
 |  | Llythyr: Siomedig â Bitsh!
Ymateb i'n hadolygiad o nofel ddiweddaraf Eirug Wyn
Dydd Iau,Medi 19, 2002
| Bitsh! gan Eirug Wyn. Roeddwn i'n edrych ymlaen i fynd ar fy ngwyliau ar ôl yr Eisteddfod gyda nofel ddiweddara Eirug Wyn.
Dwi erbyn hyn yn dipyn o ffan - ac roedd ei lwyddiant yn ennill "y gamp lawn" yn yr Eistedffod yn grêt.
Ond yn wahanol i'ch adolygydd chi chefais i ddim yr un blas ar y nofel yma.
Yn wahanol, rhaid i mi ddweud mod i wedi cael cryn flas ar y tair nofel arall a dipyn o siom oedd Bitsh!
Roedd y modd yr oedd y nofel wedi cael ei chynllunio yn fy marn i'n gelfydd - y gorffennol a'r presennol wedi eu plethu drwy gofnodion ar gyfrifiadur a chofnodion presennol Abi Thomas.
Ond yn amlach na pheidio roedd y caneuon yn cael eu plethu i'r nofel er mwyn atgoffa drallenwyr mai yn y 1960au roedd syflaen y nofel.
Doeddwn i ddim yn gweld hyn yn gweithio cystal ag yr oeddwn wedi ei ddychmygu y byddai ar ôl clywed y feirniadaeth.
Doeddwn i ddim yn teimlo fod na stori yn llifo, roedd o fan hyn a fan draw gyda rhestr lawn o gariadon Abi a'i berthynas gyda nhw.
A sori, er bod na chwilfrydedd ynddai i ddod i'w therfyn, a gwneud hynny mewn dau eisteddiad, siomedig oeddwn i'n teimlo ar ei diwedd. 2 ** ro i iddi hi. Haf Andrew
Yr adolygiad
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|