
 |  | Rhyw, lager a rhaffau
Digon o iaith liwgar wrth i ferched dynnu rhaf
Gorffennaf 2003
| Nofel 'liwgar' ei hiaith am dîm o ferched sy'n tynnu rhaff ydi Nofel y Mis ar gyfer Gorffennaf.
Mae Dal Hi! gan Caryl Lewis sy'n cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn cael ei disgrifio fel "portread bywiog a benywaidd" o gefn gwlad y Gymru gyfoes.
"Mae hi'n yn nofel sy'n torri sawl record ym myd ffuglen Gymraeg, ymysg rhain y record am y swmp ac amrywiaeth mwyaf o iaith 'liwgar' ac am fod yn un o'r nofelau prin hynny i gael ei sgwennu yn nhafodiaith Ceredigion," meddai llefarydd ar ran y wasg.
Ychwanegodd mai aelodau tîm tynnu rhaff merched Tafarn y Rhos yw'r prif gymeriadau.
Lot o sbort "Maent yn paratoi at y twrnament tynnu rhaff cenedlaethol ac yn byw bywydau llawn iawn: 'Dim sex, drugs and rock 'n roll, ond yn hytrach: rhyw, lager a rhaffau!" meddai Mared Roberts o'r Lolfa.
"Mae'r nofel yma yn lot o sbort i'w darllen," ychwanegodd, "ond dim jest chic-lit ydi hi. Mae 'na themâu dwys yn cael eu trafod hefyd, fel profedigaeth, perthynas yn chwalu a thyndra cymuned glos."
Cystadleuaeth yn y Steddfod Er yn nofel y mis ar gyfer Gorffennaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Meifod y bydd y gyfrol yn cael ei chyhoeddi'n swyddogol a hynny mewn twrnament tynnu rhaff y bydd Y Lolfa yn ei drefnu ar y maes.
Daw Caryl Lewis o Ddihewyd ger Aberaeron. Y mae'n gweithio i'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus Strata Matrix ac yn wyneb cyfarwydd ar raglenni celfyddydol Cymreig.
Graddiodd o Brifysgol Durham ac mae nofel i'r arddegau ganddi, Iawn Boi? yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa ym mis Medi yn rhan o gyfres Pen Dafad. |  | 
|