
 |  | Holi awdur: Tom Ellis
Awdur Dan Loriau Maelor
| Enw: : Tom Ellis
Beth yw eich gwaith? Wedi ymddeol
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Glöwr, peiriannydd mwynglofaol, cemegydd, gwleidydd
O ble'r ydych chi'¹n dod? Rhosllannerchrugog
Lle'r ydych chi'an byw yn awr? Rhiwabon
Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi? Dau yn gyfartal - i. derbyn fy nhystysgrif fel rheolwr glofa ii. cael fy ethol yn A.S.
Beth symbylodd eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. Teimlais y byddai llyfr yn adrodd hanesion glofaol o safbwynt rheolwr pwll yn llenwi gwacter yn ein llenyddiaeth - a bûm erioed yn "llenor manqué". Hunangofiant traddodiadol - nid memoirs yw'r llyfr, ond gobeithiaf y rhydd, hefyd, ddarlun o'r awdur.
Beth arall ydych chi wedi ei sgrifennu? Erthyglau achlysurol yn ymdrin rhan fwyaf â gwleidyddiaeth a barddoniaeth.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Llyfrau "Just William" gan Richmal Crompton
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Na fyddaf
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? "The Managerial Revolution" (James Burnham) "The Management of Innovation" (Tom Burns & George Stalker)
Pwy yw eich hoff fardd? Yn Gymraeg: Parry-Williams, Yn Saesneg: R.S. Thomas
Pa un yw eich hoff gerdd? "Drudwy Branwen" (Williams Parry) "The Other" (R.S. Thomas)
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? "Pan gyfyd, megis llef / Wedi distawrwydd hir / Mynyddoedd yn y nef, / A thros y tonnau, tir."
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Does 'r'un
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff - Tomos Bartley Cas - does neb y medraf ei gymryd o ddifrif
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? 'Rwy'n wych, rwy'n wael, rwy'n gymysg oll i gyd.'
Pa un yw eich hoff air? amen.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn farddonol
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Rhamantydd, ymarferol, Cymreig
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Tuedd i fod yn ysmala pan fo angen difrifoldeb
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'¹n ei edmygu fwyaf a pham? Emyr Humphreys am ei natur waraidd
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Y chwyldro Ffrengig
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Ludwig Wittgenstein a gofyn ei farn am yr athronydd o Americanwr cyfoes Richard Rorty
Pa un yw eich hoff daith a pham? I fyny Stryt y Plas at giât y mynydd a mynydd y Rhos. Pan oeddwn yn blentyn, yno yr oedd pawb yn mynd am bicnic; heddiw does neb yno, ac y mae'r distawrwydd yn llesmeiriol.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cyw iâr paprika a reis
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Chwarae gramaffôn (a cheisio sgwennu).
Pa un yw eich hoff liw? Glas dwfn.
Pa liw yw eich byd? Oren gyda thinc o binc.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Yn ymarferol, cael gallu deddfwriaethol i'r Cynulliad Cenedlaethol. Yn anymarferol, cael diddymu'r genedl-wladwriaeth Ewropeaidd.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Rhoesoch chwilen yn fy mhen!
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Yr oedd R.S, Thomas yn fardd rhyfeddol, yr oedd yn wr priod rhyfedd.
Ewch i ddarllen am Dan Loriau Maelor. |  | 
|