
 |  | Môr o brofiad
Ton ar ôl ton o bleser mewn cyfrol am deulu hynod Dydd Iau, Ionawr 16, 2003
|
Morwyr y Cilie gan Jon Meirion Jones. Cyhoeddiadau Barddas. £15. Adolygiad gan Gwyn Griffiths
Mewn oes pan fo’r mwyafrif o lyfrau Cymraeg a gyhoeddir yn fach a thenau amheuthun yw cyfrol sylweddol Morwyr y Cilie gan Jon Meirion Jones.
Mae’n fawr ei maint, sylweddol iawn ei chynnwys ac yn chwaer barchus i’w gyfrol flaenorol, Teulu’r Cilie, a gyhoeddwyd ym 1999.
Mae cyfanswm y gwaith ymchwil ynddo’i hun yn syfrdanol ac ychwanegol at y portreadau difyr o’r 11 aelod o’r teulu amryddawn a fentrodd i’r môr cawn ddarlun gwerthfawr o ddigwyddiadau canrif gythryblus drwy lygaid dynion a merched cyffredin.
Cyffredin eu byd anghyffredin eu doniau Cyffredin eu byd – oherwydd doedd dim arall yn gyffredin am deulu’r Cilie.
Simon B. Jones - y B. am Bartholomew - oedd yr unig un o’r genhedlaeth gyntaf i fynd i’r môr. Sy’n gwneud imi fod eisiau gofyn a enwyd ef ar ôl Bartholomew Roberts, Barti Ddu, un o’n morladron enwocaf.
Yn ôl yr awdur, taflodd Simon B. ei bladur i ganol ysgall Pen Foel Gilie a mynd i’r môr.
Aeth cyn belled a Buenos Aires lle torrodd ei ddwy goes mewn damwain ddrwg a dyna ddiwedd ei yrfa forwrol.
Rownd yr Horn Er hynny, myn yr awdur mai ef oedd y morwr enwocaf ohonynt - am iddo ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933 am ei bryddest Rownd yr Horn.
Mae sawl hanesyn da yn y bennod am Simon B. Fel y bu’n holi’r hen gapteiniaid yng Nghaerfyrddin am eu profiadau nhw’n hwylio o gwmpas Cape Horn.
A’r stori ardderchog mai Prosser Rhys, Golygydd Y Faner, a’i hysbysodd mai ef oedd enillydd y Goron ac yn hawlio cyfweliad ecscliwsif am y newydd a’r papur ar werth yn union wedi’r seremoni!
Bythefnos wedi cael y newydd gan Prosser Rhys y cafodd y bardd wybod yn swyddogol gan awdurdodau’r Eisteddfod mai ef oedd yr enillydd!
Hanes cymdeithas Nid hanes bechgyn y Cilie yn unig a geir yn y gyfrol ond hanes cymdeithas arfordir godre Ceredigion, y capteiniaid oedd yn hwyluso’r ffordd i’r bechgyn lleol gael lle ar long.
Daeth tri ohonyn nhw i’r brig – yr Uwchgapten Dafydd Jeremiah Williams, y Capten John Etna Williams a’r Capten Jac Alun Jones (tad Jon Meirion Jones) - pob un yn fardd er nad oroesodd dim o waith y Capten John Etna.
Aeth ag Odl a Chynghanedd Dewi Emrys gydag ef i’r môr ond bu’n garcharor gan y Siapaneaid a thros dro "collodd ei ddiddordeb yn y pethau".
Darnau mwyaf hwyliog y gyfrol Cymeriad lliwgar arall oedd Fred Williams, brawd Dafydd Jeremiah a John Etna, a "neidiodd long" yn Awstralia a byw yno am bum mlynedd. Dychwelodd a setlo lawr yn ei hen fro.
Mae ei helyntion yn yr Home Guard yn un o ddarnau mwyaf hwyliog y gyfrol, yn enwedig gwreiddioldeb ei gofnodion yn y "llyfr boncyff" (log book).
Mae cannoedd o englynion yn y gyfrol. Dweud y gwir, mae’r awdur yn manteisio ar bob cyfle ac esgus i lusgo englyn, cywydd neu gerdd i’r stori – ond dyna fe, byddant yn help i’r gwerthiant.
Hoffais yr englyn Saesneg hwn gan Fred Williams – un o dri am Yr Home Guard ar Gwm Tydu:
United in our duty, - here we are The pride of the party; And tonight – we’d fight if we Met Adolph at Cwm Tydu.
Canada a Llundain Mae yma ddarlun ardderchog o fywyd Thomas Ellis Jones a dreuliodd gyfnod fel lumberjack yng Nghanada ac Elfan James Jones aeth ar un fordaith ac wedyn mynd yn blismon yn Llundain lle’r oedd adeg gorymdeithiau Oswald Mosley.
Profiadau Jac Alun Jones, wedyn, ac yntau’n Gapten llong drwy’r ail ryfel.
I mi, a fagwyd ar Blodau’r Ffair – cylchgrawn a fu’n llwyfan perffaith i feirdd Y Cilie – Jac Alun oedd yr enwocaf a’r mwyaf lliwgar o’r teulu.
Gerallt Jones, wedyn ...
Mae hon yn yffach o gyfrol - er bod yr awdur yn or- dueddol i ddilyn ysgyfarnogod a gresyn na fuasai rhyw olygydd tua Barddas wedi tocio mymryn ar ei frawddegau weithiau.
Ond pan ydych chi wedi hel cymaint o ddeunydd difyr, mân lwch y cloriannau yw hyn.
Gresyn, hefyd, na chafodd y clamp o lyfr ardderchog hwn ei rwymo’n well. Mae fy nghopi i’n ymddatod yn barod er ei bod yn gyfrol naturiol i bori ynddi’n achlysurol ar ôl ei darllen drwyddi.
Teulu'r Cilie - cyfrol flaenorol Jon Meirion Jones
|  | 
|