
 |  | Nofel dwy fil Gomer
Nofel dwy fil o bunnau gan Owen Martell
Dydd Iau, Eebrill 13, 2000 | Nofel i bobol ifanc gan awdur ifanc.
Felly yr oedd y nofel a wobrwyd yng nghystadleuaeth dwy fil Gwasg Gomer yn cael ei gwerthu yr wythnos diwethaf.
Awdur Cadw dy ffydd, brawd, gyda'i gamdreiglad bwriadol, ydi Owen Martell 23 oed a fagwyd ym Mhontneddfechan, Cwm-nedd.
Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Cwm Nedd ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Graddiodd yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth gan ennill gradd uwch wedyn yng Ngholeg Iesu Rhydychen.
Y tri beirniad a ddyfranodd fod ei nofel werth y dwy fil o bunnau o wobr a gynigwyd gan Wasg Gomer am nofel gyntaf oedd, John Rowlands, a enillodd yn ei ieuenctid gryn enw fel nofelydd Cymraeg blaengar ac sydd hefyd yn feirniad llenyddol praff; Ffion Dafis y seren deledu a Bethan Mai Matthews, golygydd llyfrau Cymraeg Gwasg Gomer.
Yr oedd y darn o feirniadaeth John Rowlands a anfonodd y wasg allan gyda'r nofel gyhoeddedig yn addo'n dda. ". . . mae'r monologue interieure sy'n llifo dros y tudalennau yn datgelu person miniog ei feddwl, llawn synnwyr anghyffredin, sinigaidd un funud, eironig y funud nesaf, ac yn byrlymu gan hiwmor di-wên ar adegau eraill. Mae'i synfyfyrion yn igam ogam, a'i feddwl ychydig ar sgiw,'' meddai.
Ym meddwl y storiwr, Dafydd Gilley, y mae’r stori yn digwydd a dilyn llif ei feddyliau ef ydym ni yn y nofel wrth iddo dafoli ei fywyd a cheisio gosod rhyw lun arno.
Y mae tebygrwydd amlwg rhwng cefndir Gilley a chefndir yr awdur ei hun gyda’r "blyrb" y byddai Gilley yn ei gynnwys ar glawr ei nofel ef pe byddai’n sgrifennu un yn cael ei gynnwys ar ddalen 72 i’n hatgoffa, mae’n amlwg, o gefndir yr awdur ei hun.
Yn amlwg mae’r awdur am awgrymu yn gryf mai ef sydd yn siarad trwy Gilley er efallai fod digwyddiadau penodol yn ddychmygol am a wyddom ni.
Ar gychwyn y nofel y mae Gilley yn paratoi i gychwyn ar daith y datgelir maes o law mai Chicago yw ei therfyn ond y mae llawer o atgofion i’w treulio cyn y gwireddir hynny.
Dydi hi ddim yn nofel hawdd cael i mewn iddi ond yn galw am gryn ymdrech gan y darllenydd - ond y mae’n bwysig ychwanegu y gwobrwyir yr ymdrech honno. Ond dydi hi ddim y math o nofel i’w darllen ar daith tren, er enghraifft, fel y ceisiais i ei wneud. Y mae yn galw am fwy o ganolbwyntio nag a fyddai amgylchiadau felly yn eu caniatau.
Y mae yr awdur yn profi ei hun i’r eithaf. Nid oes amheuaeth mai un o’r meini prawf enbydaf ar unrhyw awdur yw sgrifennu am ddiflastod. Y mae diflastod yn rhan allweddol o fywyd Gilley. Camp awdur yw gwneud i’r hyn sy’n ddiflastod i gymeriad yn ddiddorol i ddarllenydd.
Y mae Owen Martell yn llwyddo yn hynny ac yn gosod ger ein bron gymeriad hynod o gymhleth gyda sawl haen i’w gymeriad.
Y mae yn gymeriad sydd yn amlwg wedi ei greu gan awdur ifanc ond y mae yma ddawn greadigol y byddai sawl awdur mwy profiadol yn falch ohoni.
Cadw dy ffydd, brawd gan Owen Martell. Gomer. £6.95
|  | 
|