
 |  | Caffi - gyda gormod o gwsmeriaid
Darlunio cymdeithas dros fwrdd caffi Dydd Iau, Mai 16, 2002
| Y Caffi gan Aled Lewis Evans. Gwasg Pantycelyn. Nofel y Mis, Mai.
 Adolygiad ganCatrin Jones
Nofel wedi ei lleoli mewn caffi sydd wedi ei dewis yn nofel y mis ar gyfer Mai.
Mae’r caffi yng Nghanolfan Gelfyddydau Caerfantell, tref ddychmygol yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Tref ar y ffin yw Caerfantell ac mae’n atgoffa rhywun o Wrecsam. Mae Aled Lewis Evans yn cyfaddef mai’r caffi yn llyfrgell Wrecsam fu’n ysbrydoliaeth iddo ar gyfer y nofel hon ac mai teyrnged yw’r nofel i gymdeithas y caffi hwnnw.
Canol llonydd mewn byd sy'n rhemp Mae i’r caffi le pwysig ym mywyd trigolion Caerfantell. Y caffi arbennig hwn yw canol llonydd y dref, "rhyw gornelyn bach o’r byd, rhyw ganol llonydd mewn byd wedi mynd yn rhemp".
Yng nghanol holl brysurdeb bywyd mae’r caffi yn cynnig cysur i’r rheiny sydd am ddianc rhag y byd am ennyd. Yng nghanol y paneidiau coffi a’r holl ddanteithion maen nhw’n cael y cyfle i gymdeithasu ag eraill neu i eistedd ar eu pennau eu hunain a chael llonydd i fyfyrio am y byd a’i broblemau.
Mae’r caffi yn dod yn rhan ganolog ym mywydau pob un ohonynt. Nid y lluniaeth sy’n bwysig iddyn nhw mewn gwirionedd ond y gwmnïaeth, a daw’r lle fel ail gartref iddyn nhw.
Mae’r awdur yn disgrifio cwsmeriaid y caffi fel: "Pobol ddewr wedi dysgu sefyll ar eu pennau eu hunain – wedi gwneud ymdrech – petai hi ond yr ymdrech ddyddiol o ddod yno i’r Caffi i gymdeithasu, i gysylltu â’r Tir Mawr."
Ar fin cau Mae’r nofel yn portreadu cyfnod tyngedfennol yn hanes y caffi. Mae’n ddiwedd cyfnod a’r caffi ar fin cau, a hynny o ganlyniad i ddylanwadau’r oes fodern.
Nid oes lle i’r caffi mwyach ym mywyd prysur y ddinas ac er bod y gymdeithas glos o fewn ei muriau yn teimlo’r golled i’r byw wrth feddwl am y caffi’n gorfod cau ei ddrysau, dim ond cyfran fechan ydyn nhw o boblogaeth y ddinas sy’n llawer rhy brysur i ddod yma i dreulio amser yn ymlacio a chymdeithasu.
Mae cau’r caffi yn symbol o’r dirywiad yn y gymdeithas yn gyffredinol.
Mae’r dirywiad hwn yn cael ei bortreadu trwy gydol y nofel. Gwelwn y dirywiad yn gyntaf yn nhermau ei gwerthoedd. Cyflëir hyn i ni trwy gymeriad Dai Owen, cyn-athro oedrannus o’r Rhos sy’n gymeriad amlwg yn y nofel.
Yr hen gymdeithas Mae Dai Owen yn ymgorfforiad o’r hen gymdeithas, y gymdeithas Gymraeg lengar, grefyddol, a brawdgarol. Mae’n ymgorfforiad hefyd o werthoedd y gymdeithas honno:
"Hannai o Rosllannerchrugog pan oedd Rhos yn Rhos y glo a Rhos y gwyn Sabathau".
Mae’r dirywiad ieithyddol yn amlwg hefyd trwy gydol y nofel a gwelwn gyferbyniad cryf rhwng iaith Dai Owen a bratiaith rhai o’r cymeriadau eraill, rhai ohonynt nad ydyn nhw’n gallu siarad Cymraeg o gwbwl.
