
 |  | Diwrnod y Llyfr
Dathliadau a digwyddiadau
Mawrth 2003
|
Diwrnod y Llyfr 2003, Cymru - y dathliad mwyaf erioed! Mae Elfed Evans, perchennog siop lyfrau yn Rhuthun wedi meddwl am ffordd newydd, gerddorol o ddathlu Diwrnod y Llyfr - dydd Iau 6 Mawrth - ac o geisio annog rhagor o bobl o bob oed i ddarllen.
Ar Fawrth 6, bydd Siop Elfair, Rhuthun, yn cynnal noson o gerdd a chân yng nghwmni'r cerddor lleol Robat Arwyn a'r bardd Robin Llwyd ab Owain yng Nghastell Rhuthun. Bydd yno stondin lyfrau hefyd.
"Mae Diwrnod y Llyfr yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru bob blwyddyn ac mae'n atgoffa mwy a mwy o bobl o bleserau darllen," meddai Elfed.
"Ar gyfer 2003, rydym wedi penderfynu trefnu achlysur a fydd nid yn unig yn hyrwyddo neges y Diwrnod ond hefyd yn codi arian at achos da lleol," meddai. Bydd elw'r noson yn mynd at Mencap Cylch Rhuthun.
Mae'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Jenny Randerson, yn gobeithio cwrdd â phobl a fydd wedi cymryd rhan mewn stafell sgwrsio ar lein ar wasanaeth BBC Cymru'r Byd, gyda'r awdur Mihangel Morgan, yn Llyfrgell Bangor.
Bydd yr awdur yn fyw ar-lein i ateb cwestiynau rhwng 11.00 a chanol dydd, a bydd y datblygiad yma yn gwneud defnydd o'r mynediad rhad ac ddim i'r Rhyngrwyd a geir trwy Rwydwaith y Bobl.
Ac ar yr un pryd, bydd miloedd o blant mewn ysgolion ledled Cymru mewn yn ymuno mewn parti llefaru enfawr.
Bydd cannoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru, mewn ysgolion, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, siopau llyfrau, swyddfeydd a gweithleoedd eraill ar Ddiwrnod y Llyfr 06.03.03.
Bydd chwe stori newydd sbon i blant i'w gweld ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru - a bydd cysylltiadau byw'n cael eu e-bostio i ysgolion Cymru.
Yn Abertawe bydd cyngerdd am ddim yn ffreutur y brifysgol - rhwng 12.00 a 2.00 p.m. - pryd y bydd prif gyfansoddwr jazz Cymru, Paula Gardiner, a'r sacsoffonydd Daniel Williams yn cyflwyno addasiadau jazz o gerddi Dylan Thomas.
Mae yr Academi yn lansio gwaith newydd ar y cyd gan 20 o awduron Cymru - Ennill a Cholli - yn adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, rhwng 6 a 7.30pm.
Bydd Menter Coedwigaeth Cymru yn rhedeg sesiynau straeon a barddoniaeth yn Nant yr Arian, Ponterwyd, Ceredigion ac yng Nghanolfan Garwnant, Merthyr Tudful.
Yn Llancaiach Fawr cynhelir sesiwn straeon a gweithgareddau wedi'u seilio ar y ffordd yr oedd plant yn dysgu darllen yn yr ail ganrif ar bymtheg. Cyhoeddir enw'r gwaith sydd wedi dod i'r brig yn y pôl cenedlaethol 'We Are What We Read'.
Yn ystod yr wythnos sy'n arwain at Ddiwrnod y Llyfr, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio llyfryn o ryseitiau wedi eu cymryd o lawysgrifau a llyfrau ac fe gynhelir arddangosfa i gyd-fynd 'r llyfryn.
Mewn parti dreigiau yn Sir Benfro, bydd draig 12 troedfedd yn anadlu tân i 'danio dychymyg y plant', bydd cwis a chystadleuaeth arlunio dreigiau, diod draig a chacen ddraig. Trefnwyd yr achlysur hwn gan Grðp Llyfrau Plant Gorllewin Cymru a bydd Graham Howells, darluniwr llyfrau plant, yn bresennol i dynnu lluniau dreigiau!
Bydd y nofelydd, y bardd a'r dramodydd Emyr Humphreys - sy'n adnabyddus fel 'prif ddehonglydd bywyd Cymru yn Saesneg' - yn traddodi prif anerchiadDiwrnod y Llyfr yng Nghymru a hynny yn Llyfrgell yr Wyddgrug ar 4 Mawrth, mewn sgwrs â'i gyfaill a'i gydweithiwr yr Athro M. Wynn Thomas.
Ac mae enwogion o fyd y celfyddydau ac adloniant - Gaby Logan, Aled Jones, Ryan Giggs - wedi mynegi eu cefnogaeth i'r digwyddiad byd-eang hwn sy'n dwyn 30 o wledydd ym mhedwar ban byd ynghyd i annog pobl i fwynhau darllen.
Bydd y cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies yn cyflwyno ail-gread o ymgyrch deledu lwyddiannus yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol 'Darllena Gyda Fi', gyda logo Diwrnod y Llyfr yn cael ei dangos yn y fersiwn hon o'r hysbyseb. Fe'i darlledir o 21 Chwefror tan 6 Mawrth.
"Mae pobl ledled Cymru wedi gwneud ymdrech anferthol ar gyfer dathliadau Diwrnod y Llyfr eleni," meddai Delyth Humphreys o Gyngor Llyfrau Cymru. "Mae'r gwahanol ddigwyddiadau a gynhelir yn amrywiol dros ben ac fe geir rhywbeth i annog pobl o bob oed i ailddarganfod y pleser a geir wrth ddarllen," meddai.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|