
 |  | Adolygiad drama: Swnio'n gymhleth? Drama fel'na oedd hi!
'Heb nodiadau'r awdur fyddwn i ddim wedi deall gymaint â wnes i. . .'
| Bu Phil ap Iorwerth yn gweld Cegin y Diafol gan Siôn Eirian.
Drama gomisiwn yw Cegin y Diafol. Drama gomisiwn Coleg Cerdd a Drama Cymru ac ar ôl pedwar perfformiad yn y Coleg ymwelodd y cynhyrchiad a’r Wyddgrug, Pwllheli, Aberystwyth ac Abertawe. Yn yr Wyddgrug y gwelais i hi.
Drama swreal yw Cegin y Diafol, ac mae’n ymwneud, meddai’r awdur, â chyfathrebu, ac yn benodol gyda’r dechnoleg gyfathrebu newydd, sef y rhyngrwyd.
Drama ddwys a herfeiddiol Mae’n ddrama ddwys a herfeiddiol nad yw’n cydymffurfio â ffurf y ddrama draddodiadol, a hynny’n bennaf drwy ymwrthod â chymeriadau realistig.
Eiconau yw’r cymeriadau, meddai Siôn; symbolau sy’n crwydro drwy sefyllfaoedd swreal.
Lluniau dau ddimensiwn yw eiconau ac oherwydd hynny rhaid amau addasrwydd y ddrama hon fel platfform i ddangos gallu myfyrwyr y Coleg Cerdd a Drama gan mai eu dawn i greu cymeriadau o gig a gwaed yw’r llinyn mesur traddodiadol ar gyfer actorion.
Bwyty yng nghefn gwlad Yn fyr, lleolir y ddrama yng nghegin y Dafol, bwyty rywle yng nghefn gwlad Cymru.
Aled Pugh sy’n chwarae rhan Nimrod, y cogydd diniwed. Catrin Mara yw Gwylan, y perchennog, a daw’n amlwg iawn fod elfen rywiol i’r berthynas rhyngddi hi a’r cogydd.
Yn wir, gellid dadlau mai drama am ryw ydi hon yn ogystal â chyfathrebu ac mae’r rheg rywiol bedair lythyren fwyaf adnabyddus yn britho’r ddrama drwyddi draw.
Dydw i ddim yn siwr a ellir cyfiawnhau hyn ac rwy’n tueddu i amau fod yr awdur yn bwriadu rhoi ysgytwad i’r bobl barchus fyddai’n arswydo clywed merched ifanc yn atalnodi pob brawddeg bron gyda llifeiriant o’r gair.
Merched yn bennaf Drama wedi ei hysgrifennu ar gyfer actorion benywaidd yn bennaf yw hon. Pump o actorion sydd yn y cast a dim ond un ohonyn nhw yn wryw. Ef hefyd yw’r cymeriad gwannaf, yn cael ei ddominyddu gan y bedwarawd fenywaidd.
Yn yr ail olygfa mae Gwylan wedi gadael y Dafol ac yn ei habsenoldeb daw dwy ferch ifanc i’r gegin. Mae un ohonynt (Elen Gwynne) yn mabwysiadu’r enw Pam mewn teyrnged i’r eicon a’r eilun rywiol, Pamela Anderson Lee, a’r llall (Kate Jarman) yn mabwysiadu’r enw Sophie mewn teyrnged i’r siwpyrmodel Sophie Dahl.
Ar ôl dod i’r gegin i gysgodi rhag y glaw maent yn diosg eu dillad gwlyb ac yn treulio gweddill y ddrama yn eu dillad isaf gan fabwysiadu hefyd iaith ac acenion Pam a Sophie.
Mae’r ddwy yn treulio llawer o’u hamser yn defnyddio cyfrifiadur ac mae’n amlwg nad dim ond ymochel rhag y glaw a ddaeth â nhw i’r Dafol.
Maent yn perswadio Nimrod i’w cyflogi fel gweinyddesau yn y bwyty. Maent hefyd yn manteisio ar y cyfle i hudo Nimrod gyda Sophie yn ei ddenu â’r addewid o "virtual blow job". (Mwy felly i gythruddo’r parchusion!)
Pan ddaw Gwylan yn ei hôl mae’n amheus o gymhelliad Pam a Sophie. Mae’n amau eu bod nhw yno ar ran gwr a adwaenir fel Appleman a daw yn amlwg ein bod mewn bwyty sy’n bodoli yn y byd seibr yn unig.