Effaith arall ar y gymdeithas fu cau gwaith dur Brymbo. Cafodd hyn effaith andwyol ar y gymdeithas yn economaidd ac emosiynol hefyd. Gwelwn yr effaith a gafodd ar ysbryd y cyn-weithwyr a’r straen anochel ar eu bywyd teuluol.
Mae effaith cau’r gwaith yn gwmwl du dros gymdeithas Caerfantell.
Dyfodiad technoleg Yn olaf gwelwn effaith datblygiad technoleg ar y gymdeithas. Gwelwn effaith hyn ar unigolion yn ystod y nofel gan fod datblygiadau technolegol yn golygu nad oes eu hangen mwyach.
Mae Jenks, ceidwad y maes parcio ger y caffi, yn colli ei swydd pan ddaw peiriant tocynnau i lyncu arian yr ymwelwyr yn ei le.
Mae Llidiart, porthor y ganolfan gelfyddydau, yn poeni am ei swydd yntau.
Dyma ganlyniadau trist yr oes fodern. Canlyniad arall wrth gwrs yw bod yr oes wedi arwain at ynysu pobol ac mae’r mwyafrif o gymeriadau’r caffi yn gymeriadau unig. Dyma pam fod mynychu’r caffi am baned a sgwrs yn rhan mor bwysig o’u bywydau.
Er nad yw’r nofel yn symud y tu hwnt i ffiniau’r caffi rydym yn cael ein tywys i sawl man o fewn y dref a hynny drwy gyfrwng y cymeriadau. Drwy eu hymsonau hwy rydym yn dod i wybod mwy am y dref ar y ffin.
Cymeriadau lliwgar Mae yma lu o gymeriadau lliwgar o bob haen o gymdeithas a’u diddordebau’n amrywio o gerddoriaeth, hud a lledrith, Oes y Celtiaid a’r byd addysg.
Mae gan y cymeriadau hyn enwau diddorol hefyd fel Mrs Cwricwlwm Cenedlaethol, Jessica Fardd, Croeseiriau a Llidiart.
Ond er bod yma ymdrech i greu cymeriadau diddorol a bod yr awdur wedi defnyddio cryn ddychymyg wrth eu llunio, rydw i’n teimlo fod yma lawer gormod o gymeriadau.
Mae’r holl gymeriadau, 51 mewn oddeutu dau gan tudalen, yn llethu’r darllenydd yn llwyr.
Mae’r awdur wedi gosod rhestr o’r cymeriadau – eu henwau a disgrifiad byr ohonyn nhw – ar ddechrau’r nofel. Er bod y rhestr wedi bod o gymorth i mi wrth ddarllen y nofel roeddwn i’n dal i deimlo’n ddryslyd iawn drwy gydol y nofel, a heb y rhestr hon fe fyddwn wedi bod ar goll yn llwyr.
Mae nifer o’r cymeriadau hyn yn cael eu cyflwyno i ni yn y penodau cyntaf. Roedd hyn yn fy marn i yn llawer gormod i’r darllenydd allu ymdopi ag o. Roedd fy mhen i’n troi wrth i mi gael fy nhaflu i’r awyrgylch newydd a’m cyflwyno i lu o gymeriadau ar yr un pryd.
Roeddwn i’n gorfod troi at y rhestr yn barhaus ac roedd hyn yn tarfu ar rediad y nofel.
Gan fod yr awdur wedi pentyrru cymaint o gymeriadau blith draphlith i’r nofel nid yw’n mynd i ddyfnder gwirioneddol gyda’r un ohonynt nac yn mynd o dan groen yr un cymeriad. Ar ddiwedd y nofel doeddwn i ddim yn teimlo mod i wedi dod i adnabod yr un cymeriad yn iawn, a doeddwn i ddim yn teimlo mod i’n gallu uniaethu na chydymdeimlo â’r un ohonynt.
Doeddwn i ddim yn poeni rhyw lawer chwaith beth fyddai tynged yr un ohonynt.
