Erthygl gan Richard Thomas o Aberteifi "Diwylliant, traddodiad, hanes. Mae'r tri hyn yn bwysig i unrhyw Gymro sy'n werth ei halen. Mae castell Aberteifi mor bwysig i mi yn ei swydd i ddiogelu y pethau hyn. Mae llawer wedi cael ei ysgrifennu yn y blynyddoedd diwethaf am Gastell Aberteifi ac mae ymgyrch yn papur lleol, 'Y Tivyside' wedi bod yn bwysig iawn. Mae'r llyfr "Helbul y Castell" wedi rhoi'r sefyllfa yn glir. Ond yn awr mae'n bryd symud ymlaen. Mae Ceredigion wedi rhoi sialens i Ymddiriolaeth Cadwgan i wneud ymchwiliadau sy'n anghenrheidiol i ddiogelu dyfodol y castell. Dechreuwyd Cadwgan oherwydd bod Trefor Griffith yn awyddus i wneud yn sicr bod bythynod Owen Street yn cael ei prynu er mwyn i ni gysylltu yn y dyfodol â'r castell. Doedd e ddim am iddyn nhw gael eu gwerthu i unrhyw berchnogion oedd ganddynt ddim diddordeb yn y castell a hefyd oherwydd cysylltiad uniongyrchol y castell â phobl Aberteifi a'r cylch. Hwn oedd pwrpas dechrau Cadwgan pan ddaeth Trefor, Jan Tucker, Gareth Davies a Richard Thomas at ein gilydd i ddechrau gwella a sefydlu'r cadwraeth a diogelu perchnogion yr adeiladau. Newydd da i Cadwgan oedd y ffaith bod Ceredigion wedi llwyddo i gael y castell ac ymhellach ymlaen i gymryd y bythynod oddiwrth Cadwgan a mynd ati i'w atgyweirio yn fendigedig yn y ffordd orau.
Erbyn hyn mae Cadwgan a Cheredigion yn cydweithio gyda David Maynard i wneud ymchwiliad manwl i ddyfodol y castell gan wneud Cynllun busnes cymhleth dros y misoedd nesaf. Bydd hwn yn diogelu cymorth llawer o arbennigwyr ac ymddioledaethau eraill i sefydlu patrwm i gael cymorth ariannol. 
Pwrpas Cadwgan bydd denu arbennigwyr i mewn a chreu diddordeb yn ein sefydliad fel bod y castell a'i gerddi a'r tŷ a'r stablau yn cael eu trin yn y ffordd gorau. Bydd angen astudiaethau archeolegol a llawer astudiaeth arall i ddiogelu pwrpas parhaol i'r castell. Ymchwiliadau bydd yn profi bod hi'n bosib diogelu parhâd i'n diwylliant, traddodiad a hanes. Bydd y gwaith yn enfawr ac yn hir. Pwrpas Cadwgan fydd dod yn ôl i Cheredigion eleni gydag awgrymiadau parhaol. Bydd angen llawer o gydweithio a llawer o'r arbennigwyr a mudiadau proffesiynol yn ogystal â chydweithriad pobl leol Aberteifi a'r cylch." Erthygl gan Richard Thomas o Aberteifi. Chwefror 2006.
 |