
 |  | Adnabod Awdur:
Wedi hoffi bod wrth benelin Iolo Morganwg!
Holi Brynley Roberts, cadeirydd pwyllgor golygyddol Caneuon Ffydd
| Eich enw? Brynley Roberts
Beth yw eich gwaith? Wedi ymddeol
Pa waith ydych chi wedi ei wneud? Cyn-athro Cymraeg Coleg y Brifysgol, Abertawe. Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol
Genedigol? Aberdâr
Lle 'da chi'n byw yn awr? Aberystwyth
Pwy yw eich hoff awdur? O safbwynt nofelydd, Daniel Owen
A oes llyfr wedi dylanwadu arnoch? Traddodiad Llenyddol Morgannwg, Griffith John Williams, am ei ysgolheictod eglur. Patrwm o waith ysgolheigaidd
Pwy yw eich hoff fardd? T. H. Parry-Williams
Pa un yw eich hoff gerdd? Ymwacâd - T. H. Parry-Williams. Wedi stripio’r cwbwl does dim ar ôl
Pa un yw eich hoff emyn? Mae’r Iesu’n fwy na’i roddion. William Williams Pantycelyn. 174 Llyfr Emynau’r Presbyteriaid
Pwy yw eich hoff emynydd? William Williams Pantycelyn
Pa un yw eich hoff ffilm /rhaglen deledu? Anodd dweud ond am fath o raglen - rhaglenni dogfen ac ymchwil hanes - fel America’r Celtiaid
Pa ddywediad neu ddihareb sydd agosaf at y gwir? Nid ar redeg mae aredig
Pa ddawn a fyddech chi yn ei dymuno? Dawn gerddorol
Pa dri gair sy'n eich disgrifio orau? Tawel Eencilgar Cyfeillgar
Pa berson byw / hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf? Y Fam Teresa. Teip o berson sy’n apelio ata i - rwy'n eiddigeddus iawn ohoni
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Buaswn i wedi hoffi eistedd wrth benelin Iolo Morganwg pan oedd e'n ffugio rhai o’i destunau
Pa un yw eich hoff daith? Mynd tuag adre.
Beth yw eich hoff bryd? Pasta a gwin coch
Beth yw eich hoff weithgarwch hamdden? Allan yn crwydro mewn cwmni da
Hanes llunio'r llyfr emynau newydd - cliciwch Yma
|  | 
|