
 |  | Diolch am weledigaeth
Taflu goleuni newydd dros gelfyddyd y Celtiaid
Dydd Iau, Ionawr 2, 2003
| Y Weledigaeth Geltaidd - John Meirion Morris. Y Lolfa £24.95
 Adolygiad: Lois Eckley
Does dim syndod mawr yn newis John Meirion Morris o destun yn ei lyfr newydd, Y Weledigaeth Geltaidd.
Yn gerflunydd amlwg sydd wedi anwesu’r traddodiad Celtaidd yn ei waith ei hun, bu’r llyfr yn gyfrwng newydd iddo ategu at yr hyn y mae eisoes yn ei ddweud yn ei waith.
Symbolau yn eglur Mae’r llyfr lliwgar yn astudiaeth o waith y Celtiaid yn bennaf o gyfnod La Tene, a thrwy iaith a delweddau daw symbolau yn eglur.
Yr hyn sydd yn amlygu yn y llyfr yw’r cymhlethdod oedd yn perthyn i’r bobl hyn a dadl John Meirion Morris yw bod mwy o ystyr yn perthyn i’r patrymau plethedig na’r hyn sydd wedi ei ddadansoddi cyn hyn. . Gyda geiriau mae'n rhoi cnawd ar gyfnod a chreiriau sydd wedi bod yn y niwl i nifer o haneswyr ac, yn raddol, mae’r awdur yn ein tywys ni o ddelweddau a thlysau i arfau mewn rhyfel gan gyflwyno gogwydd newydd ar siapiau a chelfyddyd sy’n hen hysbys inni . Ymdrech yw’r astudiaeth hon i ddangos fod y Celtiaid mor gynnar a chyfnod La Tene 500 CC a 100 OC yn ymwybodol o fywyd a marwolaeth a myfyrdod - hynny yw llonyddwch ysbrydol.
Gall yr awdur gynnig engreifftiau inni i gynnal ei ddadl a'i ddamcaniaethau - ond dyna’r oll all e wneud gan mai ond barn, damcaniaeth a dehongliad a allwn ni ei chynnig bellach ynglyn a gwir ystyr celfyddyd y Celtiaid, wrth gwrs . Ac yn hynny o beth, mae’r llyfr yma yn ddarlleniad ffres o gelfyddyd a adawyd yn y pridd yn hanesyddol ers tro . Diolch felly i John Meirion Morris am ddod a'r byd Celtaidd yn ôl i’r amlwg gan godi ar yr un pryd nifer o gwestiynau a thaflu goleuni newydd dros bobl a oedd o bosib yn fodau gyda mwyaf soffisdigedig eu cyfnod
Mwyam y llyfr
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau |  | 
|