
 |  | Yr hen ffordd - Geltaidd - o weld pethau
Cyfrol arloesol am weledigaeth gelfyddydol yr hen Geltiaid
Dydd Iau, Rhagfyr 12, 2002
| Mae un o gerflunwyr amlycaf Cymru yn "tanseilio'n llwyr" y syniadau traddodiadol ynglyn â chelfyddyd y Celtiaid mewn llyfr newydd.
Mewn astudiaeth sy'n cael ei disgrifio fel un "arloesol" a "newydd" gan y cyhoeddwyr, mae John Meirion Morris yn trafod perthynas celfyddyd y Celtiaid â'u credoau.
"Cyflwynir safbwynt cwbl newydd ar elfennau'r gelfyddyd hynafol yn Y Weledigaeth Geltaidd, ac y mae disgwyl i'r gyfrol fod yn gyfraniad ysgytwol i'r drafodaeth," meddai'r Lolfa.
Mwy na phatrymau Ac meddai John Meirion Morris: "Y mae f'y astudiaeth wedi f'y argyhoeddi fod mwy i'r gelfyddyd soffistegedig hon na phatrymau addurniedig a siapiau amwys, chwedl llawer o sylwebyddion.
"Y mae fy astudiaeth wedi fy argyhoeddi hefyd, fod i gelfyddyd La Tène seiliau crefyddol.
"Myfyrdod neu deimlad mewnol sy'n rhoi bod i'r gweithau hyn, symbolau ydynt. Y maent yn 'cynrychioli' pwerau ac y mae'n amlwg i mi fod gan yr artistiaid, a'r gymdeithas yma ymwybyddiaeth sylfaenol o gylch bywyd ac o lonyddwch ysbrydol."
Dros 150 o ddarluniau Er mwyn esbonio ac atgyfnerthu ei ddadl a dangos cysondeb rhyfeddol themâu y gelfyddyd, defnyddia'r awdur enghreifftiau o greiriau Celtaidd o bob rhan o Ewrop, ac mae'r gyfrol yn cynnwys dros 150 o ddarluniau llawn-lliw trawiadol.
Cymherir celfyddyd y Celtiaid gyda chelfyddydau eraill, hynach a chyfoes.
Cyfeirir at chwedlau hynafol fel y Mabinogion yn ogystal, 'Mae edrych ar ein traddodiad llenyddol ni'r Cymry drwy sbectol theori John yn brofiad cyffrous iawn.' meddai Mared Roberts o'r Lolfa.
"Mae'r un themâu yn codi dro ar ôl tro, bron nad ydi rhai o'r delweddau ar y creiriau yma, fel y panel o Bair Gundestrup sy'n ymddangos ar glawr-ôl y gyfrol yn cynnig animeiddiad o rannau o'r Mabinogi!"
Hawdd ei darllenEr yn bwnc astrus, mMae'r cyhoeddwyr yn disgrifio Y Weledigaeth Geltaidd fel cyfrol "hawdd iawn i'w darllen a'i deall" ac i'r diben hwnnw bu'r Athro Gwyn Thomas yn cydweithio gyda John Meirion Morris i greu fersiwn "hylaw a chyffrou" o ymchwil yr awdur.
"Fel gweddill Cyfres Celf 2000 - Cymru o Hud, Aneurin a Delweddau o'r Ymylon - mae'r diwyg a'r cynhyrchu o safon uchel," meddai Mared Roberts o'r Lolfa.
"Mae'r Lolfa wedi cyhoeddi sawl llyfr uchelgeisiol iawn yn ddiweddar, heb os, Y Weledigaeth Geltaidd ydy pinacl hyn. Rydan ni'n edrych ymlaen yn fawr at glywed ymateb pobl i'r gyfrol.'
Cerflunydd dylanwadol John Meirion Morris yw un o gerflunwyr mwyaf dylanwadol Cymru. Dywed Iwan Bala fod ei waith "yn gyfoes ac yn oesol ar yr un pryd."
Ysbrydolir ef gan gelfyddydau hynafol, a chan gelf a chwedloniaeth y Celtiaid yn arbennig, a dyna oedd dechreuadau y gyfrol hon.
Y mae'n byw ym Mrynrefail, Arfon, ond daw yn wreiddiol o Lanuwchllyn.
Y Weledigaeth Geltaidd gan John Meirion Morris. Y Lolfa. £24.95 (clawr caled) 0 86243 554 4
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfraua'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan
|  | 
|