
 |  | Adnabod Awdur:
Bardd gydag ambell i lyfr arall ar y gweill!
| Holi Myrddin ap Dafydd bardd, awdur a chyhoeddwr sydd newydd orffen ei dymor fel Bardd Plant Cymru
Eich Enw? Myrddin ap Dafydd
Beth yw eich gwaith? Cyhoeddwr
O ble’r ydych chi’n dod? Llanrwst
Lle’r ydych chi’n byw yn awr? Llwyndyrus, Pwllheli
Pam sgrifennu llyfr? I geisio llenwi bwlch. Mi fyddai yn gweld yr angen, weithiau yn gofyn i rywun arall sgrifennu’r llyfr - neu’n ei sgrifennu fy hun
Dwedwch rywbeth am eich llyfr diweddara? Sach Gysgu yn Llawn o Greision, Armadilo ar Fy Mhen. Cyfrolau yn anelu at gyflwyno barddoniaeth i blant
Pwy yw eich hoff awdur? T. Llew Jones. Roedd o’n ddylanwad cynnar, mawr arna i. Mae’r person sy’n eich bachu i ddarllen gynta o reidrwydd yn mynd i fod yn ddylanwad
A oes urhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Cyfres Twm Sion Cati gan T. Llew Jones
Pwy yw eich hoff fardd? Guto’r Glyn
Pa un yw eich hoff gerdd? Hynaf oll heno wyf i gan Guto’r Glyn
Pa un yw eich hoff ffilm? Into The West, ffilm o Iwerddon am ddau fachgen o dincer. Cgefndir o chwedlau Celtaidd. Ffilm ag iddi lawer ar sawl lefel
Pa un yw eich hoff raglen deledu? Byd Pws
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir? Deuparth gwaith yw ei ddechrau
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n bwriadu bod yn awdur? Dal ati
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Dawn canu
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Prysur, Prydlon, Aanfodlon
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf a pham? Nelson Mandela
Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi’n hoffi bod yn rhan ohono? Gwrthryfel Glyndwr
Pa un yw eich hoff daith a pham? O Fwlch yr Eifl i Bont Carnguwch. Rwyf ar fy ffordd adre a rwy'n medru gweld Llyn i gyd - ac Iwerddon os yw hi’n glir
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Bwyd môr, cregin gleision o Borth Penrhyn a Maelgi o Bwllheli
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Cerdded, Teithio, Rygbi, Garddio
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Ambell un
|  | 
|