BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Beti Bwt
Plentyndod yn y Pumdegau
  • Adolygiad Meg Elis o Beti Bwt gan Bet Jones. Y Lolfa. £6.95


  • Bai Pwyllgor Eisteddfod Sir y Fflint oedd o, er nad ydw i'n eu condemnio nhw am y gwyrthiau wnaethon nhw dan yr amgylchiadau.

    O weld y geiriau "Cyfrol ar thema 'Plentyndod'" yn destun cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, gallai rhywun ragweld y math o gynnyrch.

    Ac eto dwi ddim yn condemnio, oherwydd cawsom Rhodd Mam, gan y llenor crefftus Mary Annes Payne nad ydi pawb, hyd yn oed ar ôl iddi gael ei gwobr haeddiannol, wedi cydnabod ei chrefft a'i gallu.

    Clawr y llyfr A rŵan dyma Beti Bwt ddaeth yn agos iawn ati yn y gystadleuaeth ac wedi dilyn yr un math o drywydd.

    Does dim angen bod yn broffwyd i ragweld croeso cynnes i'r llyfr hwn. Gwyliwch y blychau'n cael eu ticio:
  • Nofel llais-plentyn - tic.
  • Pumdegau - tic.
  • Ardal wledig - tic.
  • Cymreig - rhowch ddau dic iddi . . .

    Adnabod nodweddion
    Ga'i ddatgan diddordeb fan hyn?
    Mi gefais innau blentyndod yn y Pumdegau.
    A minnau'n wynebu cyfnod pan fydd fy ŵyr/wyres yn dweud "On i'n cid yn y dims/degs", dwi ddim mor orawyddus i gyhoeddi hyn, ond mi wna'i.

    Ac mae'r rheswm yn syml.
    Dwi'n nabod rhai nodweddion o'r hyn mae Beti Jones yn sôn amdanynt ond dim llawer. Plentyndod Cymreig gefais innau, ond o ddewis - dewis fy rhieni. A phlentyndod trefol, sy'n gwneud i rai o'r pethau sy'n cael eu crybwyll yma; trip ysgol Sul, dyfodiad telefision, ymddangos yn ofnadwy o hen-ffasiwn. Mi fasa nhw'n hen-ffasiwn i mi bryd hynny ond i blant heddiw?????

    Mae ambell i sôn am wisg ac ati yn rhoi rhyw deimlad troad, yn hytrach na chanol, y ganrif.

    Sgwennu ardderchog
    Wedi dweud hynny, mae yma sgwennu ardderchog.
    Mae diniweidrwydd plentyndod, o'i gyfleu yn grefftus, yn cyrraedd y galon, boed hynny yn Nhrefor dan law Bet Jones neu yn Kabul gyda Khaled Hosseini yn sgwennu.
    Syth-welediad, hwnna ydi o.

    Funud yn ôl, roeddwn i'n pellhau fy hun oddi wrth sefyllfa'r nofel hon. Efo'r bwli Dinah Smith, a'r tyndra rhwng pwy sy'n ffrindiau gorau yn yr ysgol bach, roeddwn i nôl chwap yn yr union le â hi.

    Fel y mae pob plentyn - ond nid pob oedolyn sy'n medru cofio, na chyfleu, a dyna sy'n gwneud y llyfr hwn yn gymaint o drysor.
    Dach chi yno.
    Mae gynno ni i gyd ein blydi Dinah Smith.

    'Ffyncshynio'
    Yn ei beirniadaeth ar Rhodd Mam yn Eisteddfod Sir y Fflint, cyfeiriodd Jane Edwards at "y teulu mwyaf dysfunctional i mi ddod ar ei draws erioed mewn nofel Gymraeg."

    Doeddwn i ddim yn siŵr am y farn bryd hynny ac wedi darllen Beti Bwt, rydw i'n fwy argyhoeddedig nac erioed nad yw llawer o'r teuluoedd sydd yn yr hafan fach Gymreig hon yn 'ffyncshynio' mor wych â hynny, chwaith.
    Dwi'n dal i gofio dagrau Mam Rodney, un o'r darnau gorau yn y llyfr.

    Plesio'r gynulleidfa
    Wrth gwrs, mae gynnoch chi'r pethau sy'n mynd i blesio'r gynulleidfa - y bennod am y Trip Ysgol Sul, er enghraifft (ac ydach, rydach chi'n gwybod cyn cychwyn y bydd rhywun yn chwydu ar y bws).

    Ond mae diwedd y llyfr, mis diwethaf y flwyddyn dwt, Gymreig, yn syndod o annisgwyl a da.

    Mae'n swta, does dim ffrils, mae pethau'n cael eu dweud fel y maen nhw, gan gyfleu i'r dim y sydynrwydd sy'n digwydd ym myd plentyn, heb esboniad, heb gyfle i wrthwynebu.

    Darn o realaeth y presennol yn dod i mewn yn greulon ydi hyn - a diddorol trwy'r gwaith i gyd yw ymyriad yr ugeinfed ganrif - teledu, patrymau gwaith yn newid.

    Swyn nofel am y gorffennol
    Crefft Bet Jones yw ei bod hi'n cyflwyno'r holl newydd bethau hyn, gan ddweud - heb ddweud ar yr un pryd - nad ydyn nhw wir yn perthyn i'w byd hi, byd y plentyn, byd y Cymry pur, diniwed.

    Y ffaith greulon yw y basa nhw'n berffaith hapus i gael eu gadael ar ôl yn eu merddwr, tra bo gweddill y byd yn symud ymlaen.
    Dyna swyn nofel am y gorffennol.

    Ffaith greulonach yw bod yr ymlyniad hwn yn dal yno - yn yr awydd am yr hyn a fu, am bopeth fel yr oedd, am ysgolion bach yn dysgu'r un hen bethau yn yr un hen ffyrdd. . .

    Mae'r byd sy'n cael ei ddarlunio wedi diflannu, ond mae'r darlunio'n cael ei wneud mewn llais clir a chrefftus.
    Biti ei fod o'n llais Gwynedd.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Bet Jones


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy