Ffordd Fawr.
Roedd wedi ennill nifer o gadeiriau pwysig cyn hyn, y rhain i gyd, mwy na thebyg, wedi'u gwerthu. Rhoddodd llwyddiant Eisteddfod Abertawe gyfle i Dewi sefydlu ei hun fel un o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru. Rhoddodd hefyd gyfle iddo ddechrau ar drywydd newydd. Roedd y cyhoeddusrwydd yn aruthrol a gwnaeth Dewi'n fawr ohono.
Nid yn unig yr enillodd y Goron a £25 yn Abertawe, ond daeth yn gydradd gyntaf hefyd yn y gystadleuaeth am 'Ddarn o Farddoniaeth mewn tafodiaith'. Darn Dewi oedd ei gerdd enwocaf, sef, Pwllderi.
Yn ystod wythnos Eisteddfod Abertawe bu'n aros mewn gwesty moethus - y Mackworth - ac yno y bu'n cynnal ei lys bob nos tan oriau mân y bore.
Ond cyn diwedd yr wythnos daeth tro trwstan a danseiliodd ei holl lwyddiant. Oherwydd y cyhoeddusrwydd a ddaeth yn sgil ennill y goron, daeth ei wraig i wybod ble yr oedd - mae rhai yn
dweud ei bod wedi clywed y newyddion ar y radio.
Gan nad oedd Dewi wedi talu dim at ei chynnal hi na'r plant ers amser maith aeth ag ef i'r gyfraith. Cyhoeddwyd gwarant i'w ddwyn i'r ddalfa.
Yn ôl T Llew Jones, bachgen o Abergwaun oedd yn blismon yn Abertawe a gafodd y dasg o arestio Dewi. Yn lle ei ddwyn i'r ddalfa aeth ati i hawlio'r rhan fwyaf o arian y wobr a enillodd Dewi yn yr Eisteddfod i ddileu'r ddyled. Doedd hyn ddim yn ddigon, felly aeth y plismon ati i gasglu'r gweddill oddi wrth ei gyfeillion eraill o Sir Benfro er mwyn i'r bardd gael ei draed yn rhydd.
Mae Eluned Phillips, yn ei llyfr amdano, yn awgrymu mai dyma'r rheswm i Dewi roi ei Goron mewn 'pawn shop' yn Abertawe. Ni ddaeth y Goron honno byth yn ôl i'w ddwylo. Deng mlynedd yn ddiweddarach fe'i prynwyd yn yr un 'pawn shop' y diwrnod cyn iddi gau am byth gan ddyn o'r enw Wilfred Harrison o Gei Newydd - y pentref lle ganwyd Dewi.
Meddyliai llawer y byddai buddugoliaeth 1926 yn parchuso Dewi ond aeth pethau o ddrwg i waeth. Yn 1927 cafodd ei arestio a'i ddwyn gerbron y Llys am dalu pobl â sieciau nad oedd dim yn y banc ar eu cyfer. Cafodd ei ryddhau yn amodol trwy ddweud fod arian ar y ffordd ond fe'i harestiwyd yr un dydd am fod ar ei hôl hi â'r taliadau tuag at gynnal ei wraig a'i blant unwaith eto.
Daniel Davies