
 |  | Cymwynas fawr â'r genedl
Llyfr penigamp yn werth pob ceiniog
Dydd Iau, Ionawr 23, 2003
|
Be Bop a Lula'r Delyn Aur Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg gan Hefin Wyn Y Lolfa £14.95 - ac yn werth pob ceiniog meddai ein hadolygydd, Dafydd Meirion
Mae hwn yn lyfr anhygoel! Mae'n dilyn canu poblogaidd Cymraeg o'r 1940au tan yr 1980au ac hyd yn oed yn mynd mor bell yn ôl â'r unfed ganrif ar ddeg. Mae'n anodd iawn meddwl am unrhyw beth sydd wedi'i adael allan. Un camgymeriad yn unig welais i mewn bron i 400 tudalen, sef mai Hogia Llandegai sgwennodd 'Defaid William Morgan'.
Un beirniadaeth yn unig
Yr unig feirniadaeth sydd gen i, yw nad yw, efallai, yn nodi'n ddigon cryf y teimladau ynglyn â chanu pop yn niwedd y 1960au a dechrau'r 1970au, pan roedd pop Cymraeg yn cael ei gynrychioli gan Hogia'r Wyddfa, Perlau, Perlau Taf a'u tebyg.
Dyma oedd y cyfnod pan roedd gan lawer o ieuenctid gywilydd i fod yn gysylltiedig â'r fath ganu. Roedd canu o'r fath yn gam ymlaen yn natblygiad pop Cymraeg, ynteu cam yn ôl, gan nad oedd llawer o ieuenctid eisiau dim i'w wneud ag o. Diolch am Y Tebot Piws a Meic Stevens ddyweda i.
Gwrthwynebiad i ganu pop cynnar Ar wahân i fynd yn ôl i sôn am feirdd y canol oesoedd a chantorion y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae canu pop yr awdur yn dechrau yn y 1940au. A diddorol yw nodi faint o wrthwynebiad oedd yna i hyd yn oed Driawd y Coleg yr adeg hynny.
"Beth mewn gwirionedd sy'n Gymreig yn null y triawd o ganu caneuon ysgafn? Nid yw'n ddim ond adlewyrchiad eiddil o grwnio fwlgar America," medd Brythonfab yn Y Cymro.
Roedd yna, hefyd, wrthwynebiad i gynnal cystadleuaeth sgiffl yn yr Eisteddfod Genedlaethol ("It isn't music, but rubbish. The eisteddfod is not the place for 'skiffle'," meddai un beirniad cerdd) ac roedd hi'n gas gan Iorwerth Peate bod Hogia'r Wyddfa'n rhoi barddoniaeth ar gân.
"Nid wyf am wrando ar ... ar osodiadau tila o 'Tylluanod', 'Creigiau Aberdaron' a'r 'Llanc Ifanc o Lyn' a'r rheiny, eto fyth, wedi'u mwrdro gan fampio diystyr y cyfeiliant piano," meddai.
Ac mae'r llyfr, hefyd, yn nodi'r ffraeo fu yna'n nyddiau'r cylchgrawn Sgrech pan feirniedid grwpiau am gynnwys aelodau di-Gymraeg neu hyd yn oed am nad oedd y grwp yn dod o'r Fro Gymraeg. Onid yw hi'n syndod bod canu pop Cymraeg wedi datblygu o gwbwl!
Hen ddadl am ganu Cymraeg Noda'r awdur fod grwpiau o Gymry Cymraeg yn mynnu canu'n Saesneg yn y 1960au gan ddweud nad oedd y Gymraeg yn addas i ganu pop.
Ond â ymlaen i ddweud "Y duedd oedd i Gymry Cymraeg gyfarch ei gilydd yn Saesneg mewn dawnsfeydd Saesneg gan ei seilio fel iaith eu haelwydydd am weddill eu hoes, oherwydd mai Saesneg oedd dawnsfeydd mewn ardaloedd Cymraeg bod hyn wedi arwain at i gyplau Cymraeg fynd i siarad Saesneg â'i gilydd."
Fel un a fynychodd lawer o'r dawnsfeydd hyn, mi allai'ch sicrhau mai 'tshatio fodins' yn Gymraeg wnaem ni yn y cyfnod hynny er mai Saesneg oedd y gerddoriaeth!
Ymchwil trylwyr
Mae'r awdur wedi gwneud ei waith yn drylwyr. Mae'r llyfryddiaeth ar y diwedd yn un faith. Yn eu mysg mae cyfeiriad at Y Tebot Piws a Disc Dawn (rhaglen bop o'r 60au fu'n ddraenen yn ystlys dilynwyr pop ifanc a'r anniddigrwydd yn cael sylw teilwng yn y llyfr) yn Beat Merchants: The Origins, History, Impact and Rock Legacy of the 1960s British Pop Groups!
Mae'r awdur yn gweithio ei ffordd yn araf o'r cyfnod cynnar, drwy'r chwedegau i'r saithdegau a'r wythdegau gan nodi'r newidiadau a'r prif chwaraewyr. Caiff rhai artistiaid, megis Meic Stevens, Geraint Jaramn, Endaf Emlyn ac Edward H., fwy o sylw na'r gweddill, a da hyn gan bod eu cyfraniad yn sylweddol.
Wrth fynd trwy'r blynyddoedd, mae gwahanol fathau o gerddoriaeth yn cael ei sylw, o 'bop' y 1960au, i ganu roc Edward H y 1970au, i ffync Bando, canu gwerin, reggae Jarman ...
Pennod ddi-fflach Roeddwn i'n teimlo fod y bennod ar ganu gwerin braidd yn ddi-fflach, ond dyna fo, does gen i fawr i'w ddweud wrth ganu gwerin, ac wrth dynnu tua diwedd y llyfr roeddwn i'n dechrau fflagio; nid o bosib am fod y llyfr yn rhy hir ond am nad oes gen i gymaint o ddiddordeb yn y cyfnod diweddar.
Mae Hefin Wyn wedi gwneud cymwynas fawr â'r genedl; mae yna rai wedi cael doethuriaeth am bethau salach.
Rhaid ei ganmol am gynnwys mynegai ar y diwedd; rhywbeth sydd ddim yn cael ei gynnwys yn aml y dyddiau hyn.
Mae hwn yn lyfr i'w drysori a thrueni na fyddai'r wasg wedi darparu copïau caled ohono. Ond ydy llyfr o'r maint yma, mor drylwyr â hyn at ddant pawb?
Rwy'n siwr bod yna le, hefyd, i lyfr ysgafnach, llai manwl, ac efallai gyda rhagor o luniau. Yn sicr, dylai pob un sydd â diddordeb mewn canu pop cyfoes wybod 'chydig am y gwreiddiau, ond faint o bobol ifanc y dyddiau hyn wnaiff ddarllen llyfr 400 tudalen?
Ewch i ddarllen mwy am y llyfr
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|