bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Eirug Wyn
Dydy bywyd yn bitsh!

Adolygiad o nofel ddiweddaraf Eirug Wyn

Dydd Iau,Medi 5, 2002

Bitsh! gan Eirug Wyn. Nofel fuddugol cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002.
Pedair seren

Adolygiad gan Dafydd Mei

Nofel ydy hon sy’n sôn am y broses o dyfu i fyny - a delio â merched a rhyw yn bennaf.

Diolch am Anti Mable

Mae Abi Thomas wedi gwirioni efo Buddug Wyn ond mae gan Buddug Wyn rywun arall. Er bod yna gyfnodau pan fo Buddug Wyn ac yntau’n reit agos, Misty sy’n ei chael hi - mewn mwy nag un ystyr. Ond mae Abi’n lwcus (os mai lwcus ydy’r gair iawn); mae ganddo Anti Mabel sy’n dysgu pob dim am ryw iddo.

Nofel wedi’i gosod yng nghyfnod y chwedegau yw hon, ac mae’r awdur yn defnyddio geiriau caneuon pop drwy’r nofel i gyfleu ei deimladau am y gwahanol ferched yn ei fywyd.

Ydy hyn yn gweithio? Wel, mae’n dangos geiriau pa mor sâl oedd yna i rai o ganeuon y chwedegau.

Geiriau a fu farw

Efallai fod geiriau eraill sy’n cael eu defnyddio’n cyfleu’r cyfnod hwnnw’n well. Geiriau sydd fwy neu lai wedi marw yn ardal Arfon erbyn hyn: nabio (dwyn) a slanu neu harnings (dyrnu/cweir).

Ond a oedd merched y chwedegau mor rhwydd ‘a’u ffafrau’? Mae Abi yn cael jymp (gair arall o’r chwedegau!) efo Menna ar ei ddêt gyntaf! Mae’n rhaid ei fod o’n dipyn o foi!

Mae yna dristwch ac mae yna hiwmor yn y llyfr. Mae Abram Ifan, y cenedlaetholwr, yn gweld Cymru fel merch. "Elidir Fawr ydi’r bronna? ... a twll chwaral ydi ..." awgryma Abi a’i gyfaill.

Tristwch yn bennaf

Ond tristwch sy’n bennaf redeg drwy’r nofel ac mae’r gair Bitsh! yn cael ei ddefnyddio’n aml. Ar ddechrau pob pennod ceir cyfeiriad at ddau ddoctor sy’n amlwg yn rhyw edrych ar ei ôl. Pwy ydyn nhw a pham eu bod nhw yno?

Daw ei atgofion yn ôl ar ffurf ffeiliau cyfrifiadur, er mai mewn copi-bwc mae’n cadw ei atgofion yn y nofel.

Oes angen y ffeiliau a’r caneuon pop? Doeddwn i ddim yn credu eu bod yn ychwanegu at y stori - a honno’n stori wirioneddol ddifyr. Llawer mwy difyr na’r ddwy nofel arall a enillodd fedal i’r awdur.

Ai nofel hunangofiannol yw hon? Yn sicr mae’r awdur yn sôn am ardal ei febyd ond chlywais i erioed amdano’n sôn am ei Anti Mabel cyn hyn!

Cefndir:
@@
Gwerthwyd yr argraffiad cyntaf o 2,5000 o Bitsh yn ystod wythnos y Steddfod. Mae ailargraffiad yn awr ar gael.

Disgrifiodd y beirniaid y nofel fel un " ...nerthol, ysgytwol ei chynnwys a hyderus ei dweud."

Bellach mae Eirug Wyn wedi ennill y "gamp lawn" Lenyddol gan ei fod eisoes wedi ennill gwobr Daniel Owen unwaith a'r Fedal Ryddiaith ddwywaith.

Dyma bymthegfed nofel Eirug Wyn, ac wrth siarad ar ol y seremoni roedd yn cyfaddef i'r newyddion am ennill y wobr fod yn hwb iddo mewn cyfnod anodd o salwch.

Ennill yn y Steddfod

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:
News image
Newyddion yr wythnosY llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod AwdurLlais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a BBC Cymru'r Byd






About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy