
 |  |
Gwae ar yr aelwyd
Merch fach yn cael ei chamdrin gan ei thad!
Dydd Iau, Mawrth 28, 2002
| Siabwcho gan Marged Lloyd Jones. Nofel y Mis, Mawrth 2002. Gomer. £6.95.
 Adolygiad gan Glyn Evans
Siwr o fod mai un o’r pethau a’n brawychodd fwyaf yn sgil y ffrwydrad o achosion ymyrryd yn rhywiol â phlant dros y blynyddoedd diwethaf oedd, fod cymaint ohonyn nhw.
Fodd bynnag, gyda chymaint o gyhuddiadau a honiadau yn gweld golau dydd yr oedd rhywun yn cael ei demtio i feddwl mai rhyw ffenomenon fodern oedd hon.
Rhywbeth yn perthyn i’r dydd heddiw. Rhywbeth a fyddai’n gwbl estron i’r gymdeithas y magwyd ein tadau a’n teidiau a’n neiniau ynddi.
Darlunio gwarth Buan y darbwyllwyd rhywun nad yw hynny o anghenraid yn wir ac i’r gwarth ddigwydd y tu ôl i ddrysau caeëdig hyd yn oed ar adegau a ystyriwyd yn rhai mwy parchus a diniwed.
Darlunio achos o hynny’n digwydd y mae’r nofel fach hon gan Marged Lloyd Jones.
Mae’n nofel sy’n garreg filltir lenyddol.
Nid lleiaf oherwydd y pwnc sy’n cael sylw - camdrin yn rhywiol ferch fach bum-mlwydd oed gan ei thad.
Dydi hynny ddim wedi bod yn bwnc o fewn ein llenyddiaeth cyn hyn.
Mae’n ddiddorol hefyd nad awdur ifanc, beiddgar, a roddodd bin ar bapur. Y mae Marged Lloyd Jones yn aelod parchus a blaenllaw o’r gymdeithas h^yn. Yn llywydd anrhydeddus Merched y Wawr.
Awydd diffuant Rwy’n meddwl y gallwn fod yn weddol sicr nad ymgais i fod yn feiddgar, i siocio a chynhyrfu dyfroedd yw’r nofel hon ond awydd diffuant i ddarlunio digwyddiad sydd, yn gwbl gyfiawn, yn ein dychryn a’n hysgwyd.
Y mae rhywun yn edmygu dewrder Marged Lloyd Jones yn mentro cyhoeddi. Dywedodd i rai o’i ffrindiau wrthod darllen y nofel oherwydd ei thestun.
Mae Siabwcho, fodd bynnag, yn ymwneud â mwy na’r un pwnc brawychus hwn er mai hynny sydd wedi tynnu sylw at y nofel.
Y cyfnod yw blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac y mae yma bortread synhwyrus a synhwyrol o’r cyfnod hwnnw; o gymdeithas y dydd a’r gwewyr o fyw dan gysgod rhyfel a bechgyn ifainc yn gadael am faes y gad - rhai ohonyn nhw byth i ddychwelyd.
Yn gyferbyniad i hyn mae rhyfel rheibus arall ar aelwyd Mary Anne Jane John fechan - Jini John - y ferch fach y mae ei thad ffiaidd yn ymryrryd yn rhywiol â hi.
Amarch gorffwyll Dyn yw Dyta sydd nid yn unig yn annynol tuag at ei ferch fach ond hefyd yn trin ei wraig gyda’r un ffieidd-dra ac amarch gorffwyll.
Mae yna ddisgrifiadau yn y nofel sy’n ysgytwol a sefyllfaoedd sy’n ein hoeri a chodi ofn wrth feddwl am ferch fach mewn lle mor ddiymgeledd wrth i ddiogelwch aelwyd droi’n dir rhaib.
Darlunir yn grefftus gymdeithas sydd am gelu drygau y tu ôl i ddrysau caeëdig ac mae’n arwyddocaol fod y Fam a’r ferch fach yn ystyried fod camdriniaeth erchyll y tad yn adlewyrchu’n waeth arnynt hwy yn hytrach nag arno ef.
Yn wyneb hyn, sylweddolwn ninnau sut y cai’r pethau hyn rwyddach hynt i ddigwydd nag a fyddai’n bosib mewn cymdeithas fwy agored ac os digwyddodd rhywbeth o unrhyw werth yn y maes hwn yn ein cyfnod ni, creu awyrgylch sy’n ei gwneud yn haws i bobl rannu eu gofidiau yw hynny.
Nid dyma’r lle, fodd bynnag, i fynd ar ôl ochr arall y geiniog honno o bosibilrwydd camgyhuddo.
Yn hen wraig Mae’r nofel yn cychwyn gyda Jini John, yn awr yn hen wraig, yn edrych yn ôl dros ei bywyd yn egluro sut y bu "mor amheus" o "bob gwryw" a sut y bu iddi gario "mwy o ofid nag y dylai unrhyw blentyn ei ddioddef."
Er bod hyn yn anogaeth i ddarllen ymlaen i ddarganfod mwy camgymeriad, yn fy meddwl i, fu cychwyn y nofel yn yr union fan hon gan ei bod yn rhoi’r sicrwydd hwnnw sy’n mennu ar y nofel y bydd Jini John yn byw drwy ei rhyfel bersonol.
Byddai ansicrwydd ynglyn â hynny wedi ychwanegu at dyndra’r nofel.
Yna gellid defnyddio yr ychydig dros ddwy ddalen gyntaf yn ôl-nodyn yn hytrach nag yn gychwyn.
O ran y cymeriadau, bwystfil cwbl ffiadd yn cael ei yrru gan chwant yw Dyta gan beri i rywun feddwl tybed, o safbwynt creu cymeriad mwy diddorol, na fyddai wedi bod yn ddiddorol dod â rhyw elfen o ddyneiddiwch i'w gymeriad rhag iddo ymddangos mor unochrog.
Ond nofel fer iawn yw hon, yn enwedig o ystyried dwyster y pwnc ac eangder y cefndir ac nid oes yma le fel ag y mae i greu cymeriadau aml-haenog. Trueni, mewn gwirionedd, i'r awdur fodloni ar drin mor gryno y deunydd sydd ganddi ond peryg mai dyna ofynion cyhoeddwyr Cymraeg heddiw.
Beth yw eich barn chi? Ebostiwch
Holi awdur |  | 
|