bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd

News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
C2
Theatr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dyfan RobertsAdolygiad drama:
Un dyn yn erbyn
y storm

'Ond gormod o sgrifennu
a gormod o gynnwrf mewn drama am Ddafydd Ddu Feddyg
Bu Phil ap Iorwerth yn gweld
Môr Tawel gan Ian Rowlands

yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Mawrth 10, 2001

Cyn troi at y ddrama a’r perfformiad rhaid nodi un neu ddau o bethau.

Cynulleidfaoedd bach

• O bryd i’w gilydd Mae Theatr Clwyd wedi ei beirniadu am beidio a chynnwys digon o gynhyrchiadau Cymraeg.

A bod yn hollol onest fedra i mo’i beio.
Er bod cynulleidfa go dda ar gyfer y cynhyrchiad o Damwain a Hap, rai misoedd yn ôl, roedd Theatr Stiwdio Emlyn Williams ymhell o fod yn llawn ar gyfer Cegin y Diafol, gan Siôn Eirian.

Mae’n ddrwg gen i ddweud mai dim ond rhyw 20 oedd yno i wylio’r perfformiad hwn o ddrama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000.

Mae hyn yn warth ar dref Daniel Owen.

Rhaglen dda

• Hoffwn hefyd nodi bod codi £2 am raglen, er yn ymddangos yn ddrud, yn dderbyniol iawn y tro hwn gan ei bod yn cynnwys holl destun y ddrama yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Drama un actor

Dyfan RobertsDrama ar gyfer un dyn yw Môr Tawel ac mae’n ymdrin â hanes David Samwell, gwr o Ddinbych fu’n llawfeddyg ar long y Discovery ar daith olaf Capten Cook.

Fe’i hadnabuwyd hefyd fel Dafydd Ddu Feddyg ac roedd yn fardd ac yn aelod o Orsedd Iolo Morganwg.

Dyfan Roberts sy’n perfformio rhan David Samwell, ac fel pob drama ar gyfer un perfformiwr mae’n gamp aruthrol cofio’r testun i gyd - 15 tudalen o sgript - a rhaid edmygu a pharchu actor sy’n medru dygymod â’r fath orchwyl.

Yr awdur yw’r cyfarwyddwr.

Llong wedi dryllio

Mae Sean Crowley i’w ganmol am gynllunio set seml ond effeithiol. Ar ganol llwyfan gwag mae llong wedi ei dryllio gyda’r sgerbwd a’r asennau yn amlwg yn cynnal y bwrdd gydag un mast unig a ffalig ar ei chanol.

Mae’r ddrama’n cychwyn mewn storm gyda Samwell wedi dringo’r mast ac yn gweiddi yn erbyn y gwynt a’r taranau:

"Melltith ar y storm berffaith hon! Dwi wedi hen ymlâdd ar dôn gron y tonnau’n fy siglo a’m sigo"

(Rhywsut dyw’r sgript Gymraeg ddim mor lliwgar â’r un Saesneg sydd hefyd yn y rhaglen:

"Damn this perfect storm! I have had a surfeit of seas. I am battered to buggery!")

Erchyllterau Cook

Gellid fod wedi creu drama ramantus am hwylio’r cefnfor yn chwilio am diroedd newydd ac am y North West Passage rhwng y Môr Tawel a’r Iwerydd, ond nid dyna a gawn.

Yn lle hynny, cawn ddrama sy’n datgan yn ddi-flewyn ar dafod yr erchyllterau a gyflawnwyd gan Cook a’i griw.

Cawn hefyd ymdeimlo â’r gwrthdaro mewnol y bu’n rhaid i Samwell ymgynefino ag ef, rhwng bod yn Gymro ac yn fardd, a bod yn swyddog gyda’r Llynges Frenhinol.

Efallai bod y dramodydd yn euog o briodoli i David Samwell - Dafydd Ddu Feddyg - dybiaethau ein hoes ni wrth osod geiriau fel hyn yn ei geg:

"...gred gysegredig y Prydeiniwr, hynny yw, mai fo sy’n berchen ar ei eiddo ei hun ac yn berchen ar eiddo pawb arall hefyd!"

