
 |  | Gwleidydd glew erwau'r glo
Tom Ellis yn cofio dyddiau dan ddaear ac yn y senedd
Mehefin 2003
| Dan Loriau Maelor gan Tom Ellis. Gwasg Gomer Adolygiad gan Gwilym Owen.
Mae'n rhaid cyfaddef imi gael clamp o sioc pan glywais fod Tom Ellis wedi mynd ati i sgwennu ei hunangofiant. A sioc fwy fyth oedd canfod mai yn y Gymraeg y penderfynodd groniclo ei yrfa ddiddorol.
Ond wedi darllen y gyfrol rwy'n falch fod y Prifardd Bryan Martin Davies wedi ei berswadio i roi pin ar bapur a bod Gwasg Gomer wedi cyhoeddi Dan Loriau Maelor.
Diwydiant yn edwino Cyfrol ydi hon sy'n mynd i lonni calon pawb sydd â diddordeb ysol mewn darllen dadansoddiad hanesyddol o'r diwydiant glofaol yng ngogledd ddwyrain Cymru ym mhump a chwe degau y ganrif ddiwethaf.
Y cyfnod pan oedd y diwydiant yn edwino a'r pyllau yn cau fesul un ac un.
Fe fu Tom Ellis yn chwarae rhan bwysig ym mywyd y gymdeithas lofaol yn yr ardal. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y diwydiant, yn gymaint felly, fel y penderfynodd ddod yn ôl i'r ardal wedi iddo raddio - gadael swydd cemegydd a chymryd at waith haliwr yn y lofa leol.
A thrwy ddyfalbarhad a mynd ar gwrs gradd ychwanegol fe'i cafodd ei hun yn rheolwr glofeydd Glanrafon a'r Hafod yn eu tro.
Ac mae'n amlwg ei fod wedi ei fwynhau ei hun wrth y gwaith a'i fod, hefyd, yn gryn giamstar ar yr agweddau technegol ac anodd o reoli glofa ond roedd o hefyd yn ymboeni am ei ffordd o drin y dynion oedd yn cydweithio ag o.
Ac mae o'n falch o gael sôn fwy nag unwaith am y parch oedd gan y glowyr tuag ato a hynny'n tanlinellu y math o berson yw Tom Ellis.
Gwr diffuant, cynnes a bonheddig a does ryfedd yn y byd mai disgrifio'r yrfa a gafodd yn ymarfer yr elfennau hynny ymysg ei bobl ei hun sydd wedi cymryd y rhan fwyaf o'r gofod yn ei hunangofiant.
O'm rhan fy hun, fel un sydd a diddordeb ym mywyd gwleidyddol Cymru, mae hynny yn dipyn o siom. Wedi'r cyfan, fe fu Tom yn aelod seneddol Llafur dros etholaeth Wrecsam o 1970 i 1983.
Prin ei sylwadau Mae tair blynedd ar ddeg yn gyfnod go faith ond a bod yn gwbl onest, triniaeth go arwynebol o'r cyfnod hwnnw a gawn yn y gyfrol hon.
Nid yw'n gwbl glir pam ei fod wedi penderfynu bod mor brin ei sylwadau ar y cyfnod hwnnw.
Efallai ei fod o wedi teimlo'n fuan iawn ar ôl mynd i San Steffan nad oedd o a'i bwyllgor lleol yn yr etholaeth ddim cweit ar yr un donfedd.
Mae'n wir ei fod o'n trafod ei berthynas anodd ag ambell i aelod seneddol Cymreig fel Leo Abse ar fater datganoli a Chymreictod ond byddai wedi bod yn ddiddorol pe byddai wedi sôn am y garfan ddiddorol o gyd-aelodau Llafur Cymraeg a gydoesodd ag ef yn y saithdegau - pobl fel Cledwyn Hughes, Goronwy Roberts, Gwynoro Jones, Elystan Morgan a Wil Edwards heb sôn am John Morris, Tudor Watkins, Carwyn Roderick ac eraill.
Mae'n rhaid bod yna nifer o seiadau a digwyddiadau diddorol yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond nid oes sôn am hynny yn y gyfrol hon.
Gadael Llafur Wrth gwrs, mae penderfyniad Tom Ellis i adael y Blaid Lafur a throi at yr SDP yng nghwmni y pedwar, David Owen, Roy Jenkins, Shirley Williams a Bill Rogers yn cael sylw mawr.
Rwy'n cofio holi Tom yn Llundain y pnawn y cyhoeddodd ei benderfyniad a mynd draw i'r Rhos y bore canlynol i gael ymateb pobl ei ardal.
Roedd hi'n amlwg fod yr aelod seneddol wedi cymryd cam nad oedd yn plesio pawb o'i bobl ei hun!
Mae'r gyfrol yn rhoi darlun diddorol o barch mawr Tom Ellis at Roy Jenkins a'i gasineb pendant o'r Dr David Owen. Prawf ein bod bi'r Cymry yn bobl unigryw a dweud y lleiaf.
Profiad pleserus Ond er bod yna fylchau amlwg yn fy marn i yn y gyfrol hon roedd darllen Dan loriau Maelor yn brofiad pleserus.
Dros y blynyddoedd rydw i wedi cael y pleser o holi a sgwrsio efo Tom Ellis ar faterion amrywiol ac wedi ei ganfod yn gwmnïwr diddan a chynnes bob amser ac rwy'n siwr y bydd pawb fydd yn prynu a darllen y gyfrol yn ymateb yn yr un ffordd.
Ac yn dweud Amen wrth gwpled y Prifardd Tilsli a ddyfynnir yng nghyflwyniad y llyfr. Cwpled sy'n disgrifio Tom i'r dim: Erwau'r glo dan loriau'r glyn - yw ei le Gyda'i lamp a'i erfyn.
Holi Tom Ellis
|  | 
|