Cyn aelod o'r grŵp Bwchadanas, yn un o gantoresau gwerin amlyca' Cymru ac arweinydd Parti Cut Lloi.
Ganed yn Llanerfyl, Sir Faldwyn yn 1962 a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanerfyl, Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Cerddoriaeth, ac ennill cymhwyster dysgu. Fe'i magwyd ar aelwyd ddiwylliedig, ac fe'i trwythwyd yn y pethe o oedran cynnar. Dechreuodd gystadlu a chymryd rhan mewn eisteddfodau pan oedd ond yn dair oed, a dysgodd i ganu'r piano yn chwech oed, y feiolin yn wyth oed a'r fiola yn un ar ddeg oed. Cyn ei bod yn ddeunaw, roedd wedi dechrau perfformio'n fyw ar lwyfan gyda'i dehongliad o ganeuon gwerin Cymraeg, ynghyd â chyfansoddiadau ei hun - arwydd clir o'r hyn oedd i ddod.
Tra yr oedd yn y coleg, datblygodd ei diddordeb mewn cyfansoddi o dan ddylanwad ei thiwtor a'r cyfansoddwr enwog, William Mathias. Yn yr un cyfnod, ffurfiodd y band gwerin Bwchadanas gyda chriw o ffrindiau. Rhyddhawyd un albym 'Cariad Cywir', sy'n gyfuniad bywiog o arddulliau gwerin a roc.
Ym 1990, rhyddhaodd Siân James ei halbym unigol cyntaf, 'Cysgodion Karma' sy'n gymysgedd o ganeuon traddodiadol a gwreiddiol ac roedd ei hail albym 'Distaw' yn cynnwys caneuon gwreiddiol yn bennaf, ond roedd unwaith eto yn cynnwys dehongliadau ei hun o ganeuon gwerin traddodiadol.
Traddodiadol yn unig oedd 'Gweini Tymor' a ryddhawyd yn 1996, ond roedd y nesaf 'Di-gwsg' yn ganeuon gwreiddiol mewn arddull Geltaidd. Comisiynwyd ei phumed albym 'Birdman' fel trac sain i gyfres chwe rhaglen gan BBC 2 o'r un enw. Mae ei chasgliad diweddaraf 'Pur' (2001) yn fwy o adlewyrchiad o'i pherfformiadau byw, gan mai dim ond llais a thelyn a glywir.
Fel rhan o'r grŵp Bwchadanas ac fel perfformiwr unigol, mae Siân James wedi teithio yn helaeth o amgylch o byd, gan chwarae mewn gwyliau a chyngherddau yn y gwledydd Celtaidd, Ffrainc, Sbaen a Gogledd America.
Mae cryn ddiddordeb yn ei gwaith ar lefel ryngwladol, ac mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr adfywiad mewn cerddoriaeth Geltaidd draddodiadol a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng ngogledd America.
Bydd Siân James yn adnabyddus i wylwyr S4C hefyd fel actores mewn ffilmiau fel Y Dylluan Wen a chyfresi fel Iechyd Da. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod hefyd, lle gwahoddodd artistiad gwerin rhyngwladol fel The Saw Doctors a Capercaillie i gymryd rhan, arwydd o'r parch sydd ati yn y cylchoedd gwerin a chanu Celtaidd.
Gyda'i llais clir, melys, sy'n offeryn amryddawn ynddo'i hun, ar adegau yn gorwynt o gryf, dro arall yn gysurlon o dyner, go brin ein bod wedi clywed hanner yr un sydd gan y berfformwraig dalentog hon i'w gynnig.
Sian James, yn anad neb arall, yw wyneb canu traddodiadol Cymreig yng ngolwg y byd, a bydd yn ddiddorol gweld dros y blynyddoedd nesaf i ba gyfeiriad yr aiff yn gerddorol a phroffesiynol.
Mae Siân James hefyd yn arweinydd Parti Cut Lloi, criw o ddynion yn Sir Drefaldwyn sy'n diddanu cynulleidfaoedd yn canu alawon gwerin a pherfformio sgetsys byrion mewn neuaddau pentre' ledled Cymru.