
09 Awst 2010
Mae dyled bersonol yn y Deyrnas Unedig bellach dros £1,400 biliwn, cyfuniad o fenthyciadau morgais a phethau fel cardiau credyd a benthyciadau personol.
Dengys adroddiadau bod y nifer o bobl yng Nghymru sydd yn chwilio am gyngor i helpu gyda dyledion wedi codi'n sylweddol 1, hyd yn oed cyn y problemau diweddar gyda'r economi. Ceir help yma os ydych chi mewn sefyllfa anodd gyda dyledion ariannol.
Gyda phroblemau economaidd yn y newyddion yn ddyddiol, a diweithdra yn uchel yng Nghymru, mae dyled bersonol yn rhywbeth sydd ar feddwl llawer. Oherwydd bod credyd wedi bod mor hawdd i'w gael dros y degawd diwethaf, aeth mwy a mwy o bobl i ddyled, yn rhannol yn sgîl y twf yn y farchnad dai. Wrth i'r economi grebachu, ac i bobl golli swyddi, mae'n anoddach cael credyd, ac mae pobl yn ei chael hi'n anoddach i dalu eu dyledion.
Ffactor bwysig arall yw'r gyfradd llog. Gan fod pobl wedi ymestyn eu dyledion i'r eithaf, yn aml dan anogaeth hysbysebion am gredyd hawdd, mae unrhyw newid yn y gyfradd yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng arbed arian neu ychwanegu at ddyled. I lawer, gall unrhyw gynnydd olygu anhawster i dalu'r dyledion yn ôl.
Dyled gyffredin arall yw'r benthyciad i fyfyrwyr, gyda phobl ifanc yn dod allan o addysg bellach gyda dyledion llawer mwy na myfyrwyr yn y gorffennol. Er bod peth tystiolaeth fod dyledion myfyrwyr ychydig yn llai yng Nghymru ar y funud, ar gyfartaledd, mae'r rhain tua £15,000 yr un. Mae hyn wedyn yn cael effaith ar allu pobl ifanc i gael morgeisi a dechrau safio at bensiwn yn nes ymlaen.
Mae cynnydd mewn dyledion personol yn gallu achosi poen meddwl mawr, ond ceir dipyn o gyngor da y dyddiau hyn os ydych chi'n cael trafferth i dalu dyledion yn ôl. Y peth pwysig yw ceisio siarad gyda'r cwmnïau sydd arnoch chi arian iddyn nhw cyn gynted â phosib, a pheidio anwybyddu'r sefyllfa. Fel arfer, mae sawl opsiwn ar gael cyn cael eich datgan yn fethdalwr, y mesur mwyaf eithafol. Gall hyn gynnwys Trefniadau Gwirfoddol Unigol, sef cytundeb rhwng eich credydwyr a chi ar beth sy'n bosib ei dalu a dros faint o gyfnod.
Ffeithiau sydyn
- Mae nifer y bobl dros 60 gyda dyledion dros £35,000 yn uwch yng Nghymru na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig 2
- Os yw eich dyled allan o reolaeth, mae 'na lawer o ffynonellau ar gael i'ch cynghori.
- Os ydych mewn dyled, peidiwch ag anwybyddu'r sefyllfa - gwnewch rywbeth amdano.
Cysylltiadau
Consumer Credit Counselling Service
Cynigir cyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy'n poeni am ddyledion. Help ar gael dros y ffôn gyda rhywun cymwysedig i roi cyngor am eich dyled, neu ewch i'r wefan am wybodaeth bellach.
0800 138 1111
www.cccs.co.uk
Y Llinell Ddyledion Genedlaethol
Llinell gymorth am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyledion.
0808 808 4000
www.nationaldebtline.co.uk
Cyngor ar Bopeth
Gall Cyngor ar Bopeth helpu gyda materion cyfreithiol, gwaith, ariannol a mwy - am ddim. Ceir manylion am eich gwasanaeth lleol ar y wefan neu yn y llyfr ffôn. Mae na wybodaeth ddefnyddiol am bynciau gwahanol ar y wefan.
www.adviceguide.org.uk
Credit Action
Elusen addysg ariannol sy'n ceisio helpu pobl i reoli arian yn well. Gwybodaeth ddwyieithog defnyddiol ar gael.
www.creditaction.org.uk
MoneyBasics
Cyngor syml a gwybodaeth glir ar sut i reoli arian ym mhob rhan o'ch bywyd.
www.moneybasics.co.uk
Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
Cyngor cyfreithiol cyfrinachol ac annibynnol am ddim i bobl yng Nghymru a Lloegr, gyda gwefan ddwyieithog.
0845 345 4345
www.communitylegaladvice.org.uk
Cyswllt Defnyddwyr Cymru
Cyngor clir ar eich hawliau os ydych yn prynu unrhyw beth, yn nwyddau, gwasanaethau neu gredyd.
08454 04 05 06
08451 23 13 84 (Minicom)
www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk
1 Ffynhonnell: www.cccs.co.uk/research/2008/Debt_in_Wales_2008.pdf
2 Ffynhonnell: CCCS, Debt in Wales, 2008
Mwy
Dyled
Cyngor i bobl sy'n methu talu eu dyledion neu sy'n wynebu problemau ariannol oherwydd sefyllfa'r economi. This is a page in Welsh about dealing with debt and the help that's available for people who have money problems.

