
 |  | Rhestr fer Llyfr y Flwyddyn
Enwi'r chwe llyfr sydd ar ben y rhestr
Mawrth 2003
| Mae rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2003 wedi ei chyhoeddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Y tri llyfr Cymraeg yw: .
Pan Oeddwn Fachgengan Mihangel Morgan – Y Lolfa (adolygiad Llais Llên)
O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price – Gwasg Gomer (adolygiad Llais Llên)
Be Bop a Lula’r Delyn Aurgan Hefin Wyn - Lolfa (adolygiad Llais Llên)
Y wobr am y llyfr buddugol fydd £3,000 yn cael ei chyflwyno yng Ngwyl Llenyddiaeth y Gelli, ym Mehefin 2003.
Cyflwynir £1,000 i’r awduron eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Ar y rhestr fer Saesneg mae: Jo Mazelis – Diving Girls – Parthian
Sheenagh Pugh – The Beautiful Lie – Seren
Charlotte Williams – Sugar and Slate – Planet
Dyma’r unig wobrau yng Nghymru sy’n cydnabod gweithiau creadigol o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, ffuglen, cofiannau a beirniadaeth lenyddol.
Y Beirniaid a ddewisodd y chwe llyfr yw: Karen Owen, Dafydd Lewis yn y Gymraeg ac yn Saesneg, Nicholas Murray a Brenda Maddox gyda’r Athro Hazel Walford-Davies yn Cadeirio.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|