
 |  | Cyfle i chi ddewis eich llyfr y flwyddyn
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn - pa un fyddech chi'n ei ddewis?
Dydd Iau, Mai 3, 2001
| Y mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi enwau’r chwe llyfr sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2001.
Bydd enwau’r llyfr Cymraeg a’r llyfr Saesneg buddugol yn cael eu cyhoeddi yng Ngwyl y Gelli ar Fai 28.
Yn y cyfamser mae cyfle i ddilynwyr Llais Llên ddweud pwy maen nhw’n ei feddwl ddylai ennill - neu hyd yn oed ddewis llyfr nad yw ar y rhestr fer.
Gallwch ebostio eich awgrym trwy glicio yma
Y cyfan sydd raid ichi ei wneud yw enwi'r llyfr y tybiwch chi a ddylai gael ei anrhydeddu yn llyfr y flwyddyn.
Mae’r wobr gan Gyngor y Celfyddydau yn mynd i’r llyfr a ddewisir gan banel o feirniaid yn llyfr mwyaf nodedig yn y Gymraeg ac yn y Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 2000.
Mae tri llyfr Cymraeg a thri Saesneg ar y rhestr fer gyda gwobr o £3,000 yr un i’r enillwyr ym mhob categori a £1,000 yr un hefyd i’r awduron eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. .
Yr awduron Cymraeg yw:
Owen MartellCadw dy ffydd, brawdGwasg Gomer. Nofel gyntaf awdur, a fagwyd ym Mhontneddfechan ac sy’n byw bellach yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn adran chwaraeon BBC Cymru.
Y nofel hon fu’n fuddugol yng Nghystadleuaeth Nofel 2000 Gwasg Gomer.
Mihangel MorganCathod a Chwn, Y Lolfa. Casgliad newydd o storiau byrion gan "awdur gwreiddiol a beiddgar". Yn frodor o Aberdâr, y mae’n byw yn Nhal-y-bont ger Aberystwyth ac yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth.
Jerry Hunter Soffestri’r Saeson Gwasg Prifysgol Cymru. Ymdriniaeth ddadlennol â chyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru: oes y Tuduriaid.
Magwyd yr awdur yn Ohio; y mae’n byw yng Nghaerdydd.
Yr awduron ar y rhestr fer Saesneg yw: Desmond BarryThe Chivalry of Crime Jonathan Cape. Nofel am hanes Jesse James, a’i gymdeithas dreisgar. Magwyd yr awdur ym Merthyr Tudful ond y mae yn awr yn byw yn New Jersey.
Stephen KnightMr Schnitzel Viking. Nofel hunan-gofiannol gan un o feirdd Saesneg amlycaf Cymru. Fe’i lleolir yn Awstria ac yn Abertawe, lle magwyd yr awdur.
Owen SheersThe Blue Book Seren. Y mae Owen Sheers, o’r Fenni, eisoes wedi’i gydnabod yn un o leisiau mwyaf addawol y mileniwm newydd. Dyma ei gasgliad cyntaf.
Dewiswyd y chwe llyfr gan ddau banel o feirniaid: yn Gymraeg, Harri Pritchard Jones, Gwyneth Lewis ac R. Arwel Jones; ac yn Saesneg, Bernice Rubens, Peter Florence a Peter Stead.
Cysylltiadau rhyngwladol Y mae Cyngor y Celfyddydau yn tynnu cryn sylw at gysylltiadau rhyngwladoly gystadleuaeth hon eleni gan ddweud:
" MaeDesmond Barry, o Ferthyr, yn ysgrifennu am yr Unol Daleithiau ac yn byw yno; Jerry Hunter, o’r Unol Daleithiau, yn ysgrifennu am Gymru, yn Gymraeg; Owen Martell yn ysgrifennu am Gymru a’r Unol Daleithiau; Mihangel Morgan, yn cwmpasu Efrog Newydd, Paris, Tokyo ac Aberystwyth; Stephen Knight yn symud rhwng Cymru ac Awstria; ac Owen Sheers rhwng Cymru a Ffiji."
Ewch ymlaen yn awr i enwi eich dewis chi o lyfr y flwyddyn trwy glicio yma
|  | 
|