Rhan 1 - (1881-1908) O'r Cei i Lundain
Ganed Dewi Emrys James yn Majorca House, Cei Newydd, Ceredigion, ar 28 Mai 1881. Ei dad oedd y Parch Emrys James a symudodd y teulu i Rosycaerau, Penfro, wyth mlynedd yn ddiweddarach.
Yno yn Sir Benfro y treuliodd Dewi flynyddoedd ei ieuenctid cynnar. Gadawodd y fro honno o gwmpas Pen Caer a Charn Gowil argraff fawr ar farddoniaeth Dewi. Er iddo grwydro llawer, yr ardaloedd hyn o gwmpas Pen Caer, Pwllderi a'r Garreg Wastad - lle glaniodd y Ffrancod yn 1797 - oedd ei gartref ysbrydol ac yn ôl yr ysgrif i Jac yr hen gi defaid, yno y dymunai farw a gorwedd.
Er hynny cafodd ei gladdu ym mynwent Pisgah, Talgarreg, ond gofalodd rhai o'i gyfeillion fod dyrnaid o bridd ei hen fro'n cael ei daflu ar ei arch cyn cau'r bedd yn 1952.
Addysgwyd Dewi yn Ysgol Pencaer, Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun ac Ysgol Uwchradd Abergwaun. Yna aeth yn brentis fel cysodydd a chyw-newyddiadurwr yn Swyddfa'r County Echo yn Abergwaun.
Yn fuan wedyn dechreuodd ei dad dioddef o afiechyd gwael a'i cadwodd o'r pulpud am dros ddeuddeng mlynedd. Bu'n rhaid i'r teulu symud o Rosycaerau a mynd i fyw i Gaerfyrddin, lle cafodd Dewi waith ar y Carmarthen Journal fel newyddiadurwr a chysodydd.
Erbyn hyn roedd wedi dechrau ymddiddori mewn adrodd. Gyda throad y ganrif yr oedd Eisteddfodau mawr wedi dod yn boblogaidd yn Ne Cymru ac roedd arian da i'w ennill gan gantorion ac adroddwyr.
Fe fu Dewi'n hynod o lwyddiannus fel adroddwr, yn curo cewri'r dydd. Efallai mai ei lwyddiant fel adroddwr a ysgogodd ei ffrindiau i'w annog i ddilyn llwybr ei dad i'r weinidogaeth.
Gadawodd ei waith fel cysodydd a dychwelyd i'r ysgol. Aeth i'r Coleg Presbyteraidd ar ben y rhestr yn 1903. Ar ôl cyfnod fel gweinidog yn Nowlais derbyniodd Dewi alwad gan Eglwys Saesneg Bwcle, Sir Y Fflint. Symudodd yno yn 1908. Pan oedd yn weinidog yno fe fynnodd y glowyr oedd yn gweithio dan y ddaear gael ffôn o'r pulpud yn y capel i lawr i waelod y pwll fel y gallent glywed Dewi'n pregethu ymhell uwch eu pennau.
Yn ystod haf 1908 priododd Dewi â Cissie Jenkins, merch swanc o Gaerfyrddin. Ychydig wyddon ni am ei wraig heblaw am y ffaith nad oedd y briodas yn llwyddiant.
Dywedodd perthynas i Dewi amdani:"Not the right type. Decorative with airs. Very extravagant."
Ta waeth, rhoddodd Cissie enedigaeth i ddau fab - Alun a Gwyn - yn ystod cyfnod y teulu ym Mwcle.
Symudodd Dewi a'i deulu i Bontypridd yn 1911 lle cyrhaeddodd ei binacl fel pregethwr. Roedd galw arno i bregethu trwy Gymru benbaladr. Yn ystod y cyfnod toreithiog hwn yn ei hanes daeth ei broblemau teuluol i'r amlwg.
Dywedir bod Cissie'n un wastraffus, heb lawer o syniad sut i fyw ar gyflog gweinidog. Aeth y teulu i ddyled dros eu pennau a'u clustiau a rhoddwyd pwysau ar Dewi i dalu ei ddyledion neu fynd i'r Llys.
Dyna pryd y daeth yr alwad i weinidogaethu yn Finsbury Park, Llundain. Roedd hon yn swydd sylweddol gyda chyflog o £500 y flwyddyn.
Er i bobl Pontypridd wneud popeth i geisio ei gadw - hyd yn oed cynnig talu ei holl ddyledion - gwrthododd Dewi, a symud i Ogledd Llundain fu yr hanes.
Daniel Davies