
 |  | Holi awdur:
Emyr Price
Hanesydd a newyddiadurwr
Dydd Iau, Mai 30, 2002 | Enw: Emyr Price
Beth yw eich gwaith? Cyn-newyddiadurwr a darlithydd hanes.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Darlithydd, athro.
O ble’r ydych chi¹n dod? Pwllheli.
Lle'r ydych chi¹n byw yn awr? Caernarfon.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Rhan ohono. Fy nghas bwnc oedd ffiseg a'm hoff bynciau: Hanes, Economeg a Saeseng. Doeddwn i ddim yn hoff o'r Ysgol Ramadeg.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. Mae'n ceisio cyplysu fy hanes personol a hanes Cymru ers diwedd yr ail ryfel byd. Ysgrifennais ef ar gais gwasg.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? 1. Lloyd George Y Cenedlaetholwr Cymreig 2. Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos 3. Megan Lloyd George 4. Cymru a'r Byd Modern ers 1945 5. Y Wladwriaeth Deg 6. Ennill y Bleidlais 7. Trosi Y Celtiaid
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Llyfr Mawr y Plant.
A fyddwch yn edrych arno’n awr? Na fyddaf.
Pwy yw eich hoff awdur? Gwyn. A. Williams.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Yn ôl i Leifior a Y Chwalfa.
Pwy yw eich hoff fardd? R. Williams Parry.
Pa un yw eich hoff gerdd? Gair o Brofiad gan R. Williams Parry.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? "Rwy'n wych, rwy'n wael, rwy'n gymysg oll i gyd".
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilm: Great Expectations Teledu: C'mon Midffild
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Dwn i ddim.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Dwn i ddim.
Pa un yw eich hoff air? Dwn i ddim.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Ysgrifennu nofel neu ganu opera.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Nerfus, tymhestlog, penderfynol.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Diffyg amynedd.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? Nelson Mandela oherwydd ei ddewrder a'i ddyfalbarhad.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Sefydlu'r Gwasnaeth Iechyd.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Lloyd George - llu o gwestiynau oherwydd i mi astudio ei fywyd.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Mynd i Uwchmynydd neu i Benrhyn Dingle yn Iwerddon.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cig oen, llysiau a thatws newydd.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Peldroed, criced, darllen.
Pa un yw eich hoff liw? Dwn i ddim.
Pa liw yw eich byd? Dwn i ddim.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Deddf eiddo yng Nghymru.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Gobeithiaf gyfieithu Lloyd George Y Cenedlaetholwr Cymreig i'r Saesneg.
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Dwn i ddim.
Adolygiad o Fy Hanner Canrif I
|  | 
|