Prydeiniwr oedd Samwell hefyd.

Storm eu hunllefau

Yn y sgript nodir bod David Samwell yn "hwylio storm ei freuddwydion" ond storm ei hunllefau a gawn mewn gwirionedd, a’r rheiny wedi eu dwysau gan y laudanum y mae’n ei yfed o bryd i’w gilydd.

Ac mae’r perfformiad yn un stormus hefyd, yn wyllt a swnllyd ar brydiau ac, ar adegau eraill, yn gostegu i dawelwch.

Mae’n berfformiad corfforol hefyd, gyda Dyfan Roberts yn defnyddio pob rhan o’r set gyfyng - weithiau ar ben y mast, dro arall yn y caban islaw’r pwp, weithiau ar flaen y llong ddrylliedig.

Atgofion yn gwallgofi

Brygowthan gwr yn mynd o’i go a gawn, gwr yn cael ei wallgofi gan atgofion o dreisio a rheibio:

"Torasom glwyfau dyfnion, archollion angheuol, ar draws cefnfor y Pasiffig,"meddai.

Atgofion o lofruddio di-hid, diangen: "Hyd yn oed cyn i droed wen adael ei hôl ar draeth Eden, tywalltwyd gwaed Hawaiiaidd. Collodd Williamson . . . ei bwyll wrth geisio glanio ymysg torf o frodorion lleol oedd wedi’u cynhyrfu’n lân gan y newydd-ddyfodiaid. Saethodd at ryfelwr a’i daro yn ei fron - bu farw yn y fan a’r lle, y tywod yn llyncu’r bai fel staen, ei waed yn llifo i ddyfnderau dwfn cefnfor o ddial. ‘Aloha,’ ddyn gwyn; cymer fy ngwraig, fy mywyd, fy nhir, ond mae ‘na bris i’w dalu, nid dyled i’w thalu â hoelion yw hi, cedwch rheiny ar gyfer croes eich Crist. Am dywallt gwaed, y pris yw, gwaed. Salve, croeso..."

Tuedd i or-sgrifennu

Ac mae’r dyfyniad hwnnw yn amlygu prif fai y ddrama hon - gor- ysgrifennu.

Mae hyn bob tro yn beryg wrth sgwennu drama ar gyfer un perfformiwr - rydych chi’n rhy ddibynnol ar eiriau i ddweud y stori ac mae’r demtasiwn yno i ddefnyddio mwy o eiriau nag sydd eu hangen.

Byddai pedant yn nodi hefyd, os nad oedd troed wen wedi gadael ei hôl ar draeth Eden na fyddai’r brodorion yn gwybod am Grist.

Ond yng nghynnwrf y perfformiad prin y byddai neb yn sylwi ar hynny.

Goremod o gyffro

Ac yr oedd hwn yn berfformiad cynhyrfus.

Yn rhy gynhyrfus i’m chwaeth i sy’n credu y byddai perfformiad tawelach wedi bod yn well.

Gyda digon o liw yn y sgript nid oedd angen perfformiad mor liwgar.

Rwy’n pwysleisio mai f’ymateb personol i yw hyn ac rwy’n siwr y bydd llawer wedi mwynhau gwylio Dyfan Roberts yn arddangos ystod mor eang o sgiliau actio a goslefau lleisiol.

Ar ôl awr a mwy yng nghwmni David Samwell doeddwn i ddim yn siwr fy mod i wedi deall y cyfan o’r ddrama gymhleth a chyfoethog hon. Roeddwn i, fodd bynnag, yn llawn edmygedd o’r egni a’r angerdd ym mherfformiad Dyfan, ac o’r gamp o gofio atgofion David Samwell, Dafydd Ddu Feddyg.

• Ydych chi wedi gweld y ddrama hon? Beth oedd eich barn chi? Ebostiwch i ddweud.
Wythnosau Blaenorol:
News image

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
News imageAdolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

News imageAdolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
News imageLlais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
News imageY Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2
News image



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy