|  |
 |  |  |  |  | |  | Bet Jones yn sgwrsio Awdur 'Beti Bwt' yn sgwrsio gyda Dei Tomos Adref, ar y teledu, yr oedd Bet Jones, awdur Beti Bwt yn gwrando ar feirniadaeth cystadleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 2008.
Ac yn diolch, meddai, fod ganddi ffugenw i guddio tu ôl iddo!
Hwn, meddai oedd y tro cyntaf erioed iddi sgrifennu a chystadlu.
Canmoliaeth Ac er nad enillodd derbyniodd ei nofel am blentyndod ganmoliaeth nid yn unig gan y beirniaid ond hefyd gan adolygwyr ers ei chyhoeddi ar ôl yr Eisteddfod.
Bu Bet Jones yn siarad am ei y llyfr a'i gefndir gyda Dei Tomos ar ei raglen radio nos Sul, Mehefin 15, 2008.
Bet Jones yn sgwrsio gyda Dei Tomos, nos Sul Mehefin 15 ar BBC Radio Cymru
"Fe'i disgrifiodd fel "hanner hunangofiannol" ac wedi ei leoli ym mro ei phlentyndod, Trefor - neu Hendra - ger Caernarfon.
"Mae yna dipyn dod o'r cof ond fy mod i wedi eu lliwio nhw rywfaint er mwyn cael stori," meddai.
Bwlio Elfen yn y llyfr a ganmiolwyd yn fawr gan un o'r beirniaid oedd y darlun o fwlio ond dywedodd Bet Jones na chafod hi ei bwlio ond bod yna 'Blydi Dinah Smith' yn ei hysgol hithau.
"Yr oedd yna rywun oedd gen i hofn i ac roedd hi'n hŷn a chanddi'r arferiad o wneud y ngwallt i efo llechan ac roeddwn i hofn hi'n ddychrynllyd," meddai.
Gweld corff Digwyddiad "dychmygol i gyd" yw un arall yn y nofel meddai am fynd i weld corff a dwyn rhosod ar y ffordd.
"Yr oedd yn dal yn arferiad gan hen bobol i fynd i weld cyrff a dwi'n cofio pan oeddwn i'n llai na chwech oed - tua thair - mae gen i frith gof o gymeriad yn Nhrefor oedd yn fy ngwarchod i'r diwrnod hwnnw ac yn mynd a fi i weld corff rhywun oedd yn ei harch mewn ffrog briodas a dwi'n meddwl fod hwnnw wedi cael effaith arnaf i ar y pryd achos roeddwn i'n claddu fy noliau mewn bocsys sgidia wedyn ," meddai.
Newid Ar gyfer y nofel a gyhoeddwyd dywedodd iddi dymheru ambell i ddigwyddiad oherwydd i'r beirniaid ddweud iddi or-ysgrifennu ambell i beth.
Newidiodd ddiwedd stori'r teledu, meddai, ond mewn gwirionedd malwyd y teledu dan sylw yn deilchion.
Disgrifiodd ei phlentyndod fel un hapus ymhlith pobl gyda balchder a lle'r oedd mynd i ddyled yn destun ofn. Yr oedd hefyd yn gyfnod o falchder mawr mewn addysg i blant ac yn gyfnod cymdogol o ddrysau yn agored.
Pan ofynnwyd iddi a fydd dilyniant i Beti Bwt dywedodd:
Mwy i ddod? "Mi rydw i wedi gwneud dipyn bach o dwll i mi fy hun fy mod wedi gorffen [y nofel] yn Lerpwl. Mi fuasai raid gwneud dipyn o ymchwil ond mi fuaswn i'n hoffi ysgrifennu eto os gwnaiff yr amser ganiatáu," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol Holi Bet Jones  Beti Bwt - adolygiad Meg Elis 
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|