Adar brith teulu'r Cilie
Prin fod unrhyw deulu yng Nghymru yn fwy nodedig na theulu'r
Cilie, sef saith o fechgyn a phump o ferched Jeremiah a Mary Jones
o Gwmtydu ar arfordir de Ceredigion. Y bechgyn fu'n gyfrifol am
anfarwoli'r teulu, gyda chwech ohonynt yn etifeddu dawn farddonol
eu tad.
Fel ym mhob teulu mawr roedd yna un aderyn brith, a'r pumed
plentyn, John Tydu, oedd hwnnw.
Yn 21 oed, yn dilyn cythrwfl pan
fynnodd ddial ar un a wnaeth dro gwael ag ef, ffodd John i Ganada lle
bu'n byw bywyd mor anturus fel y gallai ei hanes fod yn destun un o
nofelau Jack London.
Ac oedd, yn goron ar y cyfan, roedd John yn
fardd.
Cweryl a charcher
Roedd gwaed drwg rhwng John a gŵr lleol arall, y Capten David
Griffiths. Mae'n debyg i'r capten bardduo enw John ac i hwnnw ei
daro â darn o haearn.
Casglwyd digon o dystiolaeth i gyhuddo John
ar ddiwedd 1901, a threuliodd flwyddyn o gosb llafur caled yng
Ngharchar Caerfyrddin.
Nid oedd ond deunaw oed ar y pryd, ac
ymhlith y cerddi a ysgrifennodd ar fur ei gell roedd hon:
Rwyf yma mewn unigedd mawr
Yn drist fy ngwedd mewn galar,
A rhoi pysgodyn ar dir sych
Yw rhoddi bardd mewn carchar.
Yn y cyfamser, bu farw ei dad a beiai John ei hunan am hynny, gan
gredu i'w ymddygiad brysuro'i farwolaeth.
John, mae'n debyg, oedd
ffefryn y tad, a phan oedd Jeremiah yn clafychu, cyfansoddodd John
y cwpled teimladwy hwn:
Fi oedd y mwya'n ei fyd,
Ef y mwya'n fy mywyd.
Bywyd newydd yng Nghanada
Ar ôl meddwl yn ddwys, penderfynodd John ymfudo i Ganada a
gadawodd ar yr Empress of Canada ym mis Chwefror 1904 am
Halifax, Nova Scotia, gan ymsefydlu yn Ontario yn gyntaf.
Roedd
hiraeth yn ei lethu o'r dechrau, ac ysgrifennodd at gyfaill yn cwyno
nad oedd y blodau mor lliwgar yno na'r adar mor ddedwydd.
Gweithiodd John yn galed a llwyddodd i ddringo'n uchel mewn
gwahanol fusnesau.
Priododd â merch o'r enw Lilian ac enillai
ddigon o arian fel y gallodd fuddsoddi gyda pherthynas i'r teulu
enwog o fasnachwyr, Pryce-Jones o'r Drenewydd.
Ond daeth y
dirwasgiad a'i broblemau a chollodd John ei fuddsoddiad gan ei
orfodi i fynd i'r Rockies i chwilio am aur. Yna aeth i'r Yukon i
weithio fel torrwr coed.
Symud o ddinas i ddinas fu ei hanes wedyn. Roedd yn dal i
farddoni a byddai'n llythyru'n rheolaidd â'r teulu.
Yn wir, ymwelai
dau o'i neiaint ag ef yn rheolaidd ym Montreal, sef y Capten Jac Alun
a'r Capten Dafydd Jeremiah.
Hiraeth am yr henwlad
Tueddai ei lythyrau i fod yn rhai
hiraethus iawn. Mynegai dro ar ôl tro ei hiraeth am Gilie ac am
Gymru, ond carai hefyd sôn am ei anturiaethau.
Dywedodd iddo
unwaith saethu arth, ei blingo ac yna bwyta'r cig amrwd.
Mewn
llythyr at ei chwaer, Esther, yn 1943 dywedodd ei fod yn paratoi i
ddisgyn i lawr Rhaeadr Niagara mewn casgen.
Gobeithiai wedyn
werthu'r gasgen i rywun o Efrog Newydd am 250,000 o ddoleri!
