Cantores, cyn aelod o'r grŵp Plethyn a chyflwynydd Radio Cymru
Yn enedigol o Fferm Pen Bryn rhwng Meifod a Phont Robert, fe'i ganed yn y Trallwng, a'i haddysgu yn Ysgol Gynradd Pontrobert ac Ysogl Uwchradd Llanfair Caereinion. Aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r astudiodd y Gymraeg ac Addysg. Gweithiodd mewn swydd weinyddol nes iddi adael i fagu teulu - tair o ferched (Lisa, Gwenno a Mari) yn ogystal â rhedeg fferm fechan a gweithio ar ei liwt ei hun fel cyfieithydd proffesiynol. Rhwng 1998 - 2002, bu'n un o gyflwynwyr y rhaglen deledu Cwmni Hon ar S4C digidol. Bu hefyd am gyfnod yn gweithio ar un o brosiectau Bwrdd yr Iaith - cynllun Twf.
Mae hi bellach yn fwy cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru fel Gohebydd y Canolbarth ar raglen foreol 'Hywel a Nia' ac mae'n cyflwyno ei rhaglen ei hun ar nos Sul.
Ffurfiodd y grŵp gwerin Plethyn gyda Jac a Roy yn ei harddegau, a'r grŵp hwn fu prif gyfrwng ei llais pur a naturiol am flynyddoedd lawer. Nodweddwir eu harddull gan barch at draddodiad y plygain, a sylw i alaw draddodiadol a chynghanedd gerddorol, a chanu soniarus di-ymdrech.
Hanner y stori yw'r canu, fodd bynnag, gan fod Plethyn hefyd, drwy eu caneuon yn adrodd straeon am eu hardal genedigol a'i chymeriadau, a hynny mewn ffordd hyfryd o ddi-sentiment.
Yn anad unrhyw grŵp arall o unrhyw ran arall o Gymru, mae modd cyplysu llais Linda a harmoneiddio Plethyn gyda darn o dir ac ymdeimlad o le arbennig, a bro Maldwyn yw hwnnw, wrth gwrs.
Rhyddhaodd Plethyn naw casgliad, ac maent yn cynnwys 'Blas y Pridd', 'Golau Tan Gwmwl', 'Rhown Garreg ar Garreg', 'Teulu'r Tir', 'Caneuon Gwerin i Blant', 'Byw a Bod', 'Drws Agored', 'Blas y Pridd/Golau Tan Gwmwl' a 'Seidir Ddoe'. Rhyddhawyd 'Goreuon Plethyn' yn Eisteddfod Maldwyn yn 2003.
Ar ei liwt ei hun, rhyddhaodd dri chasgliad, sef 'Amser' (1988), 'Plant y Môr' (1993) ac 'Ôl ei Droed' (2003). Mae'r casgliad diweddaraf hwn yn cynnwys caneuon dwys a llawn teimlad, a llais Linda mor glir ag erioed.
Mae'n cynnwys cyfraniadau gan hen gyfoedion, megis Tudur Morgan a Myrddin ap Dafydd, a fu'n gyfrifol am ysgrifennu llawer o eiriau caneuon Plethyn dros y blynyddoedd.
Yn anad neb arall, Linda Griffiths a Plethyn yw gwarchodwyr canu gwerin digyfeiliant traddodiadol Cymreig, gan lwyddo i symud y traddodiad ymlaen a pharchu ei hanfodion, a chydnabyddir ei phwysigrwydd yn yr adfywiad canu gwerin Celtaidd ym mhedwar ban byd.