
 |  | Y beirdd yn teithio
Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth
Dydd Iau, Hydref 4, 2001
|
Y mae heddiw yn Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.
Sefydlwyd Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yn 1994 a thyfodd mewn poblogrwydd oddi ar hynny.
Bydd Rhaglen Hywel a Dei ar Radio Cymru yn cael ei neilltuo yn gyfangwbl i drin barddoniaeth ddydd Iau.
Bydd Myrddin ap Dafydd yn trafod y traddodiad barddol yng Nghymru - pynciau fel yr arfer o gyflwyno cadeiriau yn wobrau am farddoniaeth.
Hefyd yn y rhaglen fydd bardd Cadair Eisteddfod Dinbych, Mererid Hopwood, yn cyflwyno’i dewis o’i hoff farddoniaeth Gymraeg.
Bydd Haf Morris yn trafod Cerdd Dant a'r grefft o osod barddoniaeth i gerddoriaeth.
Bydd Mared Roberts o Wasg Y Lolfa yn trafod Poeth, cyfrol o farddoniaeth ar gyfer pobl ifanc a dysgwyr, a olygwyd gan Non ap Emlyn.
Pwnc arall dan drafodaeth yw pryd y mae geiriau caneuon ysgafn yn troi'n farddoniaeth - fel yn achos Dafydd Iwan a Bob Dylan. Hefin Wyn fydd yn trafod y pwnc yma. .
Cerdd gan Gymraes Y thema eleni yw Teithio ac y mae BBC Radio 4 yn Lloegr wedi comisiynu cerddi ar y thema Teithiau gan ddeg o feirdd i'w darlledu yn ystod y dydd gan gynnwys un gerdd gan fardd o Gymru.
Dywedodd y cynhyrchydd, Julian May, fod pobl o'r farn mai cynulleidfa ddethol ac arbenigol sydd i farddoniaeth gyfoes.
"Ond mae dathliad Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yn aruthrol boblogaidd gyda'r llinellau ffôn yn brysur gyda phobol yn gofyn am gopiau o'r cerddi a ddarlledwyd," meddai.
"Yn 1999 ymwelodd dros 10,500 â'r wefan, neu sgrifennu i ofyn am gopi o'r daflen gyda'r cerddi."
Nid yw'n syndod clywed fod un o'r cerddi a glywir ar Radio 4 heddiw wedi ei chyfansoddi gan y bardd o Gymru, Gwyneth Lewis, sy'n barddoni yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Agos at ei chalon Mae teithio yn rhywbeth sy'n agos iawn at galon Gwyneth ac y mae hi ar hyn o bryd yn paratoi i hwylio i bob porthladd yn y byd sydd â chysylltiad â Chaerdydd. Cafodd arian Loteri yn arbennig ar gyfer hyn a bydd yn cychwyn ymhen deunaw mis.
"Rwy'n enedigol o Gaerdydd a mae'r syniad wedi apelio ata i," meddai. "Y cwbl wn i ar hyn o bryd yw y bydd hi'n daith hir iawn."
Mae Gwyneth yn gyfnither i'r gofotwr Joe Tanner ac ysgrifennodd gerdd, Zero Gravity, yn cyfuno ei daith ef i'r gofod i helpu i atgyweirio telesgop gofod Hubble gyda marwolaeth ei chwaer-yng-nghyfraith o ganser.
Darlledwyd y gerdd honno ar y radio, hefyd.
"Cerdd am hwylio i Iwerddon yw'r un a ddarlledir ar Radio 4 heddiw," meddai.
"Fe hwylion ni ym mis Awst a roeddwn i'n edrych ymlaen am dywydd braf a gwisgo'r bicini. Yn lle hynny, beth gawson ni oedd storm, nerth 9. Bu raid i ni fynd i mewn Kinsale yn ne Iwerddon.
"O hynny daeth y gerdd. Cafodd ei recordio ar y cwch yn Aberdaugleddau."
Cyfuno teithio a barddoni Er nad oes traddodiad hir iawn o deithio ymhlith beirdd Cymru - yr amlycaf yw Syr T. H. Parry-Williams mae'n debyg gyda cherddi gwefreiddiol fel Y Ferch ar y Cei yn Rio ymhlith ein trysorau llenyddol - y mae yna nifer o feirdd ifainc cyfoes sy'n cyfuno teithio a barddoni.
