
 |  | Bardd sy'n cusanu trwy hances
Mae'r cerddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr a'i gilydd yng nghyfrol ddiweddaraf Menna Elfyn
Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
| Cusan Dyn Dall gan Menna Elfyn. Bloodaxe.
 Adolygiad ganKatie Jones
Gan ei bod hi'n bum mlynedd ers i Menna Elfyn gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth yr oedd hi'n hen bryd inni gael blasu ei danteithion eto.
Dyma ei degfed cyfrol o gerddi a'r drydedd i gynnwys cyfieithiadau Saesneg ochr yn ochr a'r cerddi gwreiddiol.
Cyfieithwyd y cerddi hyn gan bump o lenorion, Joseph P.Clancy, Gillian Clarke, Tony Conran, Elin ap Hywel a Nigel Jenkins.
Cymraeg - a Saesneg? Cyn codi'r llyfr roeddwn i'n amau y buasai y fersiwn Saesneg yn tynnu fy sylw ac yn amharu ar fy mwynhad. Nid felly y bu hi.
Mae cael y cyfieithiad yn agoriad llygad - nid i ddeall y cerddi, ond i weld cerdd o safbwynt rhywun arall.
Difyr, wedi'r cyfan, yw ystyried dehongliad rhywun arall.
Yn wir, mae tuedd i'r darllenydd fod yn ddigon naïf a thybio y gallai gynnig gair, ymadrodd neu drosiad gwell na'r un a roddir.
Robert Frost a ddwedodd, yn enwog, "Poetry is what is lost in the translation" ond y mae Menna Elfyn yn herio'r meddylfryd hwn.
Mae RS Thomas, a gyfieithodd rai o'i cherddi blaenorol, wedi cynnig barn arall ar gyfieithu barddoniaeth:
"Mae cerdd mewn cyfieithiad fel cusan drwy hances."
Yn ei cherdd Cusan Hances, sy'n un o ddwy gerdd o deyrnged i'r diweddar RS Thomas, mae Menna Elfyn yn pwysleisio'r gred mai pontio ieithoedd - ac felly pobloedd - mae cyfieithu ac nid difetha'r farddoniaeth wreiddiol.
Sylwer, nid yw'r un peth yn wir am grefft y farddoniaeth.
Am be' mae hon yn sôn? Y byd a'i bethau yw'r teitl mwyaf cywir i ddisgrifio holl themâu Menna Elfyn gan mor eang yw ei gorwelion.
Mae ei chyfansoddi yn wreiddiol ac yn bwerus: cyfoes, ie, ond eto’n hen-ffasiwn; neis.
Mae iaith y cerddi yn llifo'n bwrpasol ac nid yw'r geiriau, fel arfer, yn cael eu gwanhau ar ôl eu trosi.
Ond teimlaf fod cyfleoedd i drosglwyddo'r hiwmor wedi'u colli yn y cyfieithu wrth gadw'n rhy agos at y gwreiddiol.
Mae Menna Elfyn wedi teithio dros y byd yn darllen ei gwaith i gynulleidfaoedd; mae'r llefydd anghysbell y mae hi wedi ymweld â hwy a'r bobl y mae hi wedi eu cyfarfod yn ychwanegu at ei gwaith.
Hawdd yw bod yn genfigennus o'r angerdd yn ei cherddi ac o'i brwdfrydedd.
Ceir cerddi sy'n disgrifio pellafoedd byd; fel Fietnam ac Efrog Newydd gyda Menna yn llwyddo i droi ei sylwadau craff ar y brodorion yn farddoniaeth apelgar.
Mae'n defnyddio natur ac effaith yr elfennau arnon ni i'w hysbrydoli i gyfansoddi.
Wrth ddweud "arnon ni" rwyf yn golygu pobl heddiw a phobl a fu yn yr oesoedd o'r blaen.
Efallai mai dynoliaeth yw’r gair mwyaf addas a phriodol i ddisgrifio y brif thema sy'n treiddio drwy ei gwaith.
Er enghraifft, yn y gerdd Haf yr Hanner Nef dywed, Mor oesol a'r ysfa i godi cragen,
Yn y gerdd Mai, sy'n dyfynnu o waith Dafydd ap Gwilym, mae'r syniad o eironi'n gryf wrth iddi ddefnyddio'r dail a'r coed, fel Dafydd, ond i greu delwedd wahanol.
Mae elfennau crefyddol a gwleidyddol yn ei gwaith ond annheg fuasai gosod unrhyw label felly arni.
Mae profiadau personol a phoenus y bardd yn amlwg yn y gerdd Lladron Nos Dychymyg sy'n trafod salwch henaint.
Ym maes serch a charu y mae Menna'n rhagori fel y gwelir yn y cerddi Croen ac Asgwrn, Y Galon Goch, Ffynnon a Dim ond Camedd. Teimlir gwirionedd trawiadol yn y gerdd Troedlath Serch,
"Ac mor brin wyf o ddaearyddiaeth dy dynolrwydd. wrth roi bys a bawd amdanat, gwn mor ddigwmpawd yw'r galon. Gwlad anial i'w threfedigaethau ydyw. (A deallaf mai di-ongl yw meidroldeb: yn begwn gogledd a de, myfi yw'r newyddian sy'n croesi'r ynys i'th ddwyrain. Yna'n araf, araf gropian." )
Felly? Oherwydd natur y gyfrol hon, mae ei hapêl yn eang - yn wirioneddol fyd-eang. Dyna pam fo Cusan Dyn Dall yn gasgliad mor werthfawr.
Mae nodiadau yng nghefn y llyfr i gynorthwyo'r darllenydd ddeall cefndir y cerddi a'r awdur ei hun.
Bydd cynulleidfa Cusan Dyn Dallyn amrywio o Gymry Cymraeg i ddysgwyr ac i bobl ddi-Gymraeg - sy'n fy atgoffa o eiriau Ezra Pound,
"A great age of literature is perhaps always a great age of translation."
Ewch yn awr iAdnabod awdur Beth yw eich barn chi am y gyfrol hon? Ebostiwch i ddweud |  | 
|