

|  | Adnabod Awdur: Angharad Tomos
Un danbaid, driw a blin!
Dydd Iau, Mawrth 29, 2001
| Holi Angharad Tomos, mam Rala Rwdins.
Enw: Angharad Tomos
Beth yw eich gwaith? Ysgrifennu ac ymgyrchu
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Ysgrifennydd i Gymdeithas yr Iaith, Dylunydd Graffig, Awdur Preswyl
O ble¹r ydych chi¹n dod? Llanwnda, ger Caernarfon
Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr? Penygroes, Dyffryn Nantlle
Pam sgrifennu llyfrau? Am fod gen i stori i’w dweud, a phrofiad i’w rannu
Pa un yw’r gorau gennych - sgrifennu I blant ynteu oedolion? A yw un yn haws na’r llall? Mae’r ddau yn gwbl wahanol. Dydw i ddim mor ddwys pan yn ysgrifennu i blant. Gwerthfawrogi’r amrywiaeth ydw i.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? A fyddwch yn edrych arno’n awr? Haf a’i Ffrindiau a Theulu’r Nenfwd. Wrth edrych arnynt yn awr, mae’r darluniau yn dod a’r stori yn ôl i mi yn gymaint a’r geiriau.
Pwy yw eich hoff awdur? Islwyn Ffowc Elis, Marion Eames, Isabelle Allende a Milan Kundera
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Un Nos Ola Leuad ddylanwadodd ar fy arddull, a pheidio peri i mi ofni defnyddio tafodiaith.
Pwy yw eich hoff fardd? T.H.Parry-Williams, Waldo a Phantycelyn
Pa un yw eich hoff gerdd? Dwy Gerdd, T.H.Parry Williams
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Dr.Zhivago. Ar y teledu, Eastenders ac unrhyw raglen hanes.
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir? Hanes yw brwydr cofio yn erbyn angof
Pa gyngor fyddech chi¹n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur? Sgwennu, sgwennu, sgwennu
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i chwarae offeryn cerdd – a’r gallu i hedfan
Pa dri gair sy’n ei disgrifio chi orau? Tanbaid, Triw, Blin
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? Pobl gyffredin sydd wedi dyfalbarhau er gwaethaf popeth er na chawsant gydnabyddiaeth fel unigolion.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Ynghanol y berw ymysg y Piwritaniaid Cymreig yn syth wedi dienyddiad Siarl I
Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Hoffwn fod yn bryf ar y wal yn gwylio yr Esgob William Morgan yn cyfieithu’r Beibl. Fyddwn i ddim eisiau dweud dim byd, dim ond gwylio a rhyfeddu at ei ddyfalbarhad.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Ar fy ngwyliau ar fin gweld golygfa yr wyf wedi darllen amdani, wedi ei dychmygu, ac rwyf am gael ei phrofi mewn tri dimensiwn.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Pryd Arabaidd o cous cous, llysiau, dates ac orennau
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Dringo mynyddoedd Cymru a cherdded ar lwybrau mwy fflat
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Dwi wrthi’n sgwennu hanes bywyd fy Nhaid.
Adolygiad o Cosynsydd newydd ei gyhoeddi
|  | 
|