
 |  | Holi awdur:
Marged Lloyd Jones
AwdurNofel y Mis, Siabwcho - stori rymus am ferch fach yn cael ei chamdrin
Dydd Iau, Mawrth 28, 2002 | Enw? Marged Lloyd Jones
O ble 'da chi'n dod? Ceredigion.
Lle 'da chi'n byw? Gwynedd.
Lle hoffech chi fyw? Mewn pentref ar lan y môr yng Ngheredigion.
Ble yw eich hoff fan ar gyfer gwyliau/ymalcio/dihangfa? 'Run fath a’r uchod.
Beth ydi'r gwaith brafiaf ichi ei gael erioed? Derbyn Medal Goffa Syr T.H. Parry-Williams.
Beth ydi'r gwaith mwyaf annifyr a gawsoch erioed? Cystwyo plentyn a ddaliwyd yn lladrata.
Beth yw eich hoff liw a pham? Glas - lliw’r wybren a’r môr yn yr haf.
Pa liw ydi’r byd i chi? Llwyd - mae’n dibynnu ar y tywydd.
Pa wlad arall fydde chi'n hoffi byw ynddi? Cymru wrth gwrs - Yr Alban os byddai raid.
Ym mha gyfnod hanesyddol fydde chi’n hoffi byw? Y presennol.
Beth yw eich hoff bryd bwyd a’ch hoff ddiod? Pysgod o bob math. Sudd ffrwythau.
Pa un oedd y pryd gorau a gawsoch erioed a pha un y salaf? Y gorau: pryd o waith yr Indiaid yn yr America. Y salaf: pasta yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Pa un yw eich hoff lyfr a pha lyfr ydych chi’n ei ddarllen ar hyn o bryd? Dail Pren gan Waldo Williams. Gorau Cyfarwydd - detholiad o waith Bedwyr L. Jones.
Pa un yw eich hoff ffilm? A rhaglen deledu? Kathy Come Home Fools and Horses
Beth yw’r tri gair a fyddai’n eich disgrifio chi orau? Penderfynol Cyfeillgar Byrbwyll
Pa gar ydych chi'n ei yrru - a pha gar a hoffech ei yrru? Fiat Punto - Jaguar Coupe!
Gyda phwy fyddech chi'n hoffi treulio'r penwythnos, a beth fydde chi'n ei wneud efo'ch gilydd? Ffrind agos mewn gwesty moethus. Crwydro, siarad a siopa.
Beth yw'r stomp, cawl, mwyaf y buoch chi ynddo erioed? Colli’r ffordd ar y paith ym Mhatagonia.
Pa raglen deledu a fyddai'n gwneud i chi fynd allan am dro? Tabw, S4C.
Pa gylchgrawn ydych chi yn ei fwynhau fwyaf? Barn. Homes and Antiques.
Pa un yw eich hoff label dillad? Jaeger.
Faint o amser ydych chi’n ei gymryd i wisgo cyn mynd allan, a beth sy'n cael y sylw mwyaf? 14 - 30 munud. Colur.
Pa oed hoffech chi fod - a beth fyddech chi’n ei wneud na allwch ei wneud yr oed yr ydych nawr? Un ar hugain. Chwarae hoci.
Pa un yw eich hoff anifail? Ci anwes - chihuahua.
Beth sy'n gwneud ichi gochi? Yr haul!
Eich hoff linell neu ddarn o farddoniaeth - neu hoff ddywediad? Dychwelyd gan T. H. Parry-Williams.
Beth yw melltith fwyaf yr unfed ganrif ar hugain? Cyffuriau. A’i bendith fwyaf? Peiriant golchi.
Adolygiad o Siabwcho |  | 
|