Gwisgoedd nyrsys secsi Gwylan yw’r ‘web-master’ sy’n gofalu am safle’r Dafol, ond ‘net-master’ yw Appleman ac mae ganddo ef gynlluniau ar gyfer y safle. Eisoes mae wedi newid enw’r bwyty i Gegin y Diafol. Cyn hir bydd yn ei newid eto i’r Griafol, a fwriedir fel cartref nyrsio seibr ac, yn wir, mae gan Pam a Sophie wisgoedd nyrsys secsi i gydfynd â rôl newydd y safle.
Yna mae cist bren yn agor ac mae merch arall yn dringo ohoni, Greta (Branwen Davies), sydd wedi ei gwisgo yn debyg i Marlene Dietrich. Mae’n cymryd arni bod yn fampir ac yn ceisio swyno Nimrod i roi brathiad iddo - ond famp nid fampir yw hi a chyn hir mae hi a Nimrod yn cyfathrachu dan blancedi yng nghornel yr ystafell.
Credaf fod yr awdur wedi gwneud camgymeriad wrth gyflwyno cymeriad Greta i’r ddrama, gan iddi ein tywys i is-blot nad yw’n llwyr haeddu ei le.
Newyddiadurwraig yw Greta i bapur Almaenig ac yn gweithio yn Soho ar drywydd stori am herwgipio merched o ddwyrain Ewrop i ymddangos ar safleoedd pornograffig ar y we.
Bu'n rhaid iddi guddio mewn cist a thrwy hynny lanio yn y Dafol lle - yn rhyfeddol iawn - roedd yn adnabod Gwylan gan iddynt gyfarfod ar wyliau ym Mecsico!
Os yw’r disgrifiad hwn o’r ddrama yn ddryslyd, drama fel ‘na oedd hi.
Heb nodiadau’r awdur yn y rhaglen rwy’n amheus a fyddwn wedi deall cymaint ag a wnes i.
Cwestiwn y ddrama Dyma’r cwestiynau roedd y ddrama yn y’u gofyn meddai Siôn: "Ai ni sy’n rheoli ac yn elwa ar y dechnoleg gyfathrebu newydd......neu a yw’r dechnoleg honno yn elwa arnon ni, ac yn coloneiddio nid yn unig ein diwylliant, ond hefyd yn coloneiddio ein iaith a’n hunaniaeth?"
Ac oedd, mi roedd y ddrama yn ymateb i’r cwestiynau hynny.
O fewn cyfyngiadau’r arddull cafwyd perfformiadau da ac egniol gan yr actorion, er na chawsant gyfle i ddangos ystod lawn o’u gallu i greu cymeriadau tri-dimensiwn.
Gormod o'r eff-air Petai rhywun am fynd ati i chwilio am wendidau - ac mae hynny’n rhan o waith adolygydd - roedd y ddrama ar brydiau yn rhy eiriol.
I aralleirio sylwadau’r brenin wrth Mozart yn y ddrama Amadeus, "gormod o eiriau. Dim ond hyn a hyn o eiriau all yr ymennydd eu clywed ar un adeg."
Ac yn bendant, gormod o ddefnydd o’r un eff-air. Mae rhegfeydd eraill yn bodoli - rhai ohonyn nhw yn llai derbyniol na hwnnw hyd yn oed - ac os rhoi sioc yw’r bwriad, aed ati’n go iawn.
Gwendid arall oedd fod Branwen Davies yn canu’n rhy dda wrth ddynwared Marlene Dietrich. Dylid taro ambell nodyn yn fflat i gael yr effaith cywir. Yn yr un modd nid oedd Elen Gwynne, er mor hyderus ei pherfformiad, yn ddigon niwmatig ei hadeiladwaith i’n darbwyllo ei bod yn ddynwarediad o Pamela Anderson Lee!
Mater o oed Rydw i, o fewn ychydig fisoedd o fod yr un oed â Siôn Eirian, ac efallai fod gennyf hawl felly i nodi fod peryg i’r ddrama hon gael ei gweld fel ymgais gan wr canol oed i weld nifer o ferched ifanc a deniadol yn cerdded ar lwyfan yn eu dillad isaf. Un o fanteision bod yn ddramodydd blaenllaw yw eich bod yn cael gwireddu ffantasiâu.
Ond hoffwn orffen ar nodyn cadarnhaol. Mae Cegin y Diafol yn ddrama ddwys a chymhleth sydd yn haeddu ymdriniaeth lawnach a mwy ystyrlon nag a roddais i yma.
Mae yn ymwneud â thestunau pwysig ac yn delio a hwy mewn ffordd greadigol a newydd.
Ar sail eu perfformiadau hyderus ac eofn mae dyfodol disglair i’r pum actor ac fe lwyddodd y cyfarwyddwr, Tim Baker, i gadw rheolaeth ar y syniadau oedd yn byrlymu drwy’r ddrama gan wneud ei gwylio yn brofiad dwys a phleserus. |  | 
|