 | Llyfr y Flwyddyn 2007 - hepgor dau Dau lyfr o bwys ddim yn addas medd y beirniaid Eleni nid yw dau o'r llyfrau mwyaf trawiadol a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn yn cael eu cynnwys o gwbl yn y rhestr o ddeg o lyfrau Cymraeg gorau'r flwyddyn!
John Rowlands yn siarad gyda Gwilym Owen ar Wythnos Gwilym Owen, Mawrth 12, 2007.
Wrth gyhoeddi rhestr fer hir Llyfr y Flwyddyn 2007 yng Nghaerdydd ac yn Ninbych nos Wener, Mawrth 2, 2007, dywedodd y beirniaid na allent gynnwys Cydymaith Caneuon Ffydd gan Delyth Morgans na chyfrol Cledwyn Fychan yn olrhain hanes y blaidd yng Nghymru ar y rhestr.
Torri allan "Eleni, roedd dau lyfr da iawn yn cael eu torri allan o'r gystadleuaeth. Mae Cydymaith Caneuon Ffydd gan Delyth Morgans yn werth ei gael ar bob aelwyd ddiwylliedig, ond cyfeirlyfr ydyw, nid llyfr i'w ddarllen o glawr i glawr.
"Roedd Galwad y Blaidd gan Cledwyn Fychan yn apelio'n fawr iawn atom, ond y mae rhannau helaeth o'r gyfrol honno hefyd yn gyfeiriadol," meddir mewn beirniadaeth gyfansawdd a luniwyd gan John Rowlands, Elinor Jones a Gwion Hallam.
Dei Tomos yn holi Gwion Hallam am y gystadleuaeth ar gyfer i raglen nos Sul ar BBC Radio Cymru, Mawrth 4, 2007.
Y mae hyn eisoes wedi anniddigo ambell un fel ag y gwnaeth penderfyniad ddwy flynedd yn ôl i beidio ag ystyried hunangofiannau ar gyfer y gystadleuaeth y tro hwnnw.
Mewn lle anodd Ond mae beirniaid Llyfr y Flwyddyn wedi hen arfer â chwynion ynglŷn a'r sefyllfa bron yn amhosib y maent yn cael eu gosod ynddi o orfod dewis allan o amrywiaeth mor eang o lyfrau ddeg llyfr ar gyfer y rhestr hir ac wedyn tri ar gyfer rhestr fer ac wedyn y gyfrol fuddugol a fydd yn ennill £10,000.
Yn eu sylwadau eleni dywed y tri:
"Fe ellid dadlau nad yw hon yn gystadleuaeth deg o gwbl," meddir.
"Roeddem yn gorfod mesur a phwyso llyfrau a berthynai i gategorïau cwbl wahanol i'w gilydd. Sut y mae modd cymharu cyfrol o farddoniaeth a llyfr o feirniadaeth?
"Buasai wedi bod yn llawer haws dewis Nofel y Flwyddyn, er bod hynny hefyd yn anodd.
"Fe ddywedwyd o'r blaen - ac fe ddywedir eto - bod angen mwy nag un gystadleuaeth: un ar gyfer ffuglen, un ar gyfer barddoniaeth, un ar gyfer beirniadaeth, a beth am hunangofiannau, cofiannau a llyfrau hanes?
"Wedi dweud hynny, onid yr ehangder yma - a'r amrywiaeth yng nghategorïau'r llyfrau - yw un o'r pethau sy'n gosod y gystadleuaeth yma ar wahân i aml i gystadleuaeth debyg.
Symud a chyffroi "Ac os mai chwilio am 'Lyfr Cymraeg y flwyddyn' yw'r nôd - onid yw'n bosib i gyfrol o farddoniaeth neu gofiant, i gyfrol academaidd neu nofel 'boblogaidd' godi i'r safon hwnnw ym meddwl y beirniaid.
"Llyfr y flwyddyn yw'r llyfr - beth bynnag ei fwriad neu ei fath - sydd wedi symud a chyffroi a chyfoethogi bywyd y darllenwr (neu'r beirniaid) fwyaf," meddir.
Anos fyth?
Ac yn wyneb y sylwadau hynny bydd rhai darllenwyr yn ei chael yn anos fyth deall sut y gellir cyfiawnhau hepgor dau lyfr mor arbennig a Cydymaith Caneuon Ffydd o'r rhestr hir.
Cliciwch YMA i ddarllen sylwadau'r beirniaid yn gyflawn.
Cliciwch YMA i weld y rhestr a darllen am y llyfrau.
Cliciwch YMA i weld lluniau o'r noson yn Ninbych.
Cysylltiadau Perthnasol Cydymaith Caneuon Ffydd  Galwad y Blaidd 
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|