
 |  | Gwobr Tir na n-Og
Bethan Gwanas a Myrddin ap Dafydd yn mynd a hi
Dydd Iau, Hydref 11, 2001
|
Dau awdur poblogaidd sydd wedi ysbrydoli miloedd o blant i fwynhau llyfrau a barddoniaeth yw enillwyr gwobrau Tir na n-Og eleni.
Bethan Gwanas, awdur y nofel lwyddiannus, Amdani, a’r gyfres o’r un enw a ddarlledir ar S4C, yw enillydd y wobr am Ffuglen Orau’r Flwyddyn.
Enillodd y wobr am y gyfrol Llinyn Trôns (Y Lolfa), ac ynddi ceir hanes gwrthdaro a chyfeillgarwch ymysg criw brith o ddisgyblion TGAU ar gwrs mewn canolfan awyr agored.
Mae’r gyfrol eisoes wedi gwerthu dros 1,600 o gopïau.
Yn enedigol o Ddolgellau, bu Bethan yn byw yn Ffrainc am flwyddyn cyn gwneud cyfnod o waith gwirfoddol yn Nigeria.
Bu’n dysgu am gyfnod, ac yn gweithio i’r Urdd a Radio Cymru; bellach mae hi’n ysgrifennu’n llawn amser ac yn hyrwyddo gweithgareddau darllen yng Ngwynedd.
Enillydd Gwobr Llyfr Gorau’r Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen yw Myrddin ap Dafydd am gyfrol o farddoniaeth, Jam Coch Mewn Pwdin Reis (Hughes).
Myrddin oedd Bardd Plant cyntaf Cymru.
"Trwy ei waith fel Rheolwr Cyfarwyddo Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, mae wedi gwneud mwy na neb i hybu barddoniaeth ymysg plant a phobl ifanc," meddai datganiad gan Gyngor Llyfrau Cymru..
Yn ystod ei gyfnod yn Fardd Plant Cymru yn y flwyddyn 2000, ysgrifennodd nifer o gerddi i gofnodi’r achlysur, yn ogystal â chynnal gweithdai barddoniaeth mewn ysgolion ledled Cymru.
Mae Jam Coch Mewn Pwdin Reisyn ffrwythy cyfnod llwyddiannus hwn ac yn cynnwys cerddi ganddo ef ei hun yn ogystal â nifer o gerddi’r plant.
"Roedd hi’n dasg anodd iawn i’r beirniaid ddewis y llyfrau gorau,’ meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau.
"Ond efallai bod Bethan a Myrddin wedi gwneud mwy na neb i hyrwyddo llenyddiaeth plant ac i gyflwyno’r wefr sydd i’w chael o lyfrau.’
Cyflwynir gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant, gyda’r enillwyr yn derbyn gwobr o £1,000 yr un.
Adnabod awdur: Holi Bethan Gwanas
Holi Myrddin ap Dafydd
Adolygiadau Llinyn Trons
|  | 
|