Ymhlith yr amlycaf y mae Iwan Llwyd, Twm Morys a Menna Elfyn y tri ohonynt wedi darlunio a dehongli gwledydd dieithr yn eu barddoniaeth. Teithiodd Iwan Llwyd yn eang yn yr Unol Daleithiau ar gyfer rhaglenni teledu ac ymwelodd a De America gyda'i gyfaill Twm Morys.
"Mae'r profiad o gyfarfod pobol newydd mewn llefydd newydd yn help i roi golwg newydd ar eich sefyllfaoedd a'ch profiadau chi eich hunan," meddai. "Yr hyn sy'n debyg a'r hyn sy'n wahanol.
"Rwy'n cofio bod yn New Mexico, rywle yn agos i Sante Fe, a dod ar draws un o hen genhedloedd Gogledd America.
"Roeddwn i eisiau gwneud sgwrs efo nhw, cael tipyn o'u hanes. Ond 'doedd eu cred nhw ddim yn caniatau iddyn nhw gael eu recordio. Roedden nhw'n credu y bydden ni'n dwyn eu lleisiau nhw pe baen ni'n recordio nhw yn siarad ac yn dwyn eu cysgodion pe baen ni'n eu ffilmio nhw.
"Fe'm trawodd i fod hyn yn gwbl groes i'n hagwedd ni at y Gymraeg - yr awydd i'w chyhoeddi hi a'i rhannu hi, ei chlywed hi ar y radio, taflu goleuni arni.
"Fe sgrifennais i gerdd am y peth …"
Twm Morys: gweld petha newydd
"Drwy deithio rydan ni'n gweld petha newydd, bwyta bwydydd newydd, profi arogleuon newydd - mae o i gyd yn deffro'r synhwyrau. Dyna ydy barddoniaeth, neu ran bwysog ohono - synhwyrau," meddai Twm Morys.
"Rydw i wedi bod o gwmpas y byd unwaith neu ddwy. Dydy o ddim mor braf â hynny, wchi - hedfan.
"Mae gen i goesau hir a mae taith hir mewn awyren - economi - yn reit annifyr.
"Mae hwylio'n fwy cysurus - neu'r cwrwgl. Mae'n cael ei drwsio ar hyn o bryd lawr yn Llechryd. Ond mi fydda i'n mynd dipyn o gwmpas afonydd Gwynedd yn y cwrwgl. Mae'n dawel braf - ysgogi'r awen.
"Ond y daith ora bob amser ydy'r daith adra."
Menna Elfyn - newydd ddychwelyd Heb os, y bardd Cymraeg sydd wedi teithio fwyaf a phellaf yw Menna Elfyn a bydd hi yn Oriel Mostyn, Llandudno, yn darllen ei gwaith ar ddydd barddoniaeth.
Agosatrwydd yw thema'r digwyddiad hwnnw.
Yn fwy arwyddocaol o gofio mai teithiau yw thema dydd barddoniaeth mae hi newydd ddychwelyd o Amsterdam lle bu hi'n lawnsio cyfrol o gerddi Cymru wedi eu cyfieithu i Iseldireg. Teitl y gyfrol yw Mewn Goleuni Arall.
"Dyna mae teithio yn ei wneud i chi, yn eich gwneud chi'n ymwybodol o ddylanwadau eraill - gweld eich hunan a gweld eraill 'mewn goleuni arall'," meddai.
"Mae'n wythnos brysur i mi - gan ei bod yn wythnos o ddathlu barddoniaeth. Ddydd Mercher rwy'n darllen fy marddoniaeth yn Llyfrgell y Bontfaen a rwy wedi bod yn cael fy ffilmio ger rhai cofebau lle mae darnau o marddoniaeth i arnyn nhw - fel yr un i gofio glo a'r glowyr yn Nhonypandy ac un arall ar lan ymyl afon Bargoed, hefyd yn y De.
"Petaech chi'n gofyn i mi pam fod angen dydd barddoniaeth, buaswn i'n dweud fel dwedodd Waldo, pam lai?"
Gellir darllen cerddi Saesneg ar wefan Radio 4: www.bbc.co.uk/radio4
Gwefan y gymdeithas farddol yn Lloegr yw: www.poetrysoc.com/npd
Ewch i ddarllen mwy am Twm Morys Ewch i weld Twm yn dewis geiriau
|  | 
|