BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caryl LewisCaryl Lewis yn sôn am ei dylanwadau
Dylanwad Dyffryn Aeron ar yr awduron Caryl Lewis a Dylan Thomas.
GWLAD GYFRINACHOL DYLAN

Ardal Dyffryn Aeron yng Ngheredigion oedd un o hoff lecynnau Dylan Thomas yn ôl yr awdur Caryl Lewis a fu'n sgwrsio a cherdded gyda Iolo Williams yn y rhaglen Crwydro yn 2006.

Yn ôl Caryl, sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith sy'n cynnwys y nofel Martha, Jac a Sianco, fe fyddai Dylan Thomas a'i wraig Caitlin yn aml yn ymweld â'r ardal yn y 1940au ac yn aros mewn tŷ maenor o'r enw Plas y Gelli. Yn ôl yr hanes, daeth llawer o'i ysbrydoliaeth ar gyfer 'Dan y Wenallt' o'r ardal hon. Bu teulu Caryl yn byw yn y tŷ fferm drws nesaf i'r faenor ac fe fyddai Dylan yn aml yn galw draw pan fyddai 'Princess' y fuwch yn cael ei godro i dywallt gwydraid ffres o laeth iddo'i hun.

"Un peth sy'n sicr," meddai Caryl. "Fe enwodd Dylan ei ferch Aeronwy ar ôl yr afon leol. Mae'n debyg bod Caitlin wedi mynd i farchogaeth rhyw ddiwrnod pan oedd hi'n disgwyl, a phan welodd fy Nain, dywedodd y byddai'n galw'r babi'n Aeron petai'n cael mab. Yna, fe ofynnodd Dylan pa enw y byddai'n rhoi ar ferch - ac atebodd Caitlin, Aeronwy."

Ysbrydoliaeth yr awdures ei hun.

Cafodd Caryl, sydd yn ferch i'r gantores enwog Doreen Lewis, ei hysbrydoli gan yr ardal wrth ysgrifennu ei nofel gyntaf am hanes dau frawd Jac a Sianco a'u chwaer Martha, a oedd yn byw ar fferm anghysbell. Esbonia Caryl fod y nofel yn adlewyrchiad o'r ffordd o fyw traddodiadol yng nghefn gwlad Cymru sydd bellach yn araf ddiflannu.

"Mae gan y dyffryn yma le annwyl iawn yn fy nghalon, ac wrth i mi gerdded o'i gwmpas mae'n anodd gweld ei gysylltiad â'r weledigaeth o'r Gymru gyfoes. Mae fel petawn i'n byw mewn dau fyd gwahanol.

"Mae'r un peth yn wir am fy mywyd personol. Dwi'n byw ar fferm a dwi wrth fy modd yn helpu allan bob nawr ac yn y man ar ôl treulio diwrnod cyfan yn eistedd y tu ôl i ddesg yn sgwennu."


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy