
 |  | Haeddu coron yn lle het
Mwynhau Twm heb ei sgwarnogod
Dydd Iau, Ionawr 16, 2003
|
2 gan Twm Morys . Cyhoeddiadau Barddas, 2002. £6.00 Adolygiad gan Eiry Miles
Rhaid cyfaddef i Twm Morys ymddangos fel tipyn o rwdlyn i mi ar brydiau.
Dywedodd y bardd ei hun ryw dro fod yn well ganddo "swn heb synnwyr na synnwyr heb swn", ond gall ei eiriau gwneud a’i falu awyr am sgwarnogod a hetiau fod yn dân ar fy nghroen.
Ni wnaeth d ei ymddangosiadau ar y rhaglen deledu warthus, Trafferth Mewn Tafarn, rhyw lawer i’m cynhesu tuag ato chwaith.
Ond ar ôl mwynhau ei berfformiad ar Daith y Saith Sant yn ddiweddar, roeddwn yn barod i roi cyfle arall iddo.
Golwg go iawn Rwy’n falch imi wneud hynny. O’r diwedd, yn ei ail gyfrol o farddoniaeth, cawn olwg go iawn ar Twm Morys. Cawn synnwyr, yn ogystal â swn.
Cyhoeddwyd rhai o gerddi’r gyfrol eisoes yn Eldorado, ffrwyth ei deithiau o amgylch de’r Amerig gydag Iwan Llwyd.
Yn y cerddi hynny, teimlwn gyffro afieithus y bardd ar ei antur, a daw ei hiwmor byw i’r amlwg yn y gerdd 7 o Bethau Perig yn Ne’r Amerig, wrth iddo restru peryglon fel ‘genod, sy’n brifo o hardd’, llosgfynyddoedd a chwyldroadau.
Mae ganddo lygaid craff a cheisia uniaethu â’r bobl o’i gwmpas, er mor estron yw eu diwylliant a’u harferion iddo.
Dyfeisgarwch ar ei orau Gwelwn ddyfeisgarwch y bardd ar ei orau yn y gerdd Binociwlars, sy’n sôn am fachgen brodorol tlawd a gwrddodd ym Mheriw. Lluniwyd y gerdd o safbwynt y bachgen, a’r bardd yn dychmygu ei fod bellach yn arlywydd ei wlad.
Eithr er cymaint yw awch y bardd am deithio, mae tinc o hiraeth yn Crist Rio, a cherddi am Eifionydd a’i phobl yw crynswth y casgliad.
Wrth foli’r adeiladwr Dewi Vaughan Prichard, mae’n sôn am gael ty a ‘Byw ’ma wedyn heb ’madael’, ac mae Dod Adre yn sôn am ei ryddhâd wrth gyrraedd ei wely ar ôl taith hir.
Ymddengys fod y bardd bellach wedi bwrw gwreiddiau, a’r casgliad hwn yn adlewyrchu ei fodlonrwydd a’i sefydlogrwydd yn Eifionydd.
Er hynny, nid yw’r bardd wedi colli ei asbri wrth ymgartrefu a dengys y gerdd Parablwyr Enwau fod cymaint o swyn iddo yn enwau lleoedd Cymru â Cusgo neu Cito bell, a gwêl ryfeddodau lu o gwmpas ei gynefin.
Cariad angerddol Mae byd natur a’r môr yn ei gyfareddu, a cherddi fel 7 Rhyfeddod Enlli yn mynegi ei gariad angerddol tuag at ei fro: A’r seithfed rhyfeddod? Bod y fath bethau’n bod Ryw dafliad torth bach o lle ’dan ni’n dod!
Mae pobl ei fro yn bwysig iddo hefyd, a’i gerddi iddynt yn llawn anwyldeb a chynhesrwydd.
Er mor gynnil yw ei ddisgrifiadau, gall greu darluniau byw o bobl gyda’i drosiadau annisgwyl, megis yn y gerdd hon i Elis Gwyn:
Dyn rhwyd, a’i wallt o’n rhedyn, - a llwynog Bach llon iddo’n locsyn;
Iaith lafar Eifionydd Mae iaith lafar Eifionydd yn rhoi naws sgyrsiol ac agos-atoch i’w farddoniaeth, a chymaint yw ei feistrolaeth ar ei gynghanedd fel nad ydym yn sylwi arni bron. Mae hi’n ymdoddi’n llwyr i’w gerddi, heb darfu ar eu llif.
Gwelwn ymwybyddiaeth gref o draddodiadau llenyddol Cymru yn ei waith. Cywyddau byrion yw mwyafrif ei gerddi, a defnyddia’r awdl i gyfarch pobl, yn unol a’r traddodiad.
Mae ei ffug farwnadau digri’ ef a Mei Mac hefyd yn dilyn hen gonfensiwn. Mae’r diwylliant gwerin yn ddylanwad mawr arno hefyd, a’i bersona arall, Bob Delyn, yn dod i’r golwg yn aml.
Mae Dacw’r Haul yn swynol fel hen bennill, a Diwrnod Cneifio yn Enlli yn dwyn rhigymau T.H. Parry-Williams i gof. Er mor feistrolgar yw ei gynganeddu, mae natur uniongyrchol a didwyll ei gerddi rhydd yn hynod effeithiol.
Chwedlau hud a lledrith Mae cyfeiriadau frith at chwedlau hud a lledrith yn ei waith, ond mae Twm Morys yn hollol effro i realiti bywyd. Teimlwn ddadrith chwerw’r bardd wrth heneiddio yn O Na Fyddem Eto, a’r bardd yn hiraethu am gyfnod ‘rhwng dwi’n dy garu di a chawod oer y conffeti;/rhwng bwrdd llong y freuddwyd, a’r ddesg yn y swyddfa lwyd.’
Mae nifer o gerddi eraill yn trafod digwyddiadau cyfoes, fel Independent on Sunday, sy’n ymateb i erthygl giaidd Janet Street Porter am Gymru.
Gall pob math o bethau ei sbarduno i lunio cerdd. Oherwydd hynny, mae ffresni yn perthyn i’r casgliad hwn, a’r darllenydd yn sicr o gael ei gyffroi a’i ysgwyd.
Nid yw Twm Morys eto’n brifardd, er iddo ddod yn agos at gael yr anrhydedd sawl tro. Ar ôl darllen y gyfrol hon, mawr obeithiaf y caiff ei haeddiant, a choron yn lle het ar ei ben cyn hir.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Holi Twm Morys |  | 
|