Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, gydag wyth o bobl ifanc Cymru yn cystadlu am yr ysgoloriaeth sy'n werth £4,000. Mae Rhys yn 24 oed ac ef oedd enillydd yr unawd offerynnol yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ym mis Mai. Llynedd, enillodd Rhys radd dosbarth cyntaf mewn clarinét yng Ngholeg Brenhinol Cerddoriaeth Manceinion. Mae wedi cyhoeddi CD, a'i obaith yw bod yn glarinetydd proffesiynol. "Dyma ddiweddglo perffaith i'm cyfnod o gystadlu gyda'r Urdd. Roedd hi'n bleser cystadlu heno yn erbyn perfformwyr eraill o safon mor uchel," meddai Rhys. "Mae'n anrhydedd cael gwobr dan enw un sydd wedi gwneud cymaint dros y celfyddydau yng Nghymru. "Dwi am ddefnyddio'r arian ar gyfer hyfforddiant proffesiynol." Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a'r Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: "Cafwyd gwledd arbennig yn Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru ac mewn cystadleuaeth aruchel daeth y clarinetydd Rhys Taylor i'r brig gyda chanmoliaeth frwd y panel beirniaid."
 |