
Gwybodaeth a chysylltiadau ar gyfer cymdeithasau Cymraeg yng nghyfandir Asia.
Hanes ac erthyglau
Erthyglau Beks - Yn nechrau'r 2000au, bu Rebekah 'Beks' Walters yn ysgrifennu 'blog' am ei bywyd newydd yn Hong Kong ar gyfer gwefan Tramor BBC Cymru gan roi darlun byrlymus o'i bywyd teuluol oddi cartref yn 'Honkers'.
Cysylltiadau allanol
Cymdeithas Dewi Sant Singapore
Cymdeithas Gymraeg Hong Kong - Mae'r gymdeithas yn Hong Kong yn hen iawn - dathlodd ei chanmlwyddiant yn 2011 ond mae'n debyg bod Cymry wedi dod at ei gilydd yn y ddinas mewn rhyw ffordd ers bron i ddau ganrif yn sgîl rheolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig drosti. Mae'n cynnal dathliadau Gŵyl Ddewi, cyngherddau a gweithgareddau eraill.




