
 |  | Diolch am gnonyn aflonydd
Cyfrol ddiweddaraf Cyfres y Cewri, hunangofiant yr awdures a'r brotestwraig Angharad Tomos.
Dydd Iau, Hydref 4, 2001
| Cnonyn Aflonydd, Angharad Tomos Gwasg Gwynedd, £7.95

Adolygiad Sioned Lewis
Tydw i ddim yn un am ddarllen hunangofiannau fel rheol ond mae'n rhaid imi gyfaddef imi edrych ymlaen yn eiddgar at gael darllen y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cewri- y drydedd gyfrol ar hugain.
Dyma'r tro cyntaf i ferch rannu ei phrofiadau. Mae'n siwr fod ambell un arall wedi cael cynnig yn y gorffennol ond Angharad Tomos yw'r gyntaf i gynrychioli ei rhyw.
Ffigwr adnabyddus Mae Angharad Tomos yn ffigwr adnabyddus yng Nghymru ond "Angharad y brotestwraig" neu "Angharad yr Awdur" yw hi i'r rhan fwyaf ohonom. Dyma gyfle felly i ddod i adnabod gwir gymeriad y crëwr cymeriadau.
Mi dreuliodd Angharad bedair blynedd yn rhoi ei hanes ar gof a chadw. Lle ar wyneb daear mae rhywun yn dechrau wrth ddweud ei stori? Yn enwedig rhywun fel Angharad sydd â chymaint i'w ddweud?
Mae'n siwr fod y ffaith ei bod wedi cadw dyddiadur ers yn ferch 15 oed wedi bod o fudd mawr tra'n ysgrifennu.
Onid eich teimladau personol sydd yn cael eu nodi mewn dyddiadur? Faint yn union a ddylai awdur hunangofiant ei rannu â'r darllenydd?!
Diffiniad perffaith o'r awdur Mae teitl y gwaith yn un difyr-Cnonyn aflonydd ac yn ddiffiniad perffaith o'r awdur. Wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd, all neb ei chyhuddo o fod yn aelod diog o'r gymdeithas.
Mae hi'n weithgar yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar ran nifer o fudiadau. Mae'n siwr mai ei haflonyddwch sydd yn gyfrifol am ei gwthio ymlaen - er iddi fod yn anodd ar brydiau.
"Cnonyn Aflonydd" oedd hi pan enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Y Bala.
Cyffyrddiadau doniol Nid testimoni sentimental mo'r gwaith o bell ffordd. Ceir cyffyrddiadau doniol iawn yn ogystal â rhai trist. Dyma ddyfyniad yn y gyfrol o sgwrs rhwng Angharad Tomos a William Hague a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd…
Hague: What is this? Tomos: A retirement clock. Hague: I've no intension of retiring. Tomos: No-one in Wales wants you here. Hague: That's a matter of opinion. I have no plans to leave Wales.
Cyfrol llawn pobol Mae hi'n gyfrol llawn pobol. Dyma sydd yn eich taro chi'n syth wrth fodio'r tudalennau. Ceir sôn mawr am ei theulu ac mae rhaid dweud fod ganddi'r ddawn o fedru creu darluniau byw. Mae cynhesrwydd yr aelwyd yn amlwg a disgrifia Angharad ei chartref, Bron Wylfa, fel "angor gadarn"…"Fedra i ddim dychmygu lle mwy hudol i gael fy magu ynddo."
Mae ganddi ei stamp unigryw ei hun yn ogystal ag iaith gyhyrog, raenus. Nid mynd ati i addurno'r papur â geiriau diangen a phregethwrol a wna ond defnyddio iaith naturiol gref sydd yn beth prin erbyn heddiw.
Oeddwn i'n disgwyl darganfod rhyw gyfrinachau mawr o ddarllen y gyfrol? Nag oeddwn - ond mi oeddwn yn disgwyl esboniad neu ryw arlliw o eglurhad ynglyn â'r llwybr a'r penderfyniadau y mae Angharad Tomos wedi eu dewis ac yn bwysicach fyth, o lle y daw'r nerth a'r dyfalbarhad i gario ymlaen?
Gwybod mwy amdani Ydw i felly yn adnabod Angharad Tomos ar ôl darllen ei hunangofiant? Rwy'n gwybod llawer mwy amdani nag yr oeddwn. Mi 'dwi wedi gweld lluniau ohoni a'i theulu a gweld ei bod wedi chwarae rhan flaenllaw ym mrwydr yr iaith a'r frwydr am heddwch rhyngwladol.
Os am ddeall meddylfryd a rhesymeg Angharad Tomos, yna da chi darllenwch y gyfrol. Chewch chi mo'ch siomi. Mae'n siwr y bydd yna ddeunydd ail gyfrol gan y wraig hon.
Ewch i ddarllen mwy am Angharad Tomos
|  | 
|