
 |  | Yr hangofyrs gorau erioed!
Mynd amdani'n llwyddiannus efo merched tynnu rhaff
Gorffennaf 2003
| Dal Hi! gan Caryl Lewis. Lolfa. Adolygiad gan Elin Meredith
Mae hi bron yn amhosib peidio â chymharu Dal Hi! gyda mam chic-lit Cymraeg diweddar, sef Amdani! gan Bethan Gwanas.
Mae'r naill yn darlunio criw o ferched o gymuned wledig yn y de yn tynnu rhaff a'r llall yn disgrifio criw o ferched o gymuned wledig yn y gogledd yn chwarae rygbi.
Gyda'r ddwy nofel â'u teitlau ebychol yn dilyn hynt a helynt merched sy'n chwarae'n galed ar y cae ac oddi ar y cae, mae'r fformiwla yn debyg iawn.
Ei llais ei hun Ond wedi dweud hynny, mae gan Caryl Lewis ei llais clir ac unigryw ei hun, yn arbennig yn ei deialog a'i disgrifiadau .
Mae yma ymdrech fwriadol i ddefnyddio tafodiaith, bratiaith a rhegfeydd sy'n swnio'n hollol naturiol. Er nad oes neb lawer yn sôn am ladettes y dyddiau yma - nofel am ladettes Cymraeg ydi hi.
Darlunio sleisen o fywyd merch ifanc sydd yn y limbo hwnnw rhwng gadael coleg a gorfod penderfynu beth i'w wneud efo'i bywyd mae hi.
Genod cefn gwlad Heledd ydy'r prif gymeriad. Mae hi'n byw adre ar fferm ei rhieni, led cae oddi wrth ei ffrind gorau, Nerys, a fwy a mwy hyd braich oddi wrth ei chariad, Siôn.
Rydyn ni'n cael darlun o griw o genod cefn gwlad yn stryffaglu drwy garwriaethau blêr, nosweithiau meddw, dewisiadau anodd a sefyllfaoedd caled a hwyl gwaith tîm gan fod yn driw i'w gilydd drwy'r cyfan.
Mi gawn ni'r melys a'r chwerw efo sleisen iach o hiwmor, pinsied bach o drasiedi a joch go dda o gariad at ffrindiau, teulu a bro.
O, a fersiwn Ceredigion o Mr D'Arcy i gadw'r diddordeb rhywiol.
A diolch byth am hynny gan mai ychydig iawn o bynciau sy'n llai rhywiol na thynnu rhaff ond o leiaf mae'n ffordd effeithiol o gysylltu'r cymeriadau, yn llythrennol a throsiadol, efo'i gilydd.
Geiriau soniarus Roedd dau o'r cymeriadau yn neidio allan imi - Les yr hyfforddwr caled a mam barablus Heledd.
Mae'r fam yn defnyddio geiriau fel "sachabwndi" ac yn dannod bod gwallt ei merch yn gwneud iddi edrych fel coeden fale.
Mae'r dafodiaith yn gallu bod yn soniarus iawn, hyd yn oed os ydych chi'n hen 'og' sydd ddim yn deall bob gair, bob tro.
Dau gymeriad sy'n gwneud ichi feddwl eu bod wedi eu seilio ar bobl mae'r awdur yn eu hadnabod.
Llifo a bownsio Mae'r sgwrsio'n llifo ac yn bownsio a'r disgrifiadau o ddeffro efo hangofyr ymysg y gore rydw wedi eu darllen erioed!
Hefyd, mae'r defnydd o negeseuon testun yn effeithiol a chyfoes gan ddweud llawer mewn ychydig eiriau a fyddai fel arall wedi gofyn am baragraffau hir.
Mae hi'n nofel sy'n addo rhialtwch, sbort ac ychydig o hanci-panci ond ar y cyfan mae hi'n eitha difrifol. Does dim modd osgoi'r gymhariaeth ag Amdani! ond mae hi'n llwyddo i ddal ei thir 'run fath.
Dal Hi! |  | 
|