
 |  | Dewis newydd o emynau i'r ffyddloniaid
Er bod y capeli'n gwagio mae gwerthiant llyfr emynau newydd yn anhygoel. . .
| Pan gyhoeddir Caneuon Ffydd, llyfr emynau cyd-enwadol cyntaf Cymru yr wythnos hon, bydd eisoes wedi gwerthu dros 53,000 o gopiau.
Yr enwadau yn dod at ei gilydd Daeth y Presbyteriaid, Wesleaid, Annibynwyr, Bedyddwyr a’r Eglwys yng Nghymru at ei gilydd i gyhoeddi'r llyfr.
“Cafwyd ymholiad gan y Pabyddion ond yr oedd pethau wedi symud ymlaen yn rhy bell iddyn nhw wneud cyfraniad i’r gyfrol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Golygyddol, Dr Brynley Roberts, y cyn lyfrgellydd cenedlaethol.
“Yr hyn ofynnwyd i ni ei wneud gan yr enwadau oedd cynhyrchu llyfr emynau fyddai’n adlewyrchu rhychwant gweddol eang y traddodiad Trindodaidd.
“Mae’r gyfrol yn cynnwys bron i 900 o emynau, 700 o donau ac 80 o emynau Saesneg.
"Heblaw emynau mae yma gynorthwyon addoli, ymatebion i weddïau, y Te Deum a’r Salmau - mi fuaswn i’n dymuno ein gweld ni’n mynd ’nôl i ganu mwy ohonyn nhw yn ein gwasanaethau,” meddai.
Dywedodd y Dr Roberts, sy’n gyn-Athro’r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, a chyn-Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn perthyn i enwad y Presbyteriaid fod yn y gyfrol lawer o emynau cyfarwydd o’r traddodiad Cymreig.
Emynau newydd gan feirdd cyfoes “Estynwyd gwahoddiad cyffredinol am emynau yn arbennig lle roedden ni’n gweld bylchau. Mae yn y gyfrol weithiau newydd gan feirdd fel Rhys Nicholas, Tudor Davies, John Gwilym Jones. 
"Mae emynau ar themâu mwy cyfoes - ag iddyn nhw naws fwy carismataidd, mwy myfyriol a rhythmau mwy cyfoes,” ychwanegodd.
Ymysg y themâu mwy cyfoes mae yna bwyslais ar y dyngarol fel ag yn emyn Peter Thomas, gweinidog gyda’r Wesleaid, a’r dôn gan Tecwyn Ifan sy'n enghraifft dda o gydweithio rhwng yr enwadau.
“Y mae’r llyfr ei hun yn dystiolaeth i gydweithio,” meddai y Dr Roberts “ond y mae emynau unigol sy’n pwysleisio hynny mewn cyfnod pan fo galw ar eglwysi i gyd-weithio, cyd-gerdded a chyd-foli.”
Emynau Saesneg Ynglyn â’r emynau Saesneg, dywedodd fod nifer o eglwysi Cymraeg sydd hefyd yn addoli yn Saesneg.
“Erbyn hyn mae yna blant sy’n fwy rhugl eu Cymraeg na’u rhieni ac y mae’r llyfr yn darparu rhychwant go dda o ddeunydd ar gyfer gwasanaethau dwyieithog.”
Ychwanegodd ei bod yn drawiadol bod cynifer eisiau copïau o’r llyfr a hynny mewn cyfnod pryd yr honnir bod y rhain yn ddyddiau du ar grefydd yng Nghymru.
Cyhoeddir Caneuon y Ffydd gan Wasg Gomer.
Holi Brynley Roberts - cliciwch Yma. |  | 
|