Yn ystod haf 1937 danfonodd lythyr at y Parchedig Basil Williams
o Abergwaun, caplan carchar Wormwood Scrubs lle'r oedd triawd
Penyberth - Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams - yn
garcharorion wedi iddynt 'losgi beudy John y Tarw' chwedl John
Tydu. Gyda'r llythyr roedd englyn teyrnged i'r tri.
Danfonodd
englynion teyrnged hefyd i Tommy Farr, rhai Saesneg fel y gallai'r
bocsiwr eu deall.
Yn wir, roedd e'n bresennol pan ymwelodd Farr â
Montreal a chafodd yr englynion eu darllen yno.
Amddiffyn y gwan
Câi John Tydu ei
adnabod fel amddiffynnwr hawliau'r dyn bach.
Roedd yn gas ganddo
fwlis, fel y profodd yn ifanc yn ei fywyd, ac roedd yn ddyn a fedrai
ofalu amdano'i hun, mae'n debyg. Dyna, hwyrach, pam roedd Farr
yn gymaint o arwr ganddo.
Dioddefodd salwch, a darganfuwyd fod ganddo nam ar ei galon. Fel petai'n
ofni'r dyfodol, aeth ati i gofnodi ei waith barddonol i gyd mewn llyfr.
Danfonodd nifer o'i gerddi adref i Gymru. Disgrifiodd y casgliad yn y
llyfr fel 'adroddiad yn y cof '.
Mae'r cerddi'n llawn hiraeth, ond yn eu plith
hefyd roedd teyrngedau barddol i bobl enwog fel Roosevelt, Garibaldi, Lloyd
George a Neville Chamberlain.
Ei eiriau enwocaf
Cyfieithodd lawer o'i gerddi i'r Saesneg, ac ar fwa mewnol yn y
Siambr Goffa yn Nhŷr Heddwch senedd-dy Canada yn Ottawa ceir
cwpled o'i waith i gofio am y rhai fu farw yn y Rhyfel Mawr, cwpled o gerdd
o'r enw The Returning Man: All's well, for over there among his peers
A happy warrior sleeps.
Mae'n debyg iddo gyfansoddi'r gerdd pan oedd yn Calgary
ychydig wedi diwedd y rhyfel. Fe'i gwelwyd gan bensaer yr adeilad
a defnyddiwyd y geiriau ar y mur. >
Daeth y cwpled i sylw Stanley
Baldwin, Prif Weinidog Prydain, pan oedd ar ymweliad ag Ottawa ar
gyfer y Gynhadledd Imperialaidd yn y tridegau.
Gwnaed ymchwil i
ganfod pwy oedd yr awdur. Yn wir, yn ddiweddarach, dyfynnwyd y
cwpled gan y brenin Edward VII pan gyflwynodd araith ar Vimy
Ridge.
Bu holi mawr ynghylch pwy oedd y bardd, a danfonodd John
Tydu lythyr i'r Montreal Daily Herald yn dweud mai'r awdur oedd
'dyn yn Calgary, Alberta yn 1919'.
Dim ond wedyn y sylweddolwyd
mai ef ei hun oedd y dyn hwnnw.
Bedd di-nod
Hyd yn oed wedi iddo gyrraedd oedran pensiwn, parhaodd y
Cymro alltud i chwilio am waith.
Aeth i le o'r enw Sultan i weithio
mewn melin lifio, ac yno, ym mis Awst 1947, y bu farw tra oedd wrth
ei waith.
Ni wyddai neb yno unrhyw beth am ei gefndir, ac fe'i
claddwyd ar gwr coedwig gyfagos.
Gofalodd rheolwr y felin lifio
osod pedwar postyn haearn a chadwyn o gwmpas y bedd.
Yna,
canfuwyd mai awdur The Returning Man a orweddai yno a, diolch i'r
Seneddwr Lester Pearson, gosodwyd carreg ar y bedd.
Byddai John Tydu weithiau'n mynd adref i Gwmtydu, y tro cyntaf
yn 1921.
Pan ddychwelai, câi ei adnabod gan bawb yn ei henfro fel
'Jac Canada', ond Cwmtydu oedd wedi ei argraffu ar ei galon.
Cyfansoddodd gannoedd o linellau, ond heb unrhyw amheuaeth, ei
gwpled mwyaf ingol yw hwnnw sy'n cloi ei englyn 'Hiraeth am
Gymru' gyda'r esgyll canlynol:
Tywodyn o Gwmtydu
Yn hollt y rhwyf ydwyf fi.
Gan Lyn Ebenezer