Dysgu trwy ddigrifwch Adolygiad o noson Y Cyfarwydd yn Nhafarn Bach, Pontsian yn Ebrill 2006.
Y Cyfarwydd - dyna'r enw a roddwyd ar storïwyr y llysoedd Cymreig yn ystod y Canol Oesoedd. Mae'r grefft o adrodd neu ddweud stori yn dal yn rhan annatod o ddiwylliant y cymunedau sydd yn gadarnleoedd yr iaith Gymraeg. Enghraifft dda o hyn bu'r noson a gynhaliwyd ar yr 11eg o Ebrill yn Nhafarn Bach, Pontsian fel rhan o Ŵyl y Cyfarwydd 2006. Noson o straeon Dyffryn Cletwr oedd hon, yng nghwmni Dai Davies (Esger), John (Bwtsh) Evans, Lloyd Jones (Mynachlog), Megan Jones a Thriawd Dyffryn Cletwr sef Meurig Davies, Jack Jones a Albie Thomas. Recordiwyd y noson ar gyfer ei darlledu ar Radio Ceredigion rywbryd yn y dyfodol. Mae yna obaith felly y bydd rhai o'r hanesion sydd yn portreadu nifer o gymeriadau'r ardal a'r 'hen ffordd Gymreig o fyw' yn cael eu cadw hyd ddydd y farn. Braf oedd gweld yr ystafell yn orlawn a nifer ar eu traed. Agorwyd y noson gyda chân gan ddisgyblion ysgolion Pontsian a Chapel Dewi cyn i'r straeon ddechrau cael eu hadrodd. Adroddwyd am felltith cefn gwlad ar noson cyn priodas er mwyn atal y briodferch i gyrraedd ar amser a'r rheswm pam na phriododd Dai'r Esger erioed - roedd hon yn noson ddifyr iawn! A beth am ffair Llanybydder? Clywyd yr hanesion am fechgyn yr ardal yn mynd yn flynyddol i'r ffair ac yn cyrraedd adref amser godro fore trannoeth! Un o brif gymeriadau adnabyddus yr ardal a gyfeiriwyd ato gan fwy nag un o'r storïwyr ar y noson oedd Bili Bwtshwr Bach - tipyn o gymeriad yn ôl pob hanes. Glywsoch chi'r stori am Bili yn ystod y rhyfel? Roedd arno angen esgidiau newydd a chafodd orchymyn i fynd mas i saethu'r gelyn er mwyn cael pâr. Aeth Bili allan a saethu saith ohonynt er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cael pâr i ffitio! Wedi i'r holl straeon difyr gael eu hadrodd cafwyd cân i gloi'r noson gan y triawd enwog hynny yn eu hwythdegau - Triawd Dyffryn Cletwr. Os cewch y cyfle flwyddyn nesaf i fynd i'r 'Cyfarwydd', ewch, da chi - fe wnewch ddysgu a chwerthin lawer. A pham na briododd Dai'r Esger erioed? Beth oedd y pwrpas rhoi hanner ei fywyd bant er mwyn cael yr hanner arall wedi'i goginio! Gan: Eileen Curry o Landysul Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.
 |