

|  | Adnabod Awdur: Twm Morys
Bardd ac awdur y nofel Ein Llyw Cyntaf
Dydd Iau, Medi 20, 2001
| Enw: Twm Morys.
Beth yw eich gwaith? Bardd.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Gwneud gwaith ymchwilydd a sgwennwr sgriptiau i Radio Cymru; bysgio; darlithio yn Llydaw; cyflwyno rhaglenni teledu, bron iawn i gyd ar fydr ac odl!
0 ble’r ydych chi’n dod? O Lanystumdwy.
Lle’r ydych chi¹n byw yn awr? Yn Llanystumdwy.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? .Dwi ddim yn meddwl mai 'mwynhau' ydi'r gair iawn. Rhywbeth sy'n digwydd ichi ydi addysg.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. Cael fy nghomisiynu wnes i i drosi nofel gan Jan Morris. Dwi wedi cydweithio o'r blaen efo hi. (Tydw i'n fab iddi, wedi'r cwbwl!) Y gwaith mawr bob tro ydi addasu'r darnau fasai'n amlwg i ddarllenwyr Cymraeg, heb newid gormod ar y stori.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Cyfrol o farddoniaeth o dan y teitl Ofn Fy Het; cyfrol arall o farddoniaeth ar y cyd efo'r Prifardd Iwan Llwyd o dan y teitl Eldorado. Ysgrif i Wasg Gregynog o dan y teitl Grwyne Fawr.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? The Welsh Fairy Book gan W. Jenkyn Thomas
A fyddwch yn edrych arno’n awr? Byddaf, yn amal.
Pwy yw eich hoff awdur? Yn Gymraeg, Robin Llywelyn. Yn Saesneg, yr Americanwr Raymond Carver.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Ugeiniau ohonyn nhw! Chwedlau'r Mabinogi yn un.
Pwy yw eich hoff fardd? Dafydd ap Gwilym
Pa un yw eich hoff gerdd? O waith Dafydd, Achau Hiraeth.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Heddiw: nid yw Duw mor greulon ag y dywed hen ddynion (Dafydd ap) Ond fory, pwy wyr?
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Yn rhyfedd iawn, dwi wrth fy modd efo hen ffilmiau du a gwyn Saesneg, fel Brief Encounter, neu ffilmiau rhyfel yn dangos y Natsis yn colli'r dydd. Fydda'i ddim yn gwylio'r teledu ryw lawer, ond cefais flas ar C'mon Mid Ffild, wrth reswm, a Talcen Caled hefyd.
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Mae Ifas y Tryc, a Gwydion y Mabinogi, a Glendower Shakespeare, a'r Soldiwr Da Sweig, a Ponsiws Peilot hefyd, yn hoff gymeriadau gen i.
Fy nghas gymeriad ydi'r snichyn Rhys Meigen.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Glanaf o bawb, pysgodyn.
Pa un yw eich hoff air? Sgwarnog.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i chwarae jaz ar y piano. Mi fydda'i'n medru yn amal mewn breuddwydion!
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Sgwarnocach na rhai.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Fy nhrwyn.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? Ar hyn o bryd, y bardd Leonard Cohen. Am ei fod o'n taro deuddeg bob gafael. Ond arwyr eraill i mi ydi Iolo Morgannwg a Loyd Jorj.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Gwrthryfel Glyn Dwr, wrth reswm pawb.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Loyd Jorj! A'r hyn faswn i'n ei ddweud ydi: Dowch am beint i'r Ffedars!
Pa un yw eich hoff daith a pham? Y daith adra i Eifionydd, am fy mod i wedi treulio llawer iawn gormod o amser yn crwydro.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Mynd efo Elis Gwyn yn ei gwch. Codi cimwch o gawell. Mynd â fo adra mewn pwcad o dan swp o wymon. Dweud diolch wrth ei daflu o i'r dwr berwedig. Gadael iddo oeri wedyn. Ei sglaffio efo toman o datws Chwilog, a menyn Llyn.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Cynganeddu, buta bwyd y môr, a'r hyn y bydd pob dyn iach yn ei wneud efo enaid hoff cytûn.
Pa un yw eich hoff liw? Glas.
Pa liw yw eich byd? Glas.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Bod yr iaith Gymraeg yn cael yr un hawl i fyw â slumod. Dach chi wedi clywed, hwyrach, fod darn go fawr o'r lôn osgoi heibio Llanllyfni ar gau, er ei bod yn barod, rhag dychryn y slumod sy'n magu eu cywion o dan un o'r pontydd.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes. Hon ydi ei enw o. Mae o ar y gweill ers rhai blynyddoedd. Llyfr am Gymru, y wlad a'r chwedl. Ond dwi'n teimlo 'mod i'n dal yn rhy ifanc i'w sgwennu o.
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Er gwaetha' cyfaddawd y seindorf…'
|  | 
|