Tosturio dros gymeriad Ond mae un eithriad, un cymeriad yr oeddwn yn tosturio wrtho erbyn diwedd y nofel a chredaf fod y portread o’r cymeriad hwnnw wedi bod yn llwyddiannus. Dai Owen yw’r cymeriad hwnnw yr hen wr o Rosllannerchrugog.
Pan yw’n colli ei olwg erbyn diwedd y nofel roeddwn i wirioneddol yn tosturio tuag ato ac yntau yn ymhyfrydu cymaint yn llenyddiaeth ei wlad ac wrth ei fodd yn darllen.
Er bod sawl digwyddiad arall yn y nofel a allai beri imi gydymdeimlo â’r cymeriadau fel llofruddiaeth gwr Shaz y tu allan i glwb nos y dref doeddwn i ddim yn credu i mi wir dosturio tuag ati gan nad oeddwn yn teimlo i mi ddod i’w hadnabod o gwbwl yn ystod y nofel.
Dydyn ni ddim yn dod i wybod beth oedd effaith y brofedigaeth arni o gwbwl na sut y mae’n ymdopi â cholli ei gwr a thad ei phlentyn.
Hefyd, roeddwn i’n teimlo fod rhai cymeriadau yn cael eu anghofio yn ystod y nofel. Mewn un man rydym yn cael ein cyflwyno i gymeriad o’r enw Charlie, perchennog clwb cadw’n heini Cyhyrau yn y dref.
Yn ei ymson ef deuwn i wybod mai cyn-weithiwr dur ydyw ac yr arferai weithio yng ngwaith dur y Brymbo. Gwelwn yr effaith fu arno ef a’i deulu pan gollodd ei waith.
Mae Charlie felly yn ymgorfforiad o effaith cau’r gwaith dur ar ardal y gogledd ddwyrain. Ond nid yw Charlie yn amlwg o gwbwl yng ngweddill y nofel ac felly nid ydym yn gweld unrhyw ddatblygiad yn ei gymeriad. Cymeriad ymylol ydyw yn y diwedd yng nghymdeithas y caffi er bod ganddo ran mor bwysig yn thema ganolog y nofel.
Yn olaf teimlaf nad yw pob un o gymeriadau’r nofel yn gwbwl gredadwy. Efallai fod hyn yn deillio o’r ffaith nad ydym yn dod i’w hadnabod yn iawn.
Diemosiwn a diflas Dydw i ddim yn gallu coelio y gall Mrs Cwricwlwm Cenedlaethol fod yn berson mor ddiemosiwn a diflas. Siawns fod yna ryw elfen anturus yn ei chymeriad, rhyw emosiwn ar wahân i eiddigedd a’r ysfa i lwyddo.
Dydw i ddim yn gallu credu chwaith y byddai Rhish y Pish, Rhisiart Morgan cyd-athro gyda Mrs Cwricwlwm Cenedlaethol, mor wirion ag eistedd gyda hi’n rheolaidd yn y caffi yn cael ei ddiflasu am fyd addysg ac yntau’n gwrando dim arni.
Y brif feirniadaeth felly yw bod yr ymdriniaeth o’r cymeriadau yn rhy arwynebol yn enwedig o ystyried bod cymaint o’r nofel yn dibynnu ar fonologau’r cymeriadau hynny.
Gweithio fel drama Roeddwn i’n teimlo wrth ei darllen y byddai’r nofel wedi ei gweithio yn well fel drama lwyfan, yn arbennig o gofio fod y cyfan yn digwydd y fewn pedair wal y caffi a’r stori i gyd yn cael ei hadrodd drwy gyfrwng y cymeriadau.
Byddai lle mewn drama i gymeriadau ymylol a gan y byddem yn eu gweld yn gorfforol efallai na fyddai’r cyfan mor ddryslyd.
Byddai’r cymeriadau’n gweithio’n dda ar lwyfan gan fod y ddeialog yn naturiol gyda’r awdur yn gwneud defnydd da o hiwmor a thafodiaith ardal y gogledd ddwyrain ac mae wedi llwyddo i gyfleu tafodiaith liwgar y Rhos i’r dim drwy gymeriad Dai Owen.
Holi awdur
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau |  | 
|