
 |  | Holi awdur:
Aled Lewis Evans
Nofelydd a bardd
Dydd Iau, Mai16, 2002 | Enw: Aled Lewis Evans
Beth yw eich gwaith? Byddaf yn Weinidog Bro yn Nyffryn Ceiriog a Llangollen o Haf 2002. Rhan annatod o'r gwaith fydd ysgrifennu ac agwedd greadigol at y gwaith.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Darlledwr radio ar Sain y Gororau 1983 - 1993; athro cynradd ac uwchradd,1987-2000.
O ble’r ydych chi¹n dod? Yn enedigol o Fachynlleth. Cyn mynd i Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam bum yn byw yn Y Bermo a Bae'r Penrhyn, Llandudno. Roedd yn rhaid i ni symud efo gwaith Dad yn y Swyddfa Bost.
Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr? Yn Wrecsam, y dref glên hon yn y Gogledd Ddwyrain.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Cefais amrywiaeth o ysgolion cynradd,Machynlleth, Morfa Rhiannedd, Bermo a Bodhyfryd, a mwynhau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, yn fawr iawn - yn arbennig yr agwedd 'deuluol' sy'n parhau hyd heddiw, a'r cyfle i fod mewn operâu roc fel Y Mab Afradlon.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. Rydw i wedi bod eisiau talu teyrnged i'r gymdeithas arbennig sy'n gallu deillio mewn caffiau, fel Caffi Llyfrgell Wrecsam. Gyda phosibilrwydd o gau y Caffi i esgor ar gyntedd theatr newydd, fe grisialodd y deyrnged hon. Felly mae'r Caffi yn sumbol cryf o fywyd, a bum yn mynychu y Caffi ers ei agoriad ym 1978. Hefyd i adlewyrchu yr oes ôl fodernaidd, unigolyddol mae defnydd helaeth o fonologau yn y gwaith, a buasai'n braf gweld rhai yn cael eu hactio. Mae y thema o ymlediad didostur Technoleg yn cael sylw yn y gwaith a bod pobl hefyd yn gallu troi'n beirianyddol eu natur yn y gweithle. Mae llawer o hiwmor a thafodiaith bro yn y gwaith a gobeithiaf y bydd yn boblogaidd.
Beth sy’n rhoi’r mwyaf o bleser ichi - barddoni ynteu rhyddiaith? Byddaf yn mwynhau y ddau gyfrwng ar wahanol amgylchiadau, ac mae greddf a'r Awen yn arwain at y naill gyfrwng neu'r llall.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Chwe chyfrol o farddoniaeth - Treffin, Sibrydion, Tonnau, Sglefrfyrddio, Mendio Gondola a Llanw'n Troi. (Y ddau olaf sydd yn dal mewn print) Cyfeirlyfr Bro Maelor, Llyfr defosiynol,Troeon. Casgliad o straeon byrion, Gai i ddarn o awyr las heddiw? Nofel am blentyndod yn y Bermo, Rhwng Dau Lanw Medi. Dau gasgliad o addasiadau Saesneg o gerddi - Wavelengths a Mixing the Colours.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Corn Pistol a Chwip, T Llew Jones.
A fyddwch yn edrych arno’n awr? Heb ei weld ers tro.
Pwy yw eich hoff awdur? Willy Russell, y dramodydd o Lerpwl. Mae ei gampwaith Blood Brothers yn dal i ysbrydoli ar ôl ei weld tua 15 gwaith.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Therese Desqueyroux gan Francois Mauriac.
Pwy yw eich hoff fardd? Mae gen i nifer, yn eu plith - Gwyn Thomas, Rhydwen Williams, Alan Llwyd, Myrddin ap Dafydd a Stewart Henderson yn y Saesneg.
Pa un yw eich hoff gerdd? Yr Oed gan I.D Hooson.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Llanwddyn yn llyn heddiw, o waith fy nhaid, Y Prifardd John Evans.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilm: Billy Elliott ar hyn o bryd. Teledu: Cyfresi drama gafaelgar fel Clocking Off, Talcen Caled a Tipyn o Stad.
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff gymeriadau: gwragedd Willy Russell - Rita yn Educating Rita a'r anfarwol Shirley Valentine. Cas gymeriadau: cymeriadau cas Dickens a Daniel Owen. e.e. Capten Trefor.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?. Canys gweled yr ydym yr awron trwy ddrych, mewn dameg; ond yna wyneb yn wyneb.
Pa un yw eich hoff air? Adnabod.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Dawn gerddorol - lleisiol a chyfansoddi, er mwyn troi rhai o'r cerddi yn ganeuon a'u perfformio. Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Creadigol Unigol Cymdeithasol.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Un o'r pethau yw methu â mynegi fy marn yn y modd yr hoffwn ei wneud bob amser - ar y pryd. Ond dwi'n gwella !
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Unrhyw rai fel fy niweddar Fam - Iola Atkinson o Gorwen gynt. Un a oedd yn gallu cyfleu ei mwynder a'i hanwyldeb ar lwyfan y byd heb fod ofn gwneud hynny ac a oedd yn meddu ar y fath hiwmor a bwrlwm ac egni hefyd, sy'n cael ei gofio hyd heddiw.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Bod yn y gynulleidfa yn y capel bach a welodd "Oleuadau Egryn" yn 1904 rhwng y Bermo a Thalybont.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Fy nhaid - John Evans y bardd. Bu farw pan oeddwn yn bymtheg, felly, er fy mod yn ei gofio fel Taid, nid oeddwn yn ddigon hen i werthfawrogi ei ddawn lenyddol, eisteddfodol a'i bregethu.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Unrhyw lwybr yn ôl i'r Bermo ac at y môr. Mae'r daith o Wrecsam i'r Bermo yn un ddymunol gan oedi am baned a sgwrs yn Y Bala.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Pasta o unrhyw fath gyda digonedd o lysiau. Pwdin o gacen gaws lemwn a cappucino i orffen.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Llenydda, teithio, mynychu'r theatr a'r sinema, cerdded, cymdeithasu, cyfarwyddo a sgriptio i gwmni drama o bobl ifanc.
Pa un yw eich hoff liw? Glas.
Pa liw yw eich byd? Melyn - y mwyafrif o'r amser. Ond mae cysgodion hefyd yn deillio o oleuni.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Fod pawb sydd yn arddel enw Crist yn ymddwyn yn Gristnogol tuag at ei gilydd, a'u cyd-ddyn yn gyffredinol.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Hoffwn ysgrifennu llyfr doniol, a dal ati i ddatblygu y rhyddiaith yn dilyn yr ymateb calonogol i'r Caffi.
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? I waith yn seiliedig ar y Bermo rhywbryd eto: "Roedden nhw'n dychwelyd i'r Ynys, er mwyn cael cyffwrdd drachefn â'r môr."
Adolygiad o Y Caffi |  | 
|