

|  | Adnabod Awdur: Menna Elfyn
Bardd aflonydd sydd wedi teithio'r byd gyda'i barddoniaeth
Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
| Holi Menna Elfyn, bardd ac awdur.
Enw: Menna Elfyn
Beth yw eich gwaith? Awdur.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Darlithydd. Ymchwilydd.
O ble’r ydych chi’n dod? O Bontardawe i Beniel i Landysul. H.y. De Cymru.
Lle’r ydych chi’n byw yn awr? Llandysul/Caerdydd.
Pam barddoni? Am na allaf beidio.
Yr ydych wedi teithio llawer - sawl gwlad, sawl milltir? Gormod i’w cyfrif - Mexico, Fietnam, Ewrop, America - ddwy waith y flwyddyn.
Beth yw gwerth teithio o’r fath - a chwithau yn fardd Cymraeg? i brofi y gall y Gymraeg fod yn iaith llên y byd i gyd.
Pa ymweliad fu’r un mwyaf cofiadwy? Sri Lanka.
Pwy yw eich hoff awdur? Robert Frost; Elizabeth Bishop; Paul Valery.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Llyfrau Albert Schweitser a Simone Weil.
Pwy yw eich hoff fardd? Waldo; T. Gwynn Jones.
Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith? Paul Anster; Romesh Gunesekera
Pa un yw eich hoff gerdd? Mewn Dau Gae, Waldo.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Dr Zhivago (dêt cyntaf gyda fy ngwr). Newsnight; Eastenders.
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir? Duw dros bawb.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn fardd? Darllen, darllen, darllen. Yn enwedig geiriaduron.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Cyfansoddi cerddoriaeth.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Aflonydd. Llonydd. Llawen.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf a pham? Desmond Tutu.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Cyfnod merched yn ymladd dros y bleidlais.
Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Simone Weil. Pam? Pam?
Pa un yw eich hoff daith a pham? O Landysul i Aberystwyth ac yn ôl.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cyri twym.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes, sawl un.
Pa linellau o farddoniaeth ydych chi fwyaf balch o fod wedi eu cyfansoddi? Heb eu creu eto.
Beth sy’n sbarduno cerddi? Darllen. Teithio. Joio byw Poeni am arian a methu a joio byw.
Gweler hefyd Adolygiad Katie Jones o Cusan Dyn Dall sydd newydd ei gyhoeddi
|  | 
|