|  |
 | Yr Argae Drama o Iwerddon yn deyrnged i Wil Sam I ddarllen adolygiad Alwyn Gruffydd o Yr Argae gan Connor McPherson - cyfieithiad Wil Sam Jones - yn Theatr Sherman Caerdydd, Awst 6, 2008, cliciwch YMAYn ystod taith y cynhyrchiad fis Chwefror 2009 Catrin Beard fu'n adolygu'r cynhyrchiad ar gyfer Rhaglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru fore Sul, Chwefror 1, 2009. Dywedodd iddi fwynhau "drama arbennig o dda" sy'n rhan o draddodiad gwych o ddramau Gwyddelig. Catrin Beard yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd, bore Sul, Chwefror 1, 2009 ar BBC Radio Cymru
Ychwanegodd na ellid fod wedi cael neb gwell na Wil Sam i drosi'r ddrama i'r Gymraeg. "Mae'n gweddu yn berffaith i arddull a thafodiaith Pen Llŷn-Eifionydd Wil Sam," meddai. "Mae'n llifo ac yn arbennig o dda." Am yr actorion dywedodd:
Owain Arwyn - "Mor naturiol ar lwyfan". Emlyn Gomer - "Yn ardderchog". Richard Elfyn - Perfformiad da.Ian Saynor - "Yn gwneud ei orau" ond yn cwestiynu'r castio.
Sara Lloyd - Yn "actores ddiddorol" ac yn rhoi "un o'r perfformiadau gorau a welais i ar lwyfan ers blynyddoedd." Yr oedd "hyd yn oed hen sinig fel fi â dagrau yn fy llygaid".
|